Gardd-Bentref Rhiwbeina 107 Mlynedd yn ôl, Gorffennaf 1913

Yn mis Mai ar ein cyfryngau cymdeithasol fe ddangoson ni’r ffotograff yma o weithwyr ar ystâd Gardd-Bentref Rhiwbeina.

DGSR-53-18-3

Fodd bynnag, roeddem yn meddwl y gallai fod gennych ddiddordeb darganfod ychydig mwy am yr achlysur a ysgogodd y llun. Mae ymchwil yn awgrymu bod y ffotograff wedi’i dynnu yn Y Groes fore Sadwrn 19 Gorffennaf 1913.   Mae sawl cliw. Mae’r gweithlu wedi’u gwisgo mewn coler a thei ar gyfer achlysur arbennig tra, ar y dde yn y cefn, mae dau ddyn mewn gwyn yn gorffen codi llwyfan pren, gyda chadeiriau’n cael eu gosod arno fel y manylyn olaf. Yn ogystal, os edrychwch yn ofalus ar y tŷ ar y dde eithaf, y tu ôl i’r ysgol mae gorchudd cotwm yn gorchuddio rhan o’r wal.

Dyma ddiwrnod y seremoni agoriadol ar gyfer “Rhubina Fields Garden Village”, a gynhaliwyd ar brynhawn 19 Gorffennaf 1913 am 3.30. Roedd disgwyl torf fawr gyda threnau arbennig wedi’u trefnu o Orsaf Rhymni a choetsys modur o Heol y Gogledd. Roedd y dorf i’w diddanu ar lawnt y pentref, o flaen y tai, gan Fand Milwrol Caerdydd, gyda lluniaeth ar gael o bafiliynau te a godwyd ar y glaswellt.  Y prif atyniad oedd presenoldeb Iarll a Iarlles Plymouth sy’n egluro’r llwyfan ar gyfer areithiau ac agoriad swyddogol yr ardd-bentref.  Yn ystod y prynhawn roedd yr Iarll i fod i archwilio’r ddau dŷ cyntaf a gwblhawyd a rhoi’r allweddi i’r tenantiaid.

Roedd gan y gweithlu bob rheswm i deimlo balchder. Ar ôl prynu i Gymdeithas Pentref Cydweithredol Gweithwyr Caerdydd brynu 14 acer o dir yn y lle cyntaf, cynlluniwyd 34 o gartrefi. Torrwyd y dywarchen gyntaf ar 8 Mawrth 1913 ac yna, gwta bedwar mis yn ddiweddarach, roedd yr allweddi i’r cartrefi cyntaf yn cael eu trosglwyddo. Wrth ddarparu dŵr, nwy a thrydan ochr yn ochr â llety a gerddi helaeth, cynlluniwyd y tai, y cyfeirir atynt fel “bythynnod”, i osod safon newydd ar gyfer cartrefi dosbarth gweithiol. Roedd rhenti ar gyfer yr eiddo newydd wedi’u gosod yn isel, gan ddechrau ar bum swllt a chwe ceiniog yr wythnos, yn y gobaith y byddent o fewn cyrraedd teuluoedd a oed dyn byw yng nghanol gorlawn Caerdydd.

O ran y gorchudd cotwm yn y ffotograff, roedd yn cuddio deial haul a osodwyd ar wal y tŷ. Fe’i dadorchuddiwyd gan Iarlles Plymouth ar 19 Gorffennaf 1913 ynghyd â maen coffa ar wal y tŷ cyfagos – ychydig allan o olwg y ffotograff. Mae’r ddwy nodwedd wedi goroesi prawf amser a gellir eu gweld o hyd ar y tai gwreiddiol yn Y Groes.

Mae’r ffotograff yn rhan o gofnodion Gardd-Bentref Rhiwbeina a gedwir yn Archifau Morgannwg (cyf.: DGSR).

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Caeau Rhiwbeina 1913: “Health for the Child”

Mae llawer o bobl yn gyfarwydd â chefndir yr ardd-bentref yn Rhiwbeina, Caerdydd. Fodd bynnag, mae’n bosibl nad ydych wedi gweld y posteri a gynhyrchwyd yn 1913 i hyrwyddo’r pentref newydd, gyda’r cartrefi cyntaf i fod i gael eu cwblhau y flwyddyn honno.

Glam Archive Rhwbina DGSR_2_1

Glam Archive Rhwbina dgsr_2_1_b

Roedd y mudiad gardd-bentrefi yn ymateb, ar ddechrau’r 20fed ganrif, i’r amodau byw gorlawn a gwael oedd i’w cael yn y rhan fwyaf o drefi diwydiannol. Roedd gardd-bentrefi yn cynnig dewis amgen i’r amodau cyfyng ac afiach oedd i’w gweld yn aml yn y cymunedau oedd yn byw yn y tai teras bach a adeiladwyd ar gyfer y gweithlu a lifodd i Dde Cymru yn hanner olaf y 19fed Ganrif. Roedd y pentrefi newydd yn cynnig tai mawr gyda gerddi, wedi’u hadeiladu ar heolydd coediog gyda mynediad at amrywiaeth o gyfleusterau chwaraeon a hamdden cymunedol.

Roedd gardd-bentrefi hefyd yn cynnig ffordd newydd o ariannu’r gwaith o adeiladu a chynnal a chadw ystadau o’r fath.  Er bod arbrofion cynnar yn Lloegr wedi dibynnu’n drwm ar gymwynaswyr cyfoethog, gan gynnwys teuluoedd Cadbury a Rowntree, roedd y datblygiad yn Rhiwbeina yn rhan o don newydd o ardd-bentrefi a oedd yn cael eu rhedeg gan gwmnïau cydweithredol lleol.  Gyda chyllid yn deillio o gyfalaf cyfranddaliadau a benthyciadau, cododd y mentrau cydweithredol ddigon o arian i brynu tir ac adeiladu’r cartrefi newydd. Tai rhent oedd y rhain yn unig, gyda’r incwm yn cael ei ddefnyddio i ad-dalu benthyciadau a chynnal a datblygu’r ystadau.

Fel y gellid dychmygu, cafodd y cysyniad ei groesawu a’i gymeradwyo’n eang.  Yn ogystal â datblygiad Rhiwbeina yn 1913 roedd llawer o gynlluniau tebyg ar waith yn Ne Cymru, gan gynnwys cynlluniau ar gyfer pentrefi gardd yng Nghaerffili, Fernhill a Gilfach.

Mae’r posteri’n dweud llawer wrthym am y mudiad gardd-bentrefi. O’r cychwyn roedd pwyslais mawr ar redeg a datblygu’r pentref fel menter gydweithredol. Roedd pennawd y poster, “Health for the Child”, yn atgoffa pobl o’r gyfradd farwolaethau uchel ymhlith babanod mewn sawl rhan o Gymru, a’r addewid o amgylchedd byw gwell yn y gardd-bentrefi newydd. Roedd cysylltiadau teithio da hefyd yn bwysig, gyda’r pentrefi yn gweithredu fel ardaloedd ategol i’r prif gytrefi gyda bysiau a rheilffyrdd ar gael i’r rhai oedd yn cymudo i’r gwaith.

Yn olaf, edrychwch ar argraff arlunydd o Gaerdydd yn 1913. Mae Caerdydd yn dal i fod yn ddinas werdd iawn ar lawer ystyr, ond mae’n ein hatgoffa faint yn union y mae wedi tyfu ac ehangu dros y 100 mlynedd diwethaf.

Mae’r ffotograff yn rhan o gofnodion Gardd-Bentref Rhiwbeina a gedwir yn Archifau Morgannwg (cyf.: DGSR).

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg