Cau’r Glofeydd: Diwedd Oes

Mae cofnodion y Bwrdd Glo Cenedlaethol a’i ragflaenwyr a gedwir yn Archifau Morgannwg yn dangos cyfnodau da a gwael y diwydiant glo yn Ne Cymru. Drwy gofnodion ariannol gwelwn sut yr oedd cwmnïau mawr y pyllau glo fel Powell Duffryn ac Ocean Coal yn perfformio ar ddiwedd y 19eg a dechrau’r 20fed.

rsz_d1400-2-5-1

Tudalen o Grynodebau Cost Glo’r Glofeydd, Ocean Coal Co. Ltd, 1900-1905 (D1400/2/5/1)

Erbyn 1947 a gwladoli’r diwydiant gwelwn gofnodion sy’n dangos y cynlluniau buddsoddi ac ad-drefnu enfawr y credai’r rhai oedd yn gyfrifol am y Bwrdd Glo Cenedlaethol y byddent yn sicrhau’r diwydiant am flynyddoedd i ddod.

Yn anffodus, mae’r llyfrau hanes yn dweud wrthym nad oedd y dyfodol yn ddisglair i’r diwydiant glo, yn groes i’r honiad a wnaed ar daflen hyrwyddo Cloddfa’r Betws (Sir Gaerfyrddin), oherwydd llai na hanner can mlynedd ar ôl gwladoli, daeth diwydiant glo’r DU i ben.

rsz_dncb-5-1-5-2

Glofa Drifft Betws, taflen o’r lofa, Ion 1984 (DNCB/5/1/5/2)

Mae’r cofnodion a gedwir yn Archifau Morgannwg yn dangos y camau a gymerodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol wrth wneud penderfyniadau pan ddaeth y glofeydd i ben. Mae cofrestr cau pyllau glo sy’n dyddio rhwng 1948 a1970 yn rhoi gwybodaeth am allbwn, rhesymau dros gau, nifer y personél, nifer y bobl a drosglwyddwyd neu a gadwyd, ffigurau dileu swyddi amcangyfrifedig, trafodaethau ag Undeb Cenedlaethol y Glowyr, rhybuddion swydd a roddwyd i ddynion a dyddiad cau’r pyllau. Ategir y trosolwg o’r rhesymau dros gau hwn gan ffeiliau sy’n ymwneud â chau glofeydd unigol, sy’n cynnwys adroddiadau cau, cofnodion, gohebiaeth, cofnodion cyfarfodydd a chyfrifon elw a cholled.

rsz_dncb-67-5-20_-pg1

Tudalen o gofrestr cau pyllau glo’r Bwrdd Glo Cenedlaethol, 1948-1970 (DNCB/67/5/20)

Mae datganiadau i’r wasg a gyhoeddwyd yn ymwneud â chau Tŷ Mawr/Lewis Merthyr, Coegnant, Brynlliw/Morlais, Britannia ac Aberpergwm i’w gweld yn ffeiliau’r adran Cysylltiadau Cyhoeddus. Yn ogystal â hyn, ceir ffeil cysylltiadau cyhoeddus hefyd sy’n cynnwys nodiadau briffio a gohebiaeth ar gau glofeydd ac anghydfodau cyflogau a ffeil yn ymwneud â chau glofeydd, sy’n cynnwys rhestrau amrywiol o lofeydd sy’n rhoi manylion y dyddiadau y gwnaethant agor a’r dyddiad a’r rheswm dros gau.

Ar ôl iddynt gau, cafodd rhai glofeydd fywyd newydd. Mae ffeil sy’n dyddio rhwng 1977 a 1987 yn cynnwys gohebiaeth ynghylch tynged glofa Lewis Merthyr. Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth a chynlluniau sy’n ymwneud â’r glofa ynghyd â gohebiaeth ynghylch gwerthu’r tir a chynigion i’w throi’n amgueddfa treftadaeth. Efallai bod rhai ohonoch wedi bod i’r safle ar ei ffurf bresennol fel Parc Treftadaeth y Rhondda.

DNCB-14-1-17

Glofa Lewis Merthyr, tua 1950 (DNCB/14/1/17)

Roedd cau’r glofeydd yn ddiwedd cyfnod a ffordd o fyw i’r rhai ym maes glo De Cymru. Er mwyn coffáu’r ffordd hon o fyw a diwedd y diwydiant, cyhoeddwyd taflenni cofroddion yn dathlu llwyddiannau’r glofeydd ar drothwy eu cau.  Mae enghreifftiau o lofeydd Penalltau a Maerdy wedi goroesi yng nghasgliad Archifau Morgannwg.

DNCB-67-12-4 Mardy brochure

Cofraglen, cau Glofa Maerdy, 1990 (DNCB/5/3/4)

Mae ein catalog Canfod yn rhoi mwy o wybodaeth am yr eitemau hyn a chofnodion eraill sy’n ymwneud â chynnydd a chwymp y diwydiant glo yn Ne Cymru. Dechreuwch eich chwiliad gyda chasgliad y DNCB i weld ble mae’n mynd â chi. Mae catalogio cofnodion y Bwrdd Glo Cenedlaethol dal ar y gweill, felly parhewch i ddarllen Canfod ar gyfer deunydd newydd http://calmview.cardiff.gov.uk/

Louise Clarke, Archifydd Prosiect Glamorgan’s Blood