Yr Eglwys Roegaidd, Butetown, Caerdydd

Yn ystod y 19eg ganrif, roedd llongau Groegaidd yn ymwelwyr mynych â dociau Caerdydd.   Yn nodweddiadol, byddent yn mewnforio grawnfwydydd cyn cael eu llwytho â glo i’w allforio i Fôr y Canoldir a De America.  Gyda threigl amser, dechreuodd rhai morwyr Groegaidd ymgartrefu yn yr ardal.

D1093-1-5-20

Mor gynnar â 1873, roedd ystafell yn cael ei rhentu ar gyfer addoliad Uniongred Groegaidd yn Stryd Patrick, a redai rhwng Stryd Bute a Stryd Alice, yn gyfochrog â Stryd Hannah.  Roedd wedi ei chysegru i Sain Niclas, nawddsant morwyr.  Nid yw’n glir am ba hyd y parhaodd eglwys Stryd Patrick, ond roedd yn sicr yn wynebu pwysau ariannol o 1876 ac mae’n debyg iddi gau yn fuan wedyn.  Yn ddiweddarach, gwnaeth y gymuned Uniongred ddefnydd o’r Eglwys Norwyaidd leol yn ogystal â ‘sied fach’ gyfagos.  Yn 1903, fodd bynnag, troswyd siop ganddynt, yn 51 Stryd Bute, i’w defnyddio fel eglwys, fel rhagflaenydd i godi eu hadeilad parhaol eu hunain.

Yn 1906, dechreuodd y gwaith ar yr eglwys bresennol, sydd hefyd yn gwasanaethu cymuned Uniongred Rwsia de Cymru.  Fe’i cynlluniwyd gan benseiri lleol, James a Morgan, ac fe’i lleolir ar safle a roddwyd gan 4ydd Ardalydd Bute, i’r gorllewin o Stryd Bute.  Mae’r adeilad cymhedrol ei faint yn yr arddull Bysantaidd ag iddi gorff cromennog ac aps yn y pen dwyreiniol.  Mae’n parhau â’r cysegriad gwreiddiol i Sain Niclas.  Mae’r tu mewn yn addurnedig iawn, gyda llawer o waith coed cerfiedig.  Mae’r gromen a’r waliau uchaf wedi eu haddurno â golygfeydd Beiblaidd mewn lliwiau llachar gydag addurnwaith aur.  Er bod y cynlluniau gwreiddiol yn rhagweld y byddai eiliau ochr yn cael eu hychwanegu yn ddiweddarach, nid yw’r rhain wedi gweld golau ddydd.  Fodd bynnag, ers i Mary Traynor fraslunio’r eglwys ym 1988, mae porth â gorchudd wedi ei ychwanegu ar y pen gorllewinol.

David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor (cyf.: D1093/1/5)
  • Cofnodion Cyngor Bwrdesitref Caerdydd, cynlluniau ar gyfer Eglwyd Roegaidd, North Church Street, 1906 (cyf.: BC/S/1/16202)
  • Hilling, John B & Traynor, Mary: Cardiff’s Temples of Faith (cyhoeddwyd gan Gymdeithas Ddinesig Caerdydd, 2000)
  • Webb, Madeleine: ‘A Visit to Cardiff’s Greek Church’, yng nghylchgrawn Hydref 2016 Plwyf Pentyrch a Llanilltern
  • http://greekorthodoxchurchcardiff.org.uk/
  • The Cardiff Times, 20 Rhagfyr 1873
  • The Cardiff Times, 17 Mehefin 1876
  • Evening Express, 8 Ebrill 1903
  • Evening Express, 30 Ebrill 1910