Mae’r Casgliad yn Archifau Morgannwg yn cynnwys cofnodion helaeth yn ymwneud â sawl agwedd ar y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r rhain yn amrywio o bolisïau a chyfarwyddebau llywodraethol swyddogol, boed yn lleol neu genedlaethol, i ddogfennau’n adlewyrchu effeithiau’r rhyfel ar y boblogaeth gyffredinol. Mae’r darn byr hwn yn disgrifio’r dogfennau y gallai’r milwr cyffredin fod wedi’u casglu a’u cadw fel cofnod o’i amser yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn ystod rhyfel 1914-18.
Nid yw cofnodion Arthur Cornelius Hobbs yn disgrifio unrhyw frwydrau mawr nac yn ddyddiadur o fuddugoliaethau a methiannau’r Rhyfel, ond maent yn dogfennu bywyd y fyddin ar flaen y gad.
Ganed Arthur ym Morebath, Dyfnaint ym mis Rhagfyr 1875, lle bu’n gweithio fel halltwr pysgod. Nid oes unrhyw gofnodion yn yr Archifau sy’n disgrifio ei fywyd cyn iddo ymuno â’r fyddin ac ymrestru ar 4 Awst 1916. Ceir copi o’r hysbysiad a oedd yn ei orchymyn i wneud hynny ymysg ei bapurau. Erbyn yr adeg hon o’r Rhyfel, nid oedd y fyddin yn cynnwys gwirfoddolwyr; roedd yn ofynnol i ddynion abl o fewn grwpiau oedran penodol wasanaethu yn y lluoedd arfog. Byddai Arthur, yn yr un modd â’r recriwtiaid eraill, wedi bod yn ymwybodol bod brwdfrydedd y gwirfoddolwyr ar ddechrau’r rhyfel ym 1914 wedi diflannu’n llwyr yn sgîl adroddiadau am nifer y marwolaethau a ddioddefwyd yn ystod dwy flynedd gyntaf y rhyfel. Roedd hyn yn arbennig o wir ym mis Awst 1916; roedd Brwydr y Somme yn ei hail fis ac roedd Byddin Prydain yn colli mwy o ddynion nag erioed. Er nad oedd Arthur ar flaen y gad yn ystod y cyfnod hwn, creodd ei ffotograffau, sydd mor gadarn eu natur o ystyried y digwyddiadau trychinebus yn Ffrainc a thu hwnt, gryn argraff arnom.
Mae papurau Arthur yn cynnwys nifer o gardiau cyfarch yn dathlu’r Nadolig a phenblwyddi, yn ogystal â digon o enghreifftiau o gariad Byddin Prydain at waith papur! Ceir indenturau ar gyfer dognau, gan gynnwys bara, sigaréts ac olew morfilod, ynghyd â derbynebion ar gyfer dosbarthu a dychwelyd offer. Ymysg y papurau mwyaf diddorol mae rhaglen ar gyfer cynhyrchiad yr 85ain Ysbyty Maes o Aladdin, a cherdyn ‘Ffrangeg i Ddechreuwyr’ ag ymadroddion defnyddiol arno, megis ‘Pa ffordd i Baris?’
Goroesodd Arthur Hobbs y rhyfel. Dychwelodd adref, symudodd i’r Eglwys Newydd yng Nghaerdydd a gweithiodd mewn amrywiaeth o swyddi, gan gynnwys fel fforman glo, cyn ymddeol ym mis Mawrth 1938. Roedd hefyd yn Gomisiynydd Dosbarth ar gyfer Sgowtiaid De Cymru. Bu farw ar 6 Rhagfyr 1939 yn 63 oed.
John Arnold, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg