Mae’r prosiect catalogio presennol ‘Dros Donnau Amser: Datgelu Hanes Bae Caerdydd’ wedi’i wneud yn bosibl drwy grant gan y rhaglen ‘Datgelu Archifau’, a ariennir gan yr Archifau Cenedlaethol, Ymddiriedolaeth Pilgrim, a Sefydliad Wolfson. Nod y prosiect yw sicrhau bod cofnodion Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd (CBDC) ac Associated British Ports (ABP) De Cymru ar gael. Mae catalogio cofnodion CBDC bellach wedi’i gwblhau ac mae’r catalog ar gael i’w weld yn http://calmview.cardiff.gov.uk/ dan y cyfeirnod DCBDC. Yn yr erthygl hon mae’r Archifydd Prosiect, Katie Finn, yn trafod y casgliad a’r hyn sydd i’w ganfod ynddo.
Roedd gwaith CBDC yn rhan aruthrol o ailddatblygu Caerdydd i’r ddinas rydym yn gyfarwydd â hi heddiw. Sefydlwyd y Gorfforaeth ar 3 Ebrill 1987 gan Orchymyn Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd (Ardal a Chyfansoddiad) 1987. Dynodwyd arwynebedd o dros 1000 hectar yn Ne Caerdydd a Phenarth i’w ddatblygu i annog buddsoddiad preifat yn yr ardal. Ystyriwyd bod yr ardaloedd a gwmpesid gan y gorchymyn yn ardaloedd o bydredd trefol a than-gyflogaeth, a welwyd fel problemau cynyddol ledled y Deyrnas Gyfunol. Sefydlwyd Corfforaethau Datblygu Trefol mewn amryw o drefi a dinasoedd gan Lywodraeth Geidwadol Margaret Thatcher i wella’r ardaloedd hyn. Eu nod, fel yng Nghaerdydd, oedd defnyddio pwerau cynllunio a phrynu gorfodol pellgyrhaeddol i ailddatblygu ardaloedd adfeiliedig trefol. Roedd ardaloedd eraill y CDT yn cynnwys Docklands Llundain, Bryste, Glannau Mersi, a Teesside. Gan fod y corfforaethau’n gyrff anllywodraethol, roedd ganddynt fyrddau a oedd yn cynnwys aelodau o fyd diwydiant preifat. Roedd hyn yn cynnwys Syr Geoffrey Inkin, Cadeirydd CBDC.

Bae Caerdydd cyn creu’r Morglawdd ac ailddatblygu (DCBDC/12/1/85)
Roedd gan CBDC gylch gwaith eang i ddatblygu hen ardaloedd diwydiannol Caerdydd. Ymhlith y prosiectau allweddol roedd creu bae mewndirol drwy adeiladu morglawdd; cysylltu canol y ddinas â’r glannau; creu swyddi i bobl leol; a chreu ardal ddeniadol i bobl weithio, byw a chymdeithasu. Nod Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd oedd rheoli’r gwaith o ailddatblygu’r ardal er mwyn sicrhau ei bod o ansawdd uchel ac o safon gyffredinol ledled y bae ac mewn datblygiadau masnachol a datblygiadau tai. O’r herwydd, mae casgliad mawr o gofnodion a phapurau pwyllgor yng nghofnodion CBDC. Sefydlwyd nifer o bwyllgorau i wneud penderfyniadau a chynghori ar wahanol agweddau ar eu gwaith. Roedd y pwyllgorau hyn yn amrywio o’r Bwrdd, y Tîm Rheolwyr, y Grŵp Arfarnu Prosiectau a Chyfarwyddwyr a drafodai yr holl brosiectau, polisïau ac adroddiadau, i’r Grŵp Cyswllt Staff, y Grŵp Arfarnu Grantiau a’r Pwyllgor Cynllunio, oedd â’u cylch gwaith yn gyfyngedig. Mae’r papurau hyn yn cynnwys pob penderfyniad gyda manylion y trafodaethau. Maent hefyd yn darparu gwybodaeth am bob prosiect a ariannwyd gan y Gorfforaeth, yn fawr neu’n fach.

Rhai o bapurau cyfarfodydd Bwrdd CBDC (DCBDC/1/2)
Mae’r amrywiaeth eang o bwyllgorau yn adlewyrchu dibyniaeth y sefydliad ar ymgynghorwyr. Fe wnaethon nhw gynghori ar bob agwedd ar waith CBDC. Roedd hyn yn cynnwys creu briffiau datblygu i roi arweiniad i fuddsoddwyr a chontractwyr ar safonau dylunio trefol ac estheteg datblygiadau. Cynhaliwyd astudiaethau gwyddonol hefyd ar lefelau dŵr daear, samplau tir a phridd halog o ardaloedd datblygu arfaethedig. Yn ogystal, cyflogodd y Gorfforaeth ymgynghorwyr i brisio tir ac eiddo i roi ffigyrau iawndal ar gyfer y gorchmynion prynu gorfodol a chwynion. Mae adroddiadau’r ymgynghorwyr hefyd yn cynnig gwybodaeth werthfawr am bobl a demograffeg ardal Bae Caerdydd. Y rheswm dros hyn yw ymchwil marchnad a gynhaliwyd i lywio penderfyniadau marchnata a datblygu. Yn ogystal, comisiynodd Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd adroddiadau ar y cymunedau ym Mae Caerdydd i ddeall a gwella cysylltiadau cymunedol. Cynhyrchodd yr ymgynghorwyr hefyd amrywiaeth o gynlluniau yn dangos ardal ddatblygu Bae Caerdydd, cynlluniau tirlunio, a chynlluniau manwl o brosiectau gan gynnwys Morglawdd Bae Caerdydd.

Un o’r eitemau mwyaf y daeth Katie ar ei draws wrth gatalogio’r casgliad – swmp o gynlluniau a gyflwynwyd i Dŷ’r Cyffredin (DCBDC/11/21)
Nid fu mater ailddatblygu Bae Caerdydd heb rywfaint o ddadlau. Ni chafodd un o’r prosiectau amlycaf, Morglawdd Bae Caerdydd, gefnogaeth gyffredinol. Mae cyfres Mesur Morglawdd Bae Caerdydd ac Adroddiadau’r Morglawdd yn cynnwys tystiolaeth o’r problemau yn ymwneud â’r morglawdd, ynghyd â’r ymdrechion lluosog i basio Mesur y Morglawdd drwy’r Senedd. Mae’n cynnwys adroddiadau ar faterion amgylcheddol gan gynnwys yr effeithiau ar adar y glannau a lefelau dŵr daear. Dadl arall yr eir i’r afael â hi yn y casgliad yw gwrthod cynllun buddugol Zaha Hadid ar gyfer Tŷ Opera Bae Caerdydd. Ceir cyfres hefyd ar ymwneud CDBC ag adeilad y Gyfnewidfa, Sgwâr Mount Stuart, a’r awgrymiadau ailddatblygu.
Yn ogystal â’r gwaith adeiladu ac ailddatblygu a wnaed gan Gorfforaeth Datblygu Bae Caerdydd, hyrwyddodd y sefydliad Fae Caerdydd hefyd fel ardal i ymlacio a chymdeithasu. Roedd y tîm marchnata yn ymwneud yn helaeth â’r gwaith hwn ac mae eu papurau hwy’n cynnwys gwybodaeth gefndir am amrywiaeth o ddigwyddiadau, gan gynnwys y Regatta, Pencampwriaeth Cychod Modur Cyflym, a chyfraniad CBDC i Ŵyl Arddio Cymru. Yn ogystal â hyn, mae’r casgliad ffotograffig yn cynnwys amrywiaeth o ddelweddau sy’n amlygu digwyddiadau a gynhaliwyd yn y Bae. Gellir gweld ffotograffau o berfformwyr stryd, mynychwyr a Charnifal Butetown ochr yn ochr â ffotograffau o’r awyr a ffotograffau o waith adeiladu.
P’un a yw datblygiad Bae Caerdydd a’r ardaloedd cyfagos yn cael ei ystyried yn llwyddiant neu’n fethiant yn y pen draw, ni ellir diystyru’r effaith enfawr a wnaed ar Gaerdydd gan Gorfforaeth Datblygu Bae Caerdydd. Mae’r casgliad hwn yn cynnwys gwybodaeth am bob agwedd ar ailddatblygu Bae Caerdydd drwy sbectol Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd, yn ogystal â darparu gwybodaeth am amrywiaeth o faterion cymdeithasol ac amgylcheddol a oedd yn effeithio ar Gaerdydd ar y pryd.
Nid yw’r prosiect Dros Donnau Amser wedi’i orffen eto. Mae Katie bellach wedi symud ymlaen i fynd i’r afael â chofnodion ABP. Bydd gwaith hefyd yn parhau ar gasgliad CBDC wrth i’n Hyfforddai Rasheed fwrw ymlaen â’r gwaith o ddigideiddio’r casgliad ffotograffig fel y gellir sicrhau bod y delweddau ar gael ar-lein.
Katie Finn, Archifydd Prosiect Datgelu Archifau