The Ocean and National Magazine, 1928: Yr Eisteddfod yn Nhreorci

Mae casgliad yr ‘Ocean and National Magazine’ yn adnodd anhygoel ar gyfer darganfod sut fath o fywyd oedd gan bobl a oedd yn byw ym maes glo De Cymru yn y 1920au a’r 1930au. Wedi ei gyhoeddi gan yr ‘Ocean Coal Company Ltd’ a’r ‘United National Collieries Ltd’, gyda chyfraniadau gan ac ar ran y gweithlu, mae’r gyfres gylchgrawn hon yn cynnwys amrywiaeth eang o erthyglau ar y diwydiant glo a’i hanes, gan gynnwys cysylltiadau diwydiannol, gweithwyr, technoleg, digwyddiadau diwylliannol a chwaraeon. Mae Andrew Booth, un o’n gwirfoddolwyr, yn ddiweddar wedi cwblhau mynegeio’r casgliad gwych hwn. Dyma’r gyntaf mewn cyfres o erthyglau blog lle mae Andrew yn tynnu sylw at storïau o gylchgronau’r ‘Ocean and National Magazine’.

1. preparations for the national at treorchy

Paratoadau ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhreorci, Ocean and National Magazine, Awst 1928, D1400/9/1/5

Yn ystod haf 1928, cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhreorci, y tro cyntaf iddi gael ei chynnal yn y Rhondda. Neilltuodd yr ‘Ocean and National Magazine’ rifyn Awst 1928 i’r digwyddiad, gyda’r cyfranwyr yn trafod yr ŵyl a’u hoff agweddau ar y digwyddiad a oedd ar fin cael ei gynnal.

2. general view of treorchy

Golygfa gyffredinol Treorci, Ocean and National Magazine, Awst 1928, D1400/9/1/5

Mae cerddoriaeth yn rhan allweddol o’r Eisteddfod, ac ysgrifennodd Humphrey G. Prosser ei fod yn edrych ymlaen at ddydd Llun yr ŵyl a fyddai yn:

…inaugurated with massed music in excelsis, for it is the day devoted to the interests of the blaring trumpet and booming drum!…and the air will be heavy with harmony from dawn till dusk!

Roedd y drafodaeth am gerddoriaeth yn cwmpasu’r corau, gyda llawer o sylw yn cael ei roi i wisgoedd y corau merched. Nododd Cadeirydd y Canu Corawl, R.R. Williams, mai’r prif bryder oedd hyd llewys ffrogiau’r menywod. Penderfynwyd y byddai’r rhan fwyaf o fenywod yn gwisgo llewys hir, a bod y rhai oedd yn gwisgo llewys byr:

…are only probationers …and are making valiant efforts to merit confidence so as to be accepted as full members and thereby be entitled to wear long sleeves.

3. treorchy eisteddfod staff

Prif Swyddogion yr Eisteddfod a Gohebwyr Arbennig, Ocean and National Magazine, Awst 1928, D1400/9/1/5

Mae addysg yn bwnc sy’n ymddangos yn aml yn erthyglau’r ‘Ocean and National Magazine’ ac yma yn rhifyn arbennig yr Eisteddfod mae H. Willow yn ysgrifennu erthygl yn trafod hanfod addysg. Wrth drafod addysg mewn perthynas â’r Eisteddfod, mae Willow yn ysgrifennu y gellid dweud bod y … pwrpas addysgol y tu ôl iddi yn ei gwneud yn unigryw. Mae’n mynd yn ei flaen i wneud y pwynt bod defnyddio drama fel offeryn wrth addysgu iaith o … werth aruthrol, ac yn nodi bod yr Eisteddfod yn talu …swm mawr  yn nhermau gwobrau i wahanol fathau o awduron a grwpiau oedran.

4. scenes at the proclamation ceremony

Lluniau yn ystod y Seremoni Gyhoeddi, Ocean and National Magazine, Awst 1928, D1400/9/1/5

Yn y flwyddyn arbennig hon, roedd Adran Gelf a Chrefft yr Eisteddfod hefyd wedi ychwanegu gwyddoniaeth at ei chylch gwaith. Cyfeiria Llewellyn Evans, Ysgrifennydd Anrhydeddus yr Adran Gelf, Crefft a Gwyddoniaeth yn benodol at ychwanegu’r adran Wyddoniaeth oherwydd y lleoliad, gan gyfaddef ei fod yn label eang, gan ei fod yn ymwneud yn bennaf â mwyngloddio, daeareg a daearyddiaeth leol, yn ogystal â’r crefftau sy’n gysylltiedig â’r diwydiant glo.

Roedd awduron eraill yn ymddiddori yn y modd y gellid cadw’r iaith Gymraeg, a’r diwylliant a’r traddodiadau Cymreig yn fyw y tu allan i’r Eisteddfod. Mae un cyfrannwr penodol yn trafod Urdd Gobaith Cymru, y gymdeithas lle mai bwriad y Parchedig T. Alban Davies oedd … ei adeiladu fel amddiffynnydd parhaol i’r iaith Gymraeg ac o draddodiad a diwylliant Cymreig. Gyda phob rhifyn yn cynnwys o leiaf un erthygl wedi’i hysgrifennu yn Gymraeg, bu golygyddion yr ‘Ocean and National Magazine’ yn hyrwyddo’r Gymraeg, nid yn unig yn rhifyn arbennig yr Eisteddfod ond yn y cyhoeddiad drwyddo draw.

Andrew Booth, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg