Gwaed Morgannwg: Cofnodion Iechyd a Llesiant yng Nghasgliadau’r Diwydiant Glo – Cynlluniau Baddonau Pen Pwll

Mae Grant Adnoddau Ymchwil Ymddiriedaeth Wellcome wedi caniatáu i ni gatalogio a chadw cofnodion cwmni pwll glo cyn-freinio a’r Bwrdd Glo Cenedlaethol. Mae’r Ymddiriedaeth Wellcome yn sefydliad elusennol rhyngwladol sydd wedi ymrwymo i wella iechyd ac, yn hyn o beth, un o brif nodau’r project yw gwella mynediad at gofnodion ynghylch materion meddygol a llesiant. Yn y gyfres hon o flogiadau, bydd archifydd y project, Louise Clarke, yn amlygu rhai o’r deunyddiau y gallwch chi ddod o hyd iddynt ar y pwnc hwn yn y casgliad pwll glo.

Cynlluniau Baddonau Pen Pwll

O 1926 ymlaen, roedd Cronfa Lles y Glowyr yn codi ardoll i ariannu rhaglen adeiladau baddonau pen pwll. Mae cynlluniau’n ymwneud â baddonau a adeiladwyd dan y Gronfa, sydd hefyd yn cynnwys y baddonau a adeiladwyd neu a addaswyd gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol ar ôl 1947, ar gael i’w gweld yn Archifau Morgannwg.  Mae’r catalog o’r 915 o gynlluniau adeiladau yng nghasgliad y Bwrdd Glo Cenedlaethol ar gael ar ein catalog ar-lein erbyn hyn hefyd (DNCB/1/4).

Picture 1

Baddonau Glofa Fernhill, brasgynllun, 1950 (DNCB/1/4/21/1)

Mae cynlluniau’r baddonau yn dangos y cyfleusterau cawod a newid a gynigiwyd i’r gweithwyr yn ogystal ag ardaloedd llesiant eraill megis canolfannau meddygol a chabanau bwyd. Drwy gynlluniau llawr, cynlluniau safle a gweddluniau, gall ymchwilwyr weld pa gyfleusterau oedd ar gael i weithwyr y pyllau glo, gan gynnwys mynedfeydd a loceri glân a brwnt, cawodydd, ardaloedd glanhau esgidiau, canolfannau meddygol a chabanau bwyd.

Picture 2

Baddonau Glofa Cwm, Golwg Tri Dimensiwn o’r Ffordd Ddynesu, 1952 (DNCB/1/4/13/2)

Roedd pensaernïaeth yr adeiladau hyn hefyd yn bwysig, gan fod y baddonau wedi’u dylunio i greu awyrgylch yn seiliedig ar iechyd a disgleirdeb. Roeddent yn defnyddio llawer o wydr fel goleuni, yn enwedig golau naturiol, a ystyriwyd yn angenrheidiol nid yn unig i helpu gyda glanhau a hylendid, ond i greu awyrgylch yn seiliedig ar iechyd a disgleirdeb – oedd yn bwysig iawn i lowyr a oedd newydd dreulio shifft mewn golau gwael o dan y ddaear. Mae rhestr ffenestri a gweddluniau adeiladau yn dangos sut y cafodd gwydr ei gynnwys yn nyluniad yr adeiladau hyn.