62 Heol Charles, Caerdydd

Gan fod eiddo Heol Charles wedi’i ail-rifo o leiaf ddwywaith, dyw hi ddim yn hawdd olrhain hanes rhif 62. Fodd bynnag, mae’r adeilad siŵr o fod yn dyddio o ganol y 19eg ganrif.  Drwy gymharu manylion cyfrifiadau a chyfeirlyfrau, gwelwn mai rhif 52 ydoedd tua 1880 ac ar ddechrau’r 1900au, ac mae’n bosibl taw ei enw oedd Llancarvan House.

D1093-1-3 p5

Mae’n debyg bod y tŷ gwreiddiol yn fwy plaen na’r un presennol, oherwydd dim ond ym 1884 y ceisiwyd caniatâd cynllunio i ychwanegu ffenestri bae a phorth.  Cyflwynwyd y cais hwnnw gan Thomas Windsor Jacobs, Henadur Caerdydd, a wasanaethodd fel Maer ym 1887-88. Mae cofnodion yn dangos iddo fyw yn 52 Heol Charles ymhell i mewn i’r 1890au.

Yn dilyn ymadawiad yr Henadur Jacobs, prynwyd yr eiddo gan Fwrdd Gwarcheidwaid Caerdydd a gartrefodd y Poor Law Union Dispensary yno tan iddynt ddirwyn i ben ym 1930, a hefyd swyddfa’r Cofrestrydd Arolygol.  Mae’r meddianwyr dilynol wedi cynnwys gwerthwyr cynhyrchion amrywiol, cyfreithwyr ac elusen.  Heddiw mae’r adeilad yn wag ac wedi’i esgeuluso.

David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor (cyf.: D1093/1/3)
  • Cofnodion Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau ar gyfer ychwanegiad i dŷ, 52 Heol Charles Street, 1884 (cyf.: BC/S/1/4454.1)
  • Cofnodion Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau ar gyfer Swyddfa Cofrestrydd newydd, Tŷ Llancarfan, Heol Charles, 1897 (cyf.: BC/S/1/12408)
  • Cyfeirlyfrau amrywiol ar gyfer Caerdydd
  • Cyfrifiad 1851 – 1911

 

Advertisements

Eglwys Fethodistaidd Wesleaidd, Heol Charles, Caerdydd

Safai Neuadd Ganolog yr Eglwys Fethodistaidd Wesleaidd ar gornel Heol Charles a Heol y Bont, Caerdydd.  Gosodwyd y garreg sylfaen ar 16 Gorffennaf 1849 gan Alderman David Lewis, Maer Caerdydd, a oedd hefyd yn aelod o’r eglwys.  Cafodd ei dylunio gan James Wilson o Gaerfaddon. Ar y pryd, roedd ei harddull Gothig yn anarferol i adeilad anghydffurfiol yng Nghymru.  Agorwyd yr eglwys ar 25 Medi 1850.

Ar 12 Ebrill 1895, dinistriwyd yr adeilad mewn tân a gafodd ei gynnau yn fuan ar ôl  gorffen defosiynau Dydd Gwener y Groglith.    Ychydig dros dri mis yn ddiweddarach, ar 24 Gorffennaf, cymeradwywyd cynlluniau adeiladu ar gyfer eglwys newydd a ddyluniwyd gan Jones, Richards a Budgen o Gaerdydd, a chychwynnwyd ar y gwaith ailadeiladu, yn bennaf ar sylfaen yr adeilad gwreiddiol.

D1093-2-21 to 44 029 Wesleyan Charles Street levelled

 

Parhaodd yr eglwys i wasanaethau Methodistiaid Caerdydd yn ystod y pedwar degawd cyntaf o’r ugeinfed ganrif.  Cafodd y briodas olaf ei chofrestru yno ar 5 Mehefin 1937, a chaewyd yr eglwys yn fuan wedi hynny mae’n debyg.  Mae cyfeirlyfrau lleol yn awgrymu y cafodd yr adeilad ei ddefnyddio tua diwedd y 1940au gan y Weinyddiaeth Lafur a’r Gwasanaeth Gwladol (Adran y Menywod).  Yn ystod y 1950au, roedd yn gartref i Adran Gyflenwadau Bwrdd Ysbytai Rhanbarthol Cymru, a hefyd yn Ddepo Dillad ar gyfer Gwasanaeth Gwirfoddol i Fenywod.  Erbyn yr 1960au, ymddengys nad oedd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio.  Yn ddiweddarach, cafodd ei ddefnyddio am gyfnod gan Opera Cenedlaethol Cymru cyn cael ei ddymchwel yng nghanol y 1980au.

Bellach mae adeilad modern ar y safle sy’n gartref i Ganolfan Waith yng Nghaerdydd.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor [D1093/2/29]
  • Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau rheoli adeiladu, cynllun ar gyfer ail-adeiladu Capel Wesle, Heol Charles, 1895 [BC/S/1/10874]
  • Eglwys Fethodistaidd Wesleaidd Heol Charles, Caerdydd, cofrestr priodasau, 1934-1937 [DWESMARR7]
  • South Wales Echo, 13 Ebr 1895
  • Jenkins, J. A. & James, R.E., The History of Nonconformity in Cardiff (1901)
  • Cyfeirlyfrau amrywiol ar gyfer Caerdydd
  • http://www.coflein.gov.uk
  • http://www.peoplescollection.wales/items/11608
  • http://www.welshchapels.org