Mae gwrhydri gartref a thramor yn cael eu croniclo mewn casgliad bychan o bapurau yn ymwneud â William Henry Bevan, capten y llynges fasnachol o Benarth yn hanner cyntaf y 20fed ganrif. Disgrifir rhannau o’i yrfa liwgar mewn papurau personol, ffotograffau a phapurau newydd (cyf. DX741).
Ganed William Henry Bevan ym 1881 yn Aberriw, ger Trefaldwyn, ac ymddangosodd am y tro cyntaf ym Mhenarth fel prentis ar long hwylio. Urddwyd ef â medal y Gymdeithas Frenhinol Ddynol am achub bywyd dyn oedd wedi syrthio i’r doc; achubiaeth a wnaeth trwy neidio bymtheng troedfedd o’i long i’r dŵr oedd rhyw deg ar hugain i ddeugain troedfedd o ddyfnder. Galwyd y digwyddiad hwn yn ôl i gof gan Samuel Thomas, yn siarad ar ran Cyngor y Dref, mewn seremoni agoriadol Gwesty Washington Capten Bevan.
Cafodd yr eiddo hwnnw (rhifau 9 ac 11 Stanwell Road) a oedd wedi’u meddiannu’n flaenorol gan Ysgol Diwtorial Penarth, eu trawsnewid gan Gapten Bevan a’u hagor fel gwesty preifat ym mis Hydref 1922. Credai byddai’r enw ‘Washington’ yn denu ymwelwyr Americanaidd:
…for whom the name might have special appeal being the name of their first president and also their seat of government.
Cychwynnodd cysylltiad penodol Capten Bevan ag America ar 27 Ionawr 1914 pan gafodd ei long, yr Almirante o’r United Fruit LINE, ger Santa Marta oddi ar arfordir Colombia, alwad argyfwng gan long bleser y Warrior, a oedd mewn moroedd trwm oddi ar Benrhyn Augusta. Ar fwrdd y Warrior roedd Mr a Mrs Frederick W. Vanderbilt, eu gwesteion Dug a Duges Manceinion a’r Arglwydd Arthur Falconer, a’u criw. Ar daith o Curaçao i Colón ac yn agosáu at ddiwedd ei mordaith ysgubwyd y llong bleser i draethell tywod ym Mhenrhyn Augusta, 35 milltir o Santa Marta, wrth aber afon Magdalena. Pan ddaeth yr arwydd cyfyngder i law, nid oedd yr Almirante yn gallu gadael y porthladd oherwydd mai dim ond peth o’r cargo a oedd wedi ei lwytho ac roedd y rhan fwyaf y teithwyr ar y lan. Felly, cafodd ei chwaer long y Frutera ei hanfon ymlaen a gorchmynnwyd iddi sefyll yn barod. Pan gyrhaeddodd yr Almirante, canfuwyd bod y Warrior yn gorwedd, a’i blaen ar y lan, yn y fath ystum fel bod llif cryf o’r afon yn golchi dros ei chwarter chwith, tra roedd moroedd trymion yn chwipio yn erbyn yr ochr dde. Cafodd cychod bach eu hanfon o’r ddwy long ond roedd y moroedd yn rhy drwm i allu achub ar y diwrnod hwnnw.
Yn syth ar ôl brecwast drannoeth (yr 28ain), cymerodd Prif Swyddog yr Almirante, N.H. Edward, ei gwch bach allan eto a llwyddodd i fynd ar fwrdd y Warrior, gan fod y moroedd wedi tawelu rywfaint. Daeth o hyd i’r llong bleser yn gorffwys ar ei chêl union mewn beisfa o laid a thywod, gyda’i theithwyr mewn hwyliau hynod o dda ar ôl eu profiad dychrynllyd. Trosglwyddwyd y teulu Vanderbilt a’u gwesteion yn ddi-ddigwydd i’r Almirante ac mae’n debyg nad oeddynt wedi dioddef fawr ddim o’r profiad. Gwobrwywyd ar unwaith aelodau criw’r Almirante, fel y llong achub, gyda rhoddion o 50 doler yr un, a chafodd Capten Bevan a Mr. Edward eu hysbysu gan Mrs. Vanderbilt y byddai’r ddau yn derbyn arwydd o werthfawrogiad diolchgar y teulu wedi ei gynllunio’n arbennig, a fyddai’n cael ei wneud pan ddychwelent i Efrog Newydd.
Cadwodd Capten Bevan mewn cysylltiad â theulu’r Vanderbilt, gan gynghori aelodau ar fordwyo a phrynu rhagor o longau pleser, a bu’n brif swyddog i un ohonynt am gyfnod byr. Roedd Gwesty’r Washington ond yn gyfnod byr yng ngyrfa mordwyo Capten Bevan am bum mlynedd yn ddiweddarach, a thair blynedd ar ôl geni ei ferch Josephine, gwerthodd y gwesty a dychwelyd i wasanaeth y llynges fasnach fel Capten gyda’r Blue Star Line. Adnewyddodd ei berthynas â Jamaica lle dathlodd y papur newydd lleol yn Kingston ei ddychweliad drwy groniclo ei weithredoedd arwrol yn y gorffennol ar yr ynys yn ystod y ‘Daeargryn Mawr’. Ar 14 Chwefror 1940 cafodd ei long y Sultan Star ei fwrw gan dorpido ac am ei ddewrder fe’i hargymhellwyd ar gyfer yr OBE.