Dyluniwyd Sinema’r Coliseum yn Nhreganna gan y pensaer lleol, Edwin J. Jones, a’i adeiladu gan y Canton Cinema Company ym 1912. Roedd y cynlluniau a gymeradwywyd yn awgrymu bod ynddo seddi i 899 ar y llawr gwaelod gydag 192 ychwanegol yn yr oriel, ond mae sylwadau ar wefan Cinema Treasures yn awgrymu’r posibilrwydd bod nifer y seddi’n sylweddol lai na hyn. Wedi ei leoli yn 139-143 Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, ar gornel North Morgan Street, agorodd ar 6 Ionawr 1913, gyda The Panther’s Prey fel y brif ffilm. Tua 1930 gosodwyd system sain RCA ynddo a’i ailenwi yn Coliseum Cinema.
Fel sawl sinema arall, daeth yn neuadd fingo yn y 1960au. Ar ddiwedd y 1980au cafodd ei ddymchwel a maes o law ailddatblygwyd y safle gan Castle Leisure Ltd (rhan o’r ymerodraeth fusnes a sefydlwyd gan Solomon Andrews, sydd ym meddiant ei ddisgynyddion o hyd), sy’n honni mai hwn oedd ‘y clwb bingo pwrpasol cyntaf i’w adeiladu yn y DU’.
David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg
Ffynonellau a ddefnyddiwyd:
- Casgliad Mary Traynor [D1093/2/33]
- Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau rheoli adeiladu, cynllun o’r Picture Palace, Heol y Bontfaen, 1912 [BC/S/1/18359]
- South Wales Echo, 6-7 Ionawr 1913
- http://cinematreasures.org/theaters/20803
- http://cardiffhistory.tumblr.com/post/21262289342
- http://www.castlebingo.co.uk/
- https://www.companycheck.co.uk/