Cofrestri Etholwyr

Mae Cofrestri Etholwyr yn ymddangos fel y 75ain eitem i ddod i law ar bum achlysur rhwng 1975 a 1992. Mae’r cofnodion yn nodi’r rheiny sy’n gymwys i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol a seneddol.Yn Archifau Morgannwg, defnyddir Cofrestri Etholwyr yn aml gan haneswyr teulu a lleol i geisio canfod am ba hyd y bu teulu yn byw mewn cyfeiriad penodol ac i ddod o hyd i unigolion sydd ar goll.

Roedd Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1832 yn sicrhau mai dim ond dynion dros 21 oedd â’r hawl i bleidleisio, a hynny os oeddent yn berchen ar eiddo a oedd yn werth o leiaf ddwy bunt y flwyddyn.O ganlyniad i newidiadau pellach yn y ddeddfwriaeth gwelwyd cynnydd o ran hawliau pleidleisio dynion yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Dim ond ym 1918 y caniatawyd i ferched bleidleisio mewn etholiadau Seneddol am y tro cyntaf, ond gan mai 30 oed oedd yr oedran pleidleisio a nodwyd roedd rhaid i ferched ddisgwyl degawd arall cyn cael yr un hawliau pleidleisio â dynion.Er hynny, mae rhai merched yn ymddangos yn y Cofrestri Etholwyr o ddiwedd y 19eg ganrif, gan y rhoddwyd yr hawl i ferched a oedd yn berchen ar eiddo bleidleisio mewn etholiadau lleol dan delerau Deddf Llywodraeth Leol 1894. Yn ystod 1969 gostyngwyd yr oedran pleidleisio i bawb – yn ddynion a merched – i 18 oed.

Oherwydd eu bod yn cynnwys llawer o wybodaeth ac yn hawdd eu defnyddio mae Cofrestri Etholwyr yn adnodd gwerthfawr i haneswyr teulu a lleol yn enwedig o’u defnyddio ar y cyd ag adnoddau eraill megis cyfeirlyfrau masnach a ffurflenni cyfrifiad.

Mae’r gofrestr hynaf a gedwir yn Archifau Morgannwg yn cynnwys cofnodion sy’n ymestyn o 1832 hyd heddiw ac eithrio rhai bylchau, sy’n cwmpasu’r rhan fwyaf o’r ddau Ryfel Byd.

Cofrestr Etholwyr Morgannwg, 1845

Cofrestr Etholwyr Morgannwg, 1845

Mae rhestr gyflawn o’r Cofrestri a gedwir gan Archifau Morgannwg ar gael ar ein catalog ar-lein, Canfod, ac mae canllaw ymchwilio ar gael ar ein gwefan: http://www.archifaumorgannwg.gov.uk/content.asp?nav=2,19&parent_directory_id=1&language=cym