Warysau yn lle bu safle Pen Doc Gorllewin Bute (Glanfa Edward England)

Daeth John Humphrey England o Lundain i Gaerdydd tua 1840 a dechrau busnes.  Pan briododd ag Ann Rees yn Eglwys Sant Ioan ym 1841, dywedodd mai deliwr mewn cyflenwadau ydoedd.  Yng nghyfrifiad 1851, deliwr gwair oedd e.  Ond erbyn 1861, mae’r cyfrifiad yn cofnodi mai masnachwr tatws oedd ei waith a dyna beth y bu teulu England yn ei wneud am agos at ganrif wedyn.

Cafodd Ann a John lawer o blant – o leiaf 8 mab a 7 merch ac aeth nifer o’r bechgyn i fasnach eu tad.  Erbyn y 1880au, roedd gan Richard England (ganed 1851) ac Edward England (ganed 1859) fusnesau mewnforio tatws ar wahân yn Noc Gorllewin Pen Bute.  Yn dilyn marwolaeth Richard ym 1907 ac Edward ym 1917, aeth y busnesau i ddwylo plant y ddau.  Ymddengys bod Richard England Ltd wedi dod i ben tua 1960 ond parhaodd Edward England Ltd yn eiddo i’r teulu tan 2003 pan werthwyd y cwmni i Mason Potatoes Ltd.

rsz_d1093-2-21_to_44_028_frasers_warehouse_from_collingdon_road

Dyluniwyd yr warws ar ochr chwith y llun hwn ar gyfer Richard England ym 1884 gan y pensaer lleol, E M Bruce Vaughan.  Mae lluniau a dynnwyd ym 1955 yn dangos yr enw ‘Richard England Ltd’ yn dal ar y rhagfur.  Ers hynny, ymddengys mai Edward England Ltd oedd yno.

Mae’r cofnodion yn llai defnyddiol er mwyn darganfod beth yw’r adeilad ar y dde ond mae’n hŷn na warws Richard England.  Efallai mai storfa’r tollau oedd, y mae cyfeirlyfrau olynol ar gyfer Caerdydd yn nodi yr oedd ym Mhen Doc y Gorllewin.  O tua 1929, roedd y warws tollau yn rhan o fusnes Frazer & Company a oedd yn gweithredu hefyd fel masnachwyr storfa llongau yn Stryd Bute.  Roedd Frazers yn parhau i fod yno o leiaf tan y 1970au.

Cafodd yr holl adeiladau a welir yma eu newid yn fflatiau preswyl tua thro’r mileniwm; gelwir yr ardal nawr yn Glanfa Edward England.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

 Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor [D1093/2/28]
  • Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau rheoli adeiladu, cynllun ar gyfer warws, Doc y Gorllewin, ar gyfer Richard England, 1884 [BC/S/1/4609]
  • Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau rheoli adeiladu, cynllun ar gyfer ychwanegiadau at warws, Doc Gorllewin Bute, ar gyfer Edward England, 1895 [BC/S/1/10775]
  • Cyfreithwyr Debenham Tewson, Caerdydd, Casgliad Ystad Bute, aseiniad prydles gan Richard Travell England i Richard England Ltd, 9 Chwe 1915 [DBDT/110/3]
  • South Wales Echo, 27 Awst 1887
  • Evening Express, 12 Hyd 1907
  • Cyfrifiad 1851 a 1861
  • Mynegai’r Cofrestrydd Cyffredinol o Genedigaethau a Marwolaethau
  • Cofrestr priodasau, Eglwys Sant Ioan, Caerdydd
  • Cyfeirlyfrau amrywiol ar gyfer Caerdydd
  • http://www.masonpotatoes.co.uk/history.html
  • https://www.companycheck.co.uk/
  • Williams, Stewart, Cardiff Yesterday, cyf. 10, delweddau 41-42