Stori’r Gwirfoddolwr

Cafodd cymdeithas Prydain ei hysgwyd gan Streic Cyffredinol a barodd naw diwrnod ym mis Mai 1926 wrth i 1.5 miliwn o weithwyr ledled y wlad wneud safiad. I lawer yn yr undebau llafur, roedd yn weithred syml o gadernid gyda’r glowyr a oedd wedi gweld eu cyflogau a’u telerau ac amodau gwaith yn gwaethygu’n gyson dros y blynyddoedd yn dilyn diwedd yr Ail Ryfel Byd. Yn wir, roedd cyflog y glowyr wedi gostwng bron i draean erbyn 1926 o gymharu â 1919. Arweiniodd cynigion i leihau cyflogau a chynyddu oriau gwaith ymhellach at ymateb enwog Ffederasiwn Glowyr Prydain Fawr: ‘Not a penny off the wages and not a minute on the day’. Cafwyd ymateb unfrydol gadarnhaol ymysg yr undebau a’u haelodau i benderfyniad y TUC ym mis Mai 1926 i annog y gweithwyr trafnidiaeth, yr argraffwyr a’r gweithwyr haearn a dur i sefyll ochr yn ochr â’u cyfoedion yn y pyllau glo.

I eraill, roedd penderfyniad y TUC yn cynrychioli Streic Cyffredinol, ac yn her i lywodraeth gyfansoddiadol. Gyda syfrdandod y gwrthryfel Bolsieficaidd yn Rwsia yn fyw yn y cof, galwodd y Prif Weinidog, Stanley Baldwin, y streic yn ‘her i San Steffan’ ac yn ‘llwybr at anarchiaeth ac adfail’ [The British Gazette, 6 Mai 1926]. Cyn i’r streic gael ei gyhoeddi, roedd y Llywodraeth wedi paratoi i sicrhau parhad gwasanaethau allweddol ledled y wlad, i’w rhedeg ym mhob ardal gan Gomisiynydd Sifil a benodwyd yn ganolog. Yn Ne Cymru, penodwyd Iarll Clarendon ar 2 Mai 1926 yn Adeilad Dominions yng Nghaerdydd i weithio gyda’r awdurdodau lleol i gynnal cyfraith a threfn, trafnidiaeth a chyflenwadau bwyd. Cafodd hefyd fanteisio ar gangen leol y Pwyllgor Gwasanaeth Gwirfoddol i recriwtio dynion a menywod lleol i gadw’r dociau a’r gwasanaethau trafnidiaeth lleol i weithredu ac, yn ôl yr angen, i roi hwb i’r heddlu. I gyd, recriwtiodd y Pwyllgorau Gwasanaeth Gwirfoddol dros 12,000 o wirfoddolwyr yn Ne Cymru. Defnyddiwyd nifer fach o ddynion i gynnig gwasanaeth sylfaenol ar y rheilffyrdd ac yn y dociau. Roedd effaith y gwirfoddolwyr yn fwyaf amlwg yn yr ardaloedd trefol, yn arbennig yng Nghaerdydd, lle cawsant eu defnyddio i redeg gwasanaethau tram a bws. Er bod y TUC wedi annog aelodau i osgoi gwrthdaro, roedd y Llywodraeth yn benderfynol o sicrhau bod gwasanaethau hanfodol ar gael, a gosododd filwyr yn y rhan fwyaf o ddinasoedd a threfi a llongau’r llynges mewn porthladdoedd allweddol.

Mae gan Archifau Morgannwg ddeunydd sy’n adrodd stori’r Streic Cyffredinol yn Ne Cymru o safbwynt yr undebau, gwirfoddolwyr lleol a’r rheini a redodd y Pwyllgorau Gwasanaeth Gwrifoddol. Mae pethau fel cofnodlyfrau ysgolion hefyd yn adrodd yr effaith ar gymunedau lleol.

Dros y pythefnos diwethaf rydym wedi bwrw golwg ar stori gweithiwr rheilffordd a swyddog undeb o Aberdâr, a swyddog o Bwyllgor Gwasanaeth Gwirfoddol. Heddiw edrychwn ar Stori’r Gwirfoddolwr.

Ar 16 Gorffennaf 1926 cafodd dynion a merched o ardaloedd ledled De Cymru wahoddiad i Neuadd y Ddinas Caerdydd gan yr Arglwydd Faer, yr Henadur WB Francis a Chadeirydd y Pwyllgor Tramffyrdd, yr Henadur W R Williams. Roedd y digwyddiad yn dderbyniad dinesig crand i ‘Yrwyr a Chasglwyr Tocynnau Gwirfoddol a roddodd wasanaeth ffyddlon i’r Dinasyddion yn ystod y cyfnod 4 – 15 Mai 1926′. Yn ystod y noson cafodd y rhai a fu’n gwasanaethu ‘yn ystod cyfnod yr Argyfwng Cenedlaethol’ – sy’n fwyaf adnabyddus fel Streic Fawr 1926 –  eu cyflwyno â choflyfrau a ddilynwyd ag adloniant cerddorol a dawnsio tan ddau o’r gloch y bore. Roedd hwn yn dderbyniad nodedig i ddathlu eu cyfraniad i’r gwaith o sicrhau cyflenwadau, trafnidiaeth a chyfraith a threfn yn ystod streic mis Mai 1926.

Mae gan Archifau Morgannwg gopïau o’r gwahoddiadau a’r coflyfrau a gyflwynwyd i ddau o’r rheiny a oedd yn bresennol yn y derbyniad, Ronald Pritchard a fu’n gwasanaethu fel Casglwr Tocynnau ar dramiau Caerdydd [Papurau’r Teulu Pritchard, D414/4/1-2]  a Cyril Small, gyrrwr [Papurau’n ymwneud a’r Faer Syr W. R. Williams, Dinas Caerdydd, DX701/9]. Mae’r Archif hefyd yn cadw tystysgrif o ddiolch gan y Prif Weinidog, Stanley Baldwin, a’r Gweinidog Cartref, W Joynson Hicks, a gyflwynwyd ym mis Mai 1926 i Leslie Chapman am ei wasanaeth fel cwnstabl arbennig yng Nghaerdydd yn ystod y Streic Fawr.

D816_1

We desire on behalf of His Majesty’s Government to thank you in common with all others who came forward so readily during the crisis and gave their services to the Country in the capacity of Special Constables [Papurau Leslie Howard Chapman, D816/1]

Roedd y Streic Fawr yn gyfnod unigryw yn hanes Prydain, cyfnod a rwygodd y genedl. Am ddeg diwrnod cynhaliwyd streic gan yr undebau trafnidiaeth, haearn dur a phrint a oedd yn bygwth peri rhwystr mawr i Gaerdydd a threfi a dinasoedd ledled y wlad.  Roedd llawer wedi ymateb i’r cais am wirfoddolwyr gan y Llywodraeth i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn dal yn rhedeg. Fodd bynnag, mewn ardaloedd eraill roedd cefnogaeth sylweddol i’r streic a chynhaliwyd ralïau ym Mharc Cathays a fynychwyd gan ddegau o filoedd o bobl. Roedd y derbyniad dinesig, felly, yn cael ei ystyried mewn modd gwahanol iawn gan y glowyr a oedd dal ar streic ym mis Gorffennaf, a’r miloedd o’r diwydiannau print, trafnidiaeth a haearn a dur a gollodd eu swyddi yn dilyn cwymp y streic, neu a orfodwyd i ddychwelyd i’r gwaith am lai o oriau a chyflog.

Nid yw’r papurau a gedwir yn yr Archifau yn nodi’r manylion o ran sut hwyl oedd ar Cyril Small, Ronald Pritchard a Leslie Chapman yn ystod diwrnodau cythryblus y Streic Fawr ym mis Mai 1926. Fodd bynnag, mae’n debygol eu bod nhw yn ei chanol hi yng Nghaerdydd o ystyried y gwrthdaro mwyaf chwerw a ddilynodd  y penderfyniad gan yr Arglwydd Faer i dorri’r streic gan y gweithwyr bws a thramiau drwy ddefnyddio gwirfoddolwyr.

Gyda’i gilydd, gwirfoddolodd mwy na 12,000 o bobl yn Ne Cymru ym mis Mai 1926, gan gynnwys bron 7,000 yng Nghaerdydd. Yn y rhan fwyaf o achosion daliodd y streic yn gadarn, ond oherwydd diffyg sgiliau a niferoedd, dim ond gwasanaeth sylfaenol, ar y gorau, y gallai’r gwirfoddolwyr a oedd yn gweithio gyda’r rheolwyr ar y rheilffyrdd a’r dociau ei gynnig . Fodd bynnag, mewn rhai meysydd roedd eu heffaith yn sylweddol. Er enghraifft, bu 600 o ddynion yn gwasanaethu fel Cwnstabliaid Arbennig yng Nghaerdydd gan alluogi’r heddlu i roi nifer fawr o swyddogion ar waith yng nghanol y ddinas drwy gydol y streic. Er bod y TUC yn annog ei aelodau i osgoi gwrthdaro yn gyson, roedd presenoldeb hyd at 200-300 o blismyn yng nghanol Caerdydd yn ddigon o rwystr i’r rheiny a allai fod yn chwilio am gyfle i amharu ar waith y gwirfoddolwyr. Roedd yr heddlu hefyd wedi lleoli gŵyr arfog i leoliadau pwysig ledled y ddinas, gan gynnwys Gorsaf Bŵer y Rhath, a, phetai angen hynny, gallant fod wedi galw ar filwyr o Gatrawd Swydd Gaerllion a oedd yn aros yn y ddinas a llongwyr o’r Llynges Frenhinol yn y dociau.

Roedd y gwrthdaro mwyaf rhwng gwirfoddolwyr a streicwyr yn ymwneud â rhedeg y tramiau yng Nghaerdydd. I ddechrau, roedd pawb ar streic ond, ymhen rhai diwrnodau, galwodd Arglwydd Faer Caerdydd ar weithwyr y tramiau i ddychwelyd i’w gwaith neu gael eu diswyddo. Hefyd, rhoddodd fesurau ar waith i recriwtio gwirfoddolwyr, y cyfeiriwyd atynt gan y streicwyr fel ‘Lord Mayor’s Own’, (LMO) i redeg y gwasanaeth. O fewn diwrnodau, roedd gwasanaeth tram ac omnibws ar gael unwaith eto mewn rhai ardaloedd yng Nghaerdydd. Er bod yr undebau, i raddau helaeth, wedi dweud wrth eu haelodau i osgoi gwrthdaro, roedd defnyddio gwirfoddolwyr i redeg y gwasanaeth trafnidiaeth wedi llwyddo i godi gwrychyn llawer o’r streicwyr a’u cefnogwyr ac o ganlyniad bu ymosodiadau ar fysus a thramiau mewn ymdrech i atal y gwasanaeth yn gyfan gwbl. Mewn ymateb i hynny, roedd y tramiau a weithredwyd gan wirfoddolwyr yn cael eu gwarchod gan blismyn arfog. Ar anterth y streic, ar ddydd Iau 6 Mai a dydd Gwener 7 Mai, daeth torfeydd o bobl i rwystro bysus a thramiau rhag teithio ar hyd Heol-y-Frenhines a St John’s Square. Cafodd y gwasanaeth ei adfer dim ond ar ôl i gannoedd o blismyn, gan gynnwys plismyn ar gefn ceffylau, gael eu hanfon i glirio llwybr i’r tramiau gan ddefnyddio baton, ar o leiaf un achlysur, i chwalu’r torfeydd.

O ganlyniad i redeg y gwasanaeth tramiau yng Nghaerdydd yn ystod y Streic Fawr, crëwyd rhwygiadau dwfn a pharhaus ymhlith gweithwyr y tramiau. Ar ddiwedd y streic bu i lawer o’r gwirfoddolwyr gael cynnig a derbyn cyflogaeth llawn amser gyda Gwasanaeth Tramiau Trefol Caerdydd. I’r streicwyr a oedd yn dychwelyd i’r gwaith, fodd bynnag, ni roddwyd unrhyw sicrwydd a derbyniwyd llawer ohonynt yn ôl i weithio llai o oriau am lai o dâl. Dyna oedd y patrwm cyffredinol ledled yr holl grefftau a diwydiannau a fu’n rhan o’r Streic Fawr, gydag aelodau undebau, mewn rhai achosion, yn colli eu swyddi neu’n aml ond yn gallu dychwelyd i weithio ar sail telerau ac amodau is.

Mae’n anochel bron bod Ronald, Cyril a Leslie wedi bod yn rhan o’r gwrthdaro y cyfeiriwyd ato uchod mewn rhyw ffordd. Er enghraifft, mae’n debygol iawn bod Leslie Chapman yn un o’r cannoedd o gwnstabliaid arbennig a anfonwyd i strydoedd canol Caerdydd ar anterth y streic ac mae’n bosib ei fod wedi bod yn rhan o’r gwrthdaro ar 6 a 7 Mai yn Heol-y-Frenhines a St John’s Square. Byddai Ronald Pritchard a Cyril Small wedi bod yn ymwybodol iawn o’r peryglon ynghlwm wrth weithio ar y tramiau yn ystod y streic, gyda’u tramiau’n cael eu gwarchod ar bob siwrnai gan gwnstabliaid arbennig. Yn aml iawn roedd gwirfoddolwyr yn cael eu gwarchod gan blismon wrth iddynt adael eu gwaith yn y nos i deithio yn ôl i ganol Caerdydd.

Mae’n rhaid bod y derbyniad dinesig, felly, yn destun emosiynau cymysg. I Ronald, Cyril a Leslie mai’n debyg mai dim ond gwobr am wneud gwaith da ydoedd. Fe’i dilynwyd pum mis yn ddiweddarach â dathliad pellach lle cafodd y Prif Weinidog, Stanley Baldwin, a farnodd bod y Streic Gyffredinol yn ddim mwy nag ymdrech i ‘deyrnasu trwy rym’, ei wneud yn rhyddfreiniwr. Eto, i lawer, roedd y streic wedi bod yn ddull cyfreithlon o ddangos cefnogaeth i’r glowyr a oedd wedi gweld eu cyflogau a thelerau ac amodau yn cael eu gwasgu fwy a mwy ers 1918.    Roedd gweithredu uniongyrchol wedi methu ond roedd llwybrau eraill i frwydro dros amodau gwaith gwell, gan gynnwys cefnogi’r Blaid Lafur.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg