Merthyr House, James Street ac Evelyn Street, Caerdydd

Codwyd Merthyr House ym 1918 ar gornel James Street ac Evelyn Street, Caerdydd  Roedd yr adeilad yn mynd am yn ôl cyn belled ag Adelaide Place a chynigiai wedd flaen o garreg Bath i’r tair stryd.  Wedi ei ddylunio gan y pensaer lleol, Henry Budgen, fe’i hadeiladwyd gan y cwmni adnabyddus o Gaerdydd E. Turner & Sons Ltd.  Mae llyfryn gan Turner yn cyfeirio ati fel ‘pen gorllewinol’ yr adeilad, sy’n awgrymu bod uchelgais wedi bod i’w hestyn dros y bloc cyfan gyda gwedd flaen ychwanegol iddi ar Adelaide Street, ond ymddengys na wireddwyd hyn.  O’r dechrau’n deg, swyddfeydd oedd yn Merthyr House.  Ymhlith ei denantiaid roedd rhai o gwmnïau glo a llongau amlycaf De Cymru.

rsz_d1093-2-21_to_44_031_edwardian_warehouse_james_street_merthyr_house

Yn oriau mân y bore ar ddydd Sul 17 Mawrth 1946, cyneuodd tân ar ail lawr swyddfeydd cwmni llongau Reardon-Smith.  Ymddengys i’r tân gydio’n syth.  Llwyddodd ymladdwyr tân i achub y gofalwr a’i deulu a oedd wedi eu dal ar y llawr uchaf ac ni chollwyd bywyd ac ni wnaed difrod sylweddol i adeiladau gerllaw.  Llwyddwyd i arbed rhan sylweddol o ochr ddeheuol yr adeilad ond dinistriwyd y rhan ogleddol (James Street).  Yn ogystal â cholli eu swyddfeydd gweithredol, collodd sawl cwmni gofnodion yn nodi eu hanes fel cwmnïau.

Ychydig ddyddiau wedi’r digwyddiad, lleisiodd Sir James Wilson, Prif Gwnstabl Caerdydd, feirniadaeth am arafwch y Gwasanaeth Tân Cenedlaethol yn ymateb, a hefyd y modd yr aethant ati i ymladd y tân.  Penodwyd John Flowers KC gan yr Ysgrifennydd Cartref i ymholi i’r cwestiynau a godwyd gan Sir James, a chyhoeddwyd ei adroddiad ym mis Gorffennaf y flwyddyn honno.  Fel mae’n digwydd, nid yn unig i Flowers fethu cyfiawnhau unrhyw un o’r cwynion, ond yn hytrach fe ganmolodd yn benodol y modd y bu i un swyddog tân fynd i’r afael â’r achub a fu ar drigolion y llawr uchaf.

Ym 1950, gwnaed cais gan y perchnogion, J Cory & Sons Ltd, i adnewyddu Merthyr House.  Mae eu cynlluniau yn dangos yn glir fod pegwn James Street o’r adeilad wedi ei dynnu yn llwyr; gyda’r gwagle yn cael ei ddefnyddio fel maes parcio.  Mewn gwirionedd, ni ailadeiladwyd y rhan ogleddol, er i floc mynediad concrid braidd yn hyll gael ei ychwanegu, ar ryw bwynt, ar yr ochr yna i’r adeilad.

Ni lwyddodd Merthyr House i adfer y statws a fu ganddo cyn y tân fel un o brif adeiladau swyddfeydd Butetown.  Yn gynnar yn y 60au, bu’n gartref i ddosbarthwr moduron; yn ddiweddarach bu’n gartref i Adran Waith Gwasg Prifysgol Cymru.  Ac ar ryw bwynt, cafodd ei ail-fedyddio yn Imperial House.  Wedi iddo gael ei esgeuluso am nifer o flynyddoedd, dymchwelwyd yr adeilad ac mae’r safle ar hyn o bryd yn wag.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor [D1093/2/31]
  • Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau rheoli adeiladu, cynllun ar gyfer atgyweirio Merthyr House, James Street, 1950 [BC/S/1/39995]
  • Flowers, John KC, Inquiry into the Fire at Merthyr House, James Street, Cardiff on the 17th March 1946 (Cmd. 6877)
  • Superb Buildings erected by E. Turner & Sons Ltd (1929)
  • Lee, Brian, Cardiff’s Vanished Docklands
  • Lee, Brian & Butetown History and Arts Centre, Butetown and Cardiff Docks (cyfres Images of Wales)
  • Cyfeirlyfrau amrywiol ar gyfer Caerdydd
  • South Wales Echo, 18 Mawrth 1946; 21 Mawrth 1946; 3 Awst 1946
Advertisements

Bach – Ond Difyr!

Cerdyn post unigol o Neuadd y Ddinas Caerdydd yn y 1950au oedd y 75ain derbynyn a dderbyniwyd gan Archifdy Morgannwg yn 1981.

Cerdyn post o Neuadd y Ddinas, Caerdydd

Cerdyn post o Neuadd y Ddinas, Caerdydd

Mae’n dra gwahanol o ran maint i rai o’r 75ain derbynion blynyddol eraill a dderbyniwyd ond gan nad oes cyfyngiad o ran maint ar gyfer adneuon, cafodd y cerdyn post ei dderbyn.

Roedd y cerdyn post yn rhan o gyfres o eitemau a drosglwyddwyd i Archifdy Morgannwg o Archifau Gwynedd yng Nghaernarfon.  Mae gwasanaethau archifo ledled y wlad yn aml yn ailddosbarthu cofnodion sy’n dod i law nad ydynt yn berthnasol i’r ardal y maen nhw’n ei gwasanaethu ac yn eu hanfon i’r archif leol briodol.

Dechreuwyd ar yr adeilad (‘neuadd y dref’ bryd hynny) yng Nghaerdydd yn 1901 gan ddylunwyr Messrs. Lanchester Stewart & Rickards.Cafodd y gwaith ei wneud gan gwmni adeiladu Caerdydd E. Turner & Sons Ltd. Gosodwyd carreg sylfaen ‘neuadd y dref’ mewn seremoni ar 23 Hydref 1901, a chedwir rhaglen swyddogol ar gyfer y digwyddiad yn Archifau Morgannwg (BC/X/9). Erbyn i’r adeilad gael ei gwblhau roedd Caerdydd wedi derbyn statws dinas, a daeth y neuadd dref yn ‘Neuadd y Ddinas’.

Rhaglen gosod carreg sylfaen

Rhaglen gosod carreg sylfaen

Drwy edrych yn ein catalog ar-lein Canfod am gofnodion yn ymwneud â ‘Neuadd y Ddinas / Dref Caerdydd’ ceir 30 eitem.  Nid yw ein casgliad o gynlluniau rheoleiddio adeiladu Dinas Caerdydd (BC/S/1) yn cynnwys cynlluniau gwreiddiol ar gyfer yr adeilad godidog hwn.  Ond eleni cawsom luniau yn ymwneud ag adeiladau a adeiladwyd gan E. Turner & Sons Ltd.; ac mae un yn dangos y broses o adeiladu Neuadd y Ddinas (D1079).

Adeiladu Neuadd y Ddinas, Caerdydd

Adeiladu Neuadd y Ddinas, Caerdydd