Dathlu’r Heddwch mewn modd teilwng, 11 Tachwedd 1918

Wrth i ni goffáu Diwrnod y Cadoediad a chan mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, mae’r cofnodion sy’n cael eu cadw yn Archifau Morgannwg yn taflu goleuni ar y dathliadau yn Ne Cymru ym mis Tachwedd 1918 ac, yn benodol, ar y llawenydd a’r rhyddhad ar ddiwedd rhyfel gwaedlyd a chreulon. Roedd rhaid i benaethiaid ysgolion ar draws Cymru gyfan gadw cofnod cyson o ddigwyddiadau. Gellir cyrchu crynodebau o gofnodion ysgolion rhwng 1914 a 1918 ar wefan Archifau Morgannwg. Maen nhw’n rhoi darlun i ni o’r dathliadau gwyllt a ymledodd ar draws De Cymru ar 11 Tachwedd 1918, ac enghraifft dda o’r rhain yw’r hyn a gofnodwyd gan Mr W S Jones yn Ysgol Fechgyn yr Eglwys Newydd. Roedd William Jones wedi bod yn bennaeth yr ysgol am dros 4 blynedd. Ar 11 Tachwedd, ysgrifennodd y canlynol yn llyfr lòg yr ysgol:

Log book 1

Log book 2

Great excitement prevailed at school this morning. The Church bells chimed and the boys soon came to the conclusion that the Armistice had been signed by the German representatives. As we had been misled by a false report of the signature of the Armistice on Thursday evening – 7th I sent a message to the local postmaster who confirmed the signing of the Armistice as official.

The boys were informed of the good news which brings the actual fighting of the Great European War to a close and great enthusiasm was shown. We did not try to restrain their energies for the last half hour and about 5 minutes to 12 the whole school was assembled in the yard when the Doxology and the National Anthem were sung. Cheer after cheer was given for such glorious news and the boys dispersed.

School reassembled after dinner. The Chief Education Official was telephoned to, but no holiday could be granted. The matter would be referred to the Education Committee which was expected to meet on the morrow (Tuesday). The boys were reassembled on the yard in the afternoon and led by a scout with a small drum marched around the yard waving flags and singing various popular songs. The significance of the act of the signature of the Armistice was explained to the boys [Ysgol Fechgyn yr Eglwys Newydd, llyfr log, ESE64/1/4]

Mae’r llyfr lòg yn tynnu llen dros yr hyn a ddigwyddodd nesaf, ond does dim amheuaeth bod nifer o’r bechgyn, ynghyd â’u teuluoedd, wedi ymuno â’r dorf a lifodd i ganol Caerdydd. Cyhoeddwyd llofnodi’r Cadoediad ar draws y ddinas drwy ganu seiren y ‘Western Mail’ a ddilynwyd yn fuan gan gyrn o ffatrïoedd ledled y ddinas a llongau yn y dociau. Casglodd dorf ‘wedi’i chynhyrfu’n lân’ ym Mharc Cathays, gyda’r papurau newydd yn nodi’r canlynol:

Everybody felt that the hour had come for the abandonment of restraint and for the expression of a long pent up enthusiasm….others arrived with the announcement that the Docks was on stop. Everyone there had downed tools, and there was not a murmur of dissent. All the workshops and yards, schools and business premises let loose their jubilant occupants and after a riot of abandonment they gradually gravitated to the City Hall, where the flags of the Allies proudly fly.

Gorymdeithiodd llawer o weithwyr y dociau yn uniongyrchol i Neuadd y Ddinas ac roedd modd eu gweld yn chwifio i’r dorf o ffenestri’r llawr uchaf. Erbyn canol dydd, adferwyd rhywfaint o drefn, wrth i’r Arglwydd Faer ddarllen neges gan Lloyd George, y Prif Weinidog, o do’r porte-cochère ar ben drws Neuadd y Ddinas, a oedd yn cadarnhau bod y Cadoediad wedi’i lofnodi. Cafwyd ‘clod byddarol’ mewn ymateb i hyn cyn gorymdeithio heibio’r Gatrawd Gymreig a chanu anthemau cenedlaethol y cynghreiriaid, gan gynnwys y Marseillaise a’r Star-Spangled Banner. Gan synhwyro cynnwrf y dorf, aeth yr Arglwydd Faer ati i …alw ar y dinasyddion i ddathlu’r diwrnod â llawenydd a diolchgarwch, ond â hunanreolaeth ac urddas hefyd. Atseiniodd Syr William Seager ei ble – Yn yr awr hon o fuddugoliaeth, gadewch i ni fod yn bwyllog. Nid yw’n syndod, efallai, na lwyddwyd i wneud hyn …bu’r dorf yn bloeddio ‘na, na!’ ac yn chwerthin.

Erbyn dechrau’r prynhawn, roedd canol y ddinas yn llawn torfeydd brwd, gan gynnwys Heol Eglwys Fair a’r Stryd Fawr, lle’r oedd pobl yn heidio o amgylch ffenestri yn yr adeiladau ar hyd y stryd i gael golwg ar y torfeydd ac ymuno yn y dathliadau. Roedd bloeddiau arbennig i’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys nifer o filwyr Americanaidd. Fodd bynnag, nid oeddent yn bloeddio ar y ‘bechgyn ddaeth yn ôl o’r Ffrynt’ yn unig. Gan gydnabod bod y rhyfel wedi arwain at newidiadau sylweddol mewn rolau a chyfrifoldebau’r gymdeithas, soniodd y papurau newydd am y canlynol:

A brewery wagon carried not supplies of Government beer but something incredibly livelier a bevy of land girls in uniform who sang all the popular ditties with great gusto.

Yn ogystal, yn ystod blynyddoedd y rhyfel cafodd gyrwyr gwrywaidd gwasanaeth tramiau’r ddinas eu disodli gan fenywod, a nododd y papurau newydd y canlynol:

The tramway girls got off the cars, they must, they said, join in the processions.

Y diwrnod nesaf, nododd y Western Mail:

South Wales came perilously near the Mafficking type of jubilation. In most places there was an absolute stoppage of work. Shortly after the dinner-hour shops were closed – the staffs would not brook restraint and the employers readily relaxed the rules and regulations [Western Mail, 12 Tachwedd 1918].

Roedd llawer o ysgolion, gan gynnwys Gabalfa, Hawthorne a Maendy, wedi cau drwy gydol mis Hydref, neu ran ohono, ac wythnos gyntaf mis Tachwedd, yn sgil epidemig ffliw a ymledodd ar draws De Cymru. Fodd bynnag, ychydig iawn o effaith gafodd yr epidemig hwn ar Ysgol Fechgyn yr Eglwys Newydd. Dim ond 15-20 achos o’r ffliw a gofnodwyd ar unrhyw adeg allan o gyfanswm o 200 disgybl. Roedd hi’n debygol iawn mai bechgyn yr Eglwys Newydd oedd o blith y criw o fechgyn ifanc a ychwanegodd at y twrw ym Mharc Cathays, gyda’u ‘tom-toms’ dros dro wedi’u gwneud o hen degellau, padellau a haenau o dun. Byddent wedi cymeradwyo cyhoeddiad yr Arglwydd Faer hefyd o saith diwrnod o wyliau i bob ysgol.

Bu blynyddoedd y rhyfel yn gyfnod anodd i ysgolion, gyda phrinder nwyddau sylfaenol a bwyd. Yn ogystal, roedd prinder glo wedi golygu bod ysgolion wedi’i chael hi’n anodd cynhesu’r ystafelloedd dosbarth yn ystod misoedd y gaeaf. Roedd yr ysgol wedi cyflawni ei dyletswydd drwy greu gardd o ryw 20 clwyd yr oedd y bechgyn yn ei thrin ddau ddiwrnod yr wythnos er mwyn tyfu llysiau yn rhan o ymgyrch genedlaethol i gynhyrchu mwy o fwyd. Roedd yr ysgol wedi bod yn flaenllaw o ran ymgyrchoedd i gasglu arian ar gyfer Cymdeithas Arbedion y Rhyfel, a chyda thipyn o lwyddiant. Cawsant ddiwrnod ychwanegol o wyliau am eu hymdrechion.

Yn yr un modd â sawl ysgol, roedd nifer o athrawon ysgol yr Eglwys Newydd wedi ymrestru yn y lluoedd arfog. O’r tri aelod gwrywaidd o staff yr ysgol a ymrestrodd, roedd dau wedi dychwelyd yn ddianaf. Ond bu farw Ivor Drinkwater wrth wasanaethu gyda’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn Ffrainc, yn ystod wythnos olaf mis Tachwedd 1917. Yn yr un modd ag mewn sawl maes cyflogaeth arall, roedd menywod wedi llenwi swyddi gwag y dynion, ac roedd gan yr ysgol oedd wedi’i staffio’n gyfan gwbl gan ddynion ym 1914, dair athrawes erbyn mis Tachwedd 1918. Dychwelodd llawer o athrawon a ymunodd â’r lluoedd arfog i’w swyddi. Fodd bynnag, roedd y rhwystrau yn erbyn menywod yn gweithio mewn ysgolion i fechgyn wedi diflannu ac mae llyfr lòg ysgol yr Eglwys Newydd yn cadarnhau bod yr ysgol wedi cynnwys athrawesau hefyd ers yr adeg honno.

Fodd bynnag, roedd dydd Llun 11 Tachwedd 1918 yn ddiwrnod i’w ddathlu, ac yn y Western Mail y diwrnod canlynol nodwyd:

It was great day of rejoicing and abandon, and most people went to sleep at a late hour, satisfied that they had done the celebration of peace in a right worthy fashion.

Mae’n rhaid bod bechgyn yr Eglwys Newydd wedi’i siomi’n llwyr y bore canlynol i wybod bod y gwyliau’n berthnasol i ysgolion o fewn awdurdod addysg Caerdydd yn unig. Roedd Ysgol Fechgyn yr Eglwys Newydd ar agor ddydd Mawrth 12 Tachwedd ac ar fore Mercher 13 Tachwedd, cyn y cyhoeddwyd y bydd yr ysgol ynghau am weddill yr wythnos.

rsz_log_book_3

Nododd William Jones, y pennaeth, yng nghofnod yr ysgol …cafodd y disgyblion fynd adref ar ôl ymgynull ar yr iard. Yn ddiplomatig efallai, ni wnaeth unrhyw sylwadau ar bresenoldeb.

Tony Peters, Gwirfodolydd Archifau Morgannwg

Rhandiroedd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf

Mae rhandiroedd wedi bod mewn bodolaeth ers rhai cannoedd o flynyddoedd, o bosib mor bell yn ôl â chyfnod yr Eingl-Sacsoniaid. Ond dim ond yn ystod y 19eg ganrif y dechreuwyd eu defnyddio yn y ffordd yr ydym yn ei hadnabod heddiw. Yn y cyfnod hwnnw, roedd tir yn cael ei neilltuo ar gyfer teuluoedd tlawd yng nghefn gwlad fel y gallant dyfu bwyd. Roedd y rhain yn deuluoedd a oedd yn gweithio gan mwyaf. Yn yr ardaloedd trefol, fodd bynnag, defnyddiwyd rhandiroedd gan deuluoedd lled gyfoethog fel dull o ddianc rhag bywyd y ddinas. Ar ddiwedd y 1900au daeth y Ddeddf Tyddynnod a Rhandiroedd i rym, gan roi’r cyfrifoldeb dros ddarparu rhandiroedd yn nwylo awdurdodau lleol.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, daeth yn amlwg na allai Prydain ddibynnu ar fewnforio bwyd o wledydd eraill mwyach, gan fod y llongau a oedd yn ei gludo yn aml yn darged i ffrwydron a daniwyd o longau a llongau tanfor yr Almaen. O ganlyniad i hyn, gwelwyd twf yn nifer y rhandiroedd wrth i awdurdodau lleol alluogi pobl i ddefnyddio tir diffaith i dyfu bwyd.

Roedd y Board of Agriculture a’r War Agriculutural Committee yn rhan o’r gwaith o helpu i sicrhau tir, er bod y penderfyniad terfynol yn nwylo’r cynghorau plwyf. Mor gynnar â mis Medi 1914, mae cofnodion plwyf yn dangos i’r Fwrdd Amaeth a Physgodfeydd annog preswylwyr Pencoed i amaethu gerddi a rhandiroedd (Cyngor Plwyf Pencoed, llyfr cofnodion, P131/1/2). Un o hoff opsiynau’r Bwrdd oedd defnyddio tir wrth ymyl ffyrdd a rheilffyrdd ar gyfer rhandiroedd. Yng ngorsaf drenau Llandaf, er enghraifft, defnyddiwyd tir wrth ymyl yr orsaf a gwesty’r orsaf (Cyngor Plwyf yr Eglwys Newydd, llyfr cofnodion, P6/64). Ond erbyn 1917 roedd yn amlwg nad oedd hyn yn ddigon. Ym Mhont-y-clun a Thalygarn, awgrymwyd y dylid defnyddio tir yr eglwys fel gerddi (Plwyf Pontyclun and Talygarn, llyfr cofnodion y festri, P205CW/33).

Pontyclun church-ground

Un o’r problemau oedd yn wynebu awdurdodau lleol oedd nad oedd pawb oedd yn berchen ar dir y gellid ei amaethu yn fodlon ei roi i’w ddefnyddio fel rhandiroedd. Ym Mhlwyf y Castellnewydd, Pen-y-bont ar Ogwr, adroddodd cyngor y plwyf fod dyn o’r enw Mr Thomas wedi gwrthod ildio ei dir dro ar ôl tro, er gwaethaf y ffaith bod yr awdurdodau lleol wedi dweud wrtho fod ganddynt yr hawl i brynu ei dir drwy orfod petai’n rhaid (Cyngor Plwyf Castellnewydd, llyfr cofnodion, P84/15).

Newcastle-refusal-1

Newcastle-refusal-2

Problem arall a ddaeth i’r wyneb oedd bod rhai mathau o dir yn anaddas ar gyfer tyfu cnydau. Yn Llandudwg gwnaeth y cyngor plwyf hyn yn glir: ‘unless the allotments were allowed to be where the Surveyor had pegged out the ground that they would have nothing to do with them’ (Cyngor Plwyf Llandudwg, llyfr cofnodion, P88/2). Mae’n ymddangos bod prosesu ceisiadau i Gyngor Sir Morgannwg gan y cynghorau plwyf i ddefnyddio tir fel rhandiroedd yn cymryd amser. Mewn un achos, bu’n rhaid i blwyf Ynysawdre gysylltu ag Ystâd Dunraven i weld a allan nhw gynnig tir yn lle hynny (Cyngor Plwyf Ynysawdre, llyfr cofnodion, P129/2/3). Ond nid oedd yr Ystadau bob amser yn barod i’w tir gael ddefnyddio, fel y daeth yn amlwg i blwyf Trelales (Cyngor Plwyf Trelales, llyfr cofnodion, P81/7/1).

Margam-estate-reply-1

Margam-estate-reply-2

Roedd yr awdurdodau lleol yn ceisio helpu’r rheiny â rhandiroedd, gan roi cyngor ar amrywiaeth o faterion iddynt. Dywedodd cyngor plwyf Llanisien wrth eu garddwyr i roi ffrwythau a llysiau mewn potiau Kilner, gan y byddai hynny’n golygu na fyddai’n rhaid iddynt ddefnyddio siwgr i’w cadw (Plwyf Llanisien, cylchgrawn y plwyf, P55CW/61/31).

Kilner-jars

Yn Llancarfan gofynnodd y Pwyllgor Amaeth Rhyfel i gyngor y plwyf sicrhau bod tatws hadyd ar gael i ffermwyr rhandiroedd (Cyngor Plwyf Llancarfan, llyfr cofnodion, P36/11), er yn y Rhigos roedd Pwyllgor Amaeth Cyngor Sir Morgannwg wedi bod wrthi’n annog ffermwyr rhandiroedd i fuddsoddi yn eu tatws hadyd eu hunain (Cyngor Plwyf Rhigos, llyfr cofnodion, P241/2/1). Roedd y rhai oedd yn tyfu tatws yn cael eu hannog i’w chwistrellu i osgoi heintiau (Cyngor Plwyf Castellnewydd, llyfr cofnodion, P84/20).

Unwaith y daeth y rhyfel i ben, pylu wnaeth y diddordeb mewn rhandiroedd . Cafodd rhai tiroedd eu hadfer i’w cyflwr gwreiddiol, neu eu defnyddio at ddibenion eraill. Ond roedd un broblem eto i’w datrys. Roedd rhai o’r caeau a arferai gael eu defnyddio fel meysydd criced wedi cael eu troi’n rhandiroedd yn ystod y rhyfel, fel yr un yn St Fagan’s Road, Trelái (Cyngor Plwyf Llandaf, llyfr cofnodion, P53/30/5). Pan ddychwelodd y cricedwyr ar ôl y rhyfel i chwarae eto, roedd rhai o’u caeau chwarae wedi diflannu.

cricket

Roedd galw mawr am y caeau a oedd ar ôl, a oedd yn golygu bod dod o hyd i gae gwag i chwarae criced ynddo bron iawn yn amhosib (Plwyf y Rhath, cylchgrawn y plwyf, P57CW/72/10).

Andrew Booth, Cynorthwy-ydd Cofnodion Dros-dro

Stori Tomi: Arthur Cornelius Hobbs

Mae’r Casgliad yn Archifau Morgannwg yn cynnwys cofnodion helaeth yn ymwneud â sawl agwedd ar y Rhyfel Byd Cyntaf.  Mae’r rhain yn amrywio o bolisïau a chyfarwyddebau llywodraethol swyddogol, boed yn lleol neu genedlaethol, i ddogfennau’n adlewyrchu effeithiau’r rhyfel ar y boblogaeth gyffredinol. Mae’r darn byr hwn yn disgrifio’r dogfennau y gallai’r milwr cyffredin fod wedi’u casglu a’u cadw fel cofnod o’i amser yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn ystod rhyfel 1914-18.

Nid yw cofnodion Arthur Cornelius Hobbs yn disgrifio unrhyw frwydrau mawr nac yn ddyddiadur o fuddugoliaethau a methiannau’r Rhyfel, ond maent yn dogfennu bywyd y fyddin ar flaen y gad.

Ganed Arthur ym Morebath, Dyfnaint ym mis Rhagfyr 1875, lle bu’n gweithio fel halltwr pysgod.  Nid oes unrhyw gofnodion yn yr Archifau sy’n disgrifio ei fywyd cyn iddo ymuno â’r fyddin ac ymrestru ar 4 Awst 1916. Ceir copi o’r hysbysiad a oedd yn ei orchymyn i wneud hynny ymysg ei bapurau.  Erbyn yr adeg hon o’r Rhyfel, nid oedd y fyddin yn cynnwys gwirfoddolwyr; roedd yn ofynnol i ddynion abl o fewn grwpiau oedran penodol wasanaethu yn y lluoedd arfog. Byddai Arthur, yn yr un modd â’r recriwtiaid eraill, wedi bod yn ymwybodol bod brwdfrydedd y gwirfoddolwyr ar ddechrau’r rhyfel ym 1914 wedi diflannu’n llwyr yn sgîl adroddiadau am nifer y marwolaethau a ddioddefwyd yn ystod dwy flynedd gyntaf y rhyfel.  Roedd hyn yn arbennig o wir ym mis Awst 1916; roedd Brwydr y Somme yn ei hail fis ac roedd Byddin Prydain yn colli mwy o ddynion nag erioed. Er nad oedd Arthur ar flaen y gad yn ystod y cyfnod hwn, creodd ei ffotograffau, sydd mor gadarn eu natur o ystyried y digwyddiadau trychinebus yn Ffrainc a thu hwnt, gryn argraff arnom.

D1207

Mae papurau Arthur yn cynnwys nifer o gardiau cyfarch yn dathlu’r Nadolig a phenblwyddi, yn ogystal â digon o enghreifftiau o gariad Byddin Prydain at waith papur! Ceir indenturau ar gyfer dognau, gan gynnwys bara, sigaréts ac olew morfilod, ynghyd â derbynebion ar gyfer dosbarthu a dychwelyd offer. Ymysg y papurau mwyaf diddorol mae rhaglen ar gyfer cynhyrchiad yr 85ain Ysbyty Maes o Aladdin, a cherdyn ‘Ffrangeg i Ddechreuwyr’ ag ymadroddion defnyddiol arno, megis ‘Pa ffordd i Baris?’

Goroesodd Arthur Hobbs y rhyfel.  Dychwelodd adref, symudodd i’r Eglwys Newydd yng Nghaerdydd a gweithiodd mewn amrywiaeth o swyddi, gan gynnwys fel fforman glo, cyn ymddeol ym mis Mawrth 1938. Roedd hefyd yn Gomisiynydd Dosbarth ar gyfer Sgowtiaid De Cymru. Bu farw ar 6 Rhagfyr 1939 yn 63 oed.

John Arnold, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg