Gwaed Morgannwg: Cofnodion Iechyd a Llesiant yng Nghasgliadau’r Diwydiant Glo – Ffotograffau

Mae Grant Adnoddau Ymchwil Ymddiriedaeth Wellcome wedi caniatáu i ni gatalogio a chadw cofnodion cwmni pwll glo cyn-freinio a’r Bwrdd Glo Cenedlaethol. Mae’r Ymddiriedaeth Wellcome yn sefydliad elusennol rhyngwladol sydd wedi ymrwymo i wella iechyd ac, yn hyn o beth, un o brif nodau’r project yw gwella mynediad at gofnodion ynghylch materion meddygol a llesiant. Yn y gyfres hon o flogiadau, bydd archifydd y project, Louise Clarke, yn amlygu rhai o’r deunyddiau y gallwch chi ddod o hyd iddynt ar y pwnc hwn yn y casgliad pwll glo.

Ffotograffau

Mae casgliad Y Bwrdd Glo Cenedlaethol yn cynnwys nifer fawr o brintiau ffotograffig a negatif, rhai y gellid eu defnyddio i ddeall iechyd a llesiant yn y diwydiant glo.

Mae ffotograffau o du mewn a thu allan i’r baddonau pwll glo yn dangos pensaernïaeth yr adeiladau a’r cyfleusterau oedd ar gael i weithwyr y lofa, megis canolfannau meddygol ac ystafelloedd cymorth cyntaf.

Picture1

Baddonau pwll glo, Glofa Wyllie, canol yr 20fed ganrif (DNCB/14/4/135/23)

Picture2

Ystafell Cymorth Cyntaf, Glofa Western, 1951 (DNCB/14/4/133/1)

Picture3

Ystafell Cymorth Cyntaf, Glofa Aberbaiden, 1951 (DNCB/14/4/1/1)

Mae delweddau yng nghasgliadau negatif y Bwrdd Glo Cenedlaethol yn dangos dynion yng Nghanolfa Adsefydlu Talygarn. Ym 1957, rhoddodd Talygarn driniaeth i 1,018 o gleifion ac ar yr adeg honno roedd 88% o’r dynion a gafodd driniaeth yn ddigon iach i ddychwelyd i wneud rhyw fath o waith, gyda 59.6% o’r dynion yn dychwelyd i’w gwaith arferol.

Picture4

Canolfan Adsefydlu Glowyr Talygarn, 1966 (DNCB/14/4/147/108)

Picture5

Canolfan Adsefydlu Glowyr Talygarn, 1951 (DNCB/14/4/153/272)

Gellir defnyddio’r casgliad o brintiau negatif i ddangos pwysigrwydd hyfforddiant cymorth cyntaf i’r Bwrdd Glo, gyda delweddau o gystadlaethau cymorth cyntaf rhwng glofeydd o’r 1960au yn dangos dynion yn cael eu hasesu ar eu sgiliau cymorth cyntaf mewn cyfres o sialensiau yn seiliedig ar senarios. Ceir hefyd delweddau yn dangos gweithdrefnau cymorth cyntaf a ddefnyddiwyd ar gyfer llawlyfr Bwrdd Glo, ynghyd â delweddau o offer diogelwch megis y trambiwlans a gorsafoedd cymorth cyntaf tanddaearol.

Picture6

Aelodau o Dîm Cymorth Cyntaf Gweithfa Coedely yn ystod cystadleuaeth, 1968 (DNCB/14/4/158/9/1/30)

Picture7

Trambiwlans, 1955 (DNCB/14/4/87/100)

Picture8

Ymarfer hyfforddiant achub/meddygol, Glofa Penllwyngwent, [1950s] (DNCB/14/4/104/9)

Picture9

Cystadleuaeth ambiwlans, 1953 (DNCB/14/4/155/43)

Mae casgliad ffotograffig y Bwrdd Glo bellach wedi’i gatalogio’n llawn dan y cyfeirnod DNCB/14.

Picture10

Gweithrediaeth Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn cael eu hail-hyfforddi i fod yn hunan- achubwyr, Gorsaf Achub Dinas, 1973 (DNCB/14/4/158/8/7)