Yr Eglwys Norwyaidd, Caerdydd

Nid ffenomen ddiweddar yw poblogaeth amlddiwylliannol Caerdydd, o bell ffordd. Llwyddodd twf cyflym y dref yn ystod y 19eg ganrif, fel porthladd a oedd yn gwasanaethu ardaloedd diwydiannol Morgannwg, i ddenu gweithwyr o wledydd Prydain a phob cwr o’r byd. Arhosodd llawer; ym 1911 roedd poblogaeth dynion tramor Caerdydd yn ail dim ond i Lundain yng ngwledydd Prydain. Ymwelwyr dros dro oedd llawer mwy, yn enwedig y morwyr ar longau a oedd wedi cofrestru dramor ac a laniai yn y dociau. Yn eu plith yr oedd grŵp sylweddol o Norwyaid, Swediaid a Daniaid, ac i gyfeiriad y dynion hyn y cyfeiriodd y Parchedig Lars Oftedal o Genhadaeth y Morwyr Norwyaidd ei weinidogaeth o 1866 ymlaen.

Ar ôl cyfarfod ar fwrdd llong ac mewn capel segur yn y lle cyntaf, codwyd y Sjømannysgarken yn fuan wedi hynny.

rsz_norwegian_church_alterations

Cynllun yn dangos newidiadau bosib i’r Eglwys Norwyaidd, 1939

Wedi’i wneud yn barod yn Norwy a’i ddanfon ar long i Gaerdydd, steil nodweddiadol Norwyaidd oedd iddi, er ei bod wedi’i gwneud o ddalennau haearn rhychog. Roedd awdurdodau’r porthladd wedi mynnu y dylid gallu ei ddymchwel yn hawdd a’i ail-leoli os oedd angen. Cafodd yr eglwys, a ddisgrifir gan gyfeiriaduron masnach Caerdydd fel:

…the Norwegian iron Church, south-east corner of West Bute Dock for Norwegian, Swedish, Danish and Finnish sailors and residents

ei chysegru ar 16 Rhagfyr 1869, ac arhosodd ar ei safle gwreiddiol tan ei symud ym 1987.

rsz_norwegian_church_new_location_detail

Cynllun yn dangos lleoliad gwreiddiol yr Eglwys Norwyaidd

Cymeradwyodd 25ain Adroddiad Blynyddol Cenhadaeth y Morwyr Norwyaidd y lleoliad gwreiddiol yn fawr:

[the location] could not be improved upon, as it is situated between the two docks, at the point where they converge towards the inlets. The church is thus positioned in amongst the ships, so that it is at only a short walk’s distance from many of them, and easy to find for all those who would like to visit it.’

Yr oedd diffyg atyniadau eraill mwy atyniadol o bosibl ar lannau’r dociau yn bwynt pwysig o’i phlaid:

…[the seamen] do not need to go into the town and expose themselves to its temptations, only for the sake of a visit to the reading room.

Datblygodd yr eglwys gyda’r cynnydd yn y llongau o wledydd Llychlyn, ac yn arbennig llongau o Norwy, ym mhorthladdoedd Môr Hafren. Sefydlwyd cenadaethau yng Nghasnewydd, Abertawe a Doc y Barri, a wasanaethwyd gan Genhadon Cynorthwyol o dan y Parchedig yng Nghaerdydd. Erbyn 1920 roedd y Parchedig yn byw yn y ficerdy Norwyaidd, ‘Prestegaarden’, yn 181 Heol y Gadeirlan. Cynyddodd nifer y llongau o wledydd Llychlyn a ddefnyddiai borthladdoedd yr ardal o 227 ym 1867 i 3,611 ym 1915, a chynyddu wnaeth yr ystadegau blynyddol cyfatebol ar gyfer cymunwyr ac ymwelwyr 7,572 ym 1867 i 73,580 ym 1915. Effeithiodd problemau diwydiannol ac economaidd y 1920au a’r 1930au ar yr eglwysi Norwyaidd. Erbyn 1931 gostyngwyd y Genhadaeth i’w eglwysi yng Nghaerdydd ac Abertawe yn unig.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd cynyddodd cymuned Norwyaidd breswyl Caerdydd a daeth llawer mwy o Norwyaid drwy’r porthladd fel morwyr neu ffoaduriaid. Gweithiodd yr Eglwys Haearn a’i staff gyda changen leol Undeb y Morwyr Norwyaidd a sefydliadau eraill i ddarparu ar gyfer ei phobl yn ystod y blynyddoedd anodd hyn. Chwaraeodd llynges fasnach Norwy ran sylweddol yn ymdrech ryfel y Cynghreiriaid, ond collwyd llawer o longau a llawer o fywydau. Roedd y cyrchoedd bomio ar Gaerdydd wedi gwneud hyd yn oed aros ar y lan am gyfnod yn anniogel. Lladdwyd nifer o ddynion pan gafodd Cartref Morwyr Gwledydd Llychlyn ar Bute Road ei daro a’i ddinistrio.

Ar ddiwedd y rhyfel daeth cymunedau Llychlynaidd Caerdydd ynghyd i ddathlu’r heddwch. Fodd bynnag, o’r adeg honno ymlaen, gostwng wnaeth y gweithgaredd yng Nghenhedlaeth y Morwyr, lleihawyd nifer y staff, a gwasgarodd y gymuned Norwyaidd hefyd wrth i Gaerdydd beidio â bod yn borthladd mawr. Caeodd yr Eglwys Haearn ym 1959, gyda’r gwasanaeth olaf yn cael ei gynnal ar 17 Mai, Gŵyl Genedlaethol Norwy, Grunnlovsdagen, sef Diwrnod y Cyfansoddiad.

Parhaodd yr Eglwys ar ei thraed, ond gan ddadfeilio fwyfwy, am bron i ddeng-mlynedd-ar-hugain. Yn y 1980au, noddodd Cyngor Sir De Morgannwg yr ymdrech i sefydlu Ymddiriedolaeth Gwarchod yr Eglwys Norwyaidd er mwyn achub yr eglwys a’i hintegreiddio i’r dociau a oedd i’w hail ddatblygu.  Roald Dahl, yr awdur, oedd Llywydd Cyntaf yr Ymddiriedolaeth, fel person o dras Caerdydd-Norwyaidd ei hun. Ym 1987 datgymalwyd yr hen eglwys a’i storio er mwyn ei hail-godi. Fodd bynnag, roedd yr eglwys a agorwyd maes o law ym 1992 mewn lleoliad newydd gwych yn edrych dros Fae Caerdydd bron yn greadigaeth newydd sbon. Ymgorfforwyd cymaint o’r adeilad gwreiddiol ag y gellid ei ddefnyddio yn yr eglwys newydd, ond roedd y rhan fwyaf o’r deunyddiau yn newydd, wedi eu rhoi’n rhoddion gan gwmnïau yn Norwy ac yng Nghaerdydd, neu wedi eu prynu gyda’r arian a godwyd trwy danysgrifiad cyhoeddus yn ardal Bergen. Rhoddodd llawer o gwmnïau eu gwasanaethau’n rhad ac am ddim i gwblhau’r eglwys, sydd bellach wedi’i hadeiladu o bren, ac eithrio’r to o ddur dalen, a gynhyrchwyd yn arbennig gan gwmni lleol i ffitio’r adeilad.

Agorwyd yr Eglwys yn swyddogol gan y Dywysoges Märtha Louise ar 8 Ebrill 1992 fel canolfan ddiwylliannol. Er nad yw wedi ei chysegru fel eglwys, cynhelir arddangosfeydd celf a chyngherddau yn yr adeilad ac mae caffi yn gweini bwyd a diod.

Susan Edwards, Archifydd Morgannwg

Mae’r erthygl hon wedi tynnu ar ddarlith heb ei chyhoeddi gan yr Athro John Greve ac ar ‘100 mlynedd o’r Genhadaeth Norwyaidd i Forwyr’ gan Gunnar Christie Wasberg.

 

Eglwys Norwyaidd, Doc Gorllewin Bute

Yn y 19eg ganrif, roedd Caerdydd yn un o dri phrif borthladd Prydain, ynghyd â Llundain a Lerpwl.  Llynges fasnachol Norwy oedd y drydedd fwyaf yn y byd a daeth Caerdydd yn un o’i phrif ganolfannau gweithredu.

O 1866, anfonodd Sjømannskirken, rhan o Eglwys Lutheraidd Norwy, weinidog i wasanaethu ar gyfer anghenion Norwyaid a oedd yn ymweld neu’n symud i Gaerdydd.  Cynhaliwyd cyfarfodydd yn y lle cyntaf ar fwrdd llong ac mewn capel a oedd wedi ei adael yn wag, ond ym 1868, bu modd i Sjømannskirken adeiladu eglwys ar dir a roddwyd gan Ardalydd Bute, sef lle saif Canolfan Mileniwm Cymru nawr.

rsz_d1093-2-21_to_44_035_TN

Penderfynodd yr Harbwrfeistr y dylid adeiladu’r eglwys fel y gellid ei ddatgymalu a’i symud yn hawdd petai angen gwneud hynny.  Felly, cafodd ei adeiladu o flaen llaw yn Norwy a’i orchuddio â chroen o haearn.  Fel y digwyddodd, oherwydd y math hwn o adeiladu, roedd yr adeilad yn hyblyg a bu modd ei addasu a’i estyn aml i dro dros y deng mlynedd ar hugain nesaf.

Gyda dirywiad pwysigrwydd Caerdydd fel porthladd, roedd llai o angen am eglwys yn y dociau ar gyfer y gymuned Lychlynnaidd.  Diddymwyd Cenhadaeth Morwyr Norwy ym 1959 ond parhaodd cynulleidfa leol i ddefnyddio’r eglwys tan ei dad-gysegru ym 1974 ac wedi hynny aeth â’i phen iddi, ond roedd yn dal i sefyll.

Ym 1987, sefydlwyd Ymddiriedolaeth Gadwraeth yr Eglwys Norwyaidd i achub ac ail-godi’r Eglwys.  Dan lywyddiaeth yr awdur, Roald Dahl – fel plentyn i fewnfudwyr o Norwy, fe’i bedyddiwyd yn yr eglwys – codwyd arian yn lleol a chan bwyllgor cynorthwyol yn Bergen, Norwy.  O’r herwydd, bu modd tynnu’r adeilad yn ddarnau a’i ail-godi yn ei leoliad presennol.  Agorwyd yr eglwys ar ei newydd wedd yn swyddogol gan Dywysoges Märtha Louise o Norwy ar 8 Ebrill 1992. Mae nawr yn ganolfan gelfyddydol a chaffi gydag ystafelloedd digwyddiadau a ddefnyddir ar gyfer arddangosfeydd, cyngherddau, priodasau a digwyddiadau eraill.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd: