Gwrthwynebwyr Cydwybodol a Dynion Ardystiedig

Cyn dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf roedd y Fyddin a’r Llynges Brydeinig yn lluoedd proffesiynol o ddynion a oedd wedi dewis ymuno â’r lluoedd arfog fel eu galwedigaeth. Fodd bynnag, yn sgîl y colledion trychinebus a gafwyd yn ystod misoedd cyntaf y Rhyfel o ran dynion a laddwyd ac a anafwyd, roedd y Fyddin Brydeinig yn rhy fach i atal bygythiad lluoedd mawrion yr Almaenwyr.

Ym 1915 lansiwyd ymgyrch gan yr Arglwydd Kitchener, y Gweinidog Rhyfel, i annog dynion o oedran gwasanaeth milwrol i wirfoddoli. Roedd y gwirfoddolwyr hynny yn cynnwys dynion nad oedd am wasanaethu ar unwaith, ond a dyngodd lw i wasanaethu yn y dyfodol pan oedd galw amdanynt. Fe’u gelwid yn ‘Ddynion Ardystiedig’. Roedd y cynllun hwn yn golygu bod cronfa o ddynion ymrwymedig ar gael i’r fyddin yn ôl yr angen.  Rhoddwyd rhwymyn braich i’r ‘dynion ardystiedig’ ei wisgo, i ddangos eu bod yn barod i wasanaethu a chyflawni eu dyletswydd. Roedd hyn yn lleihau’r pwysau a fyddai wedi bod ar ddynion ifanc bryd hynny, gan eu galluogi i fyw yn eu cymunedau heb wynebu gwarth y ‘plu gwynion’ a roddwyd i lwfrgwn honedig.

Categori arall o ddynion nad oedd wedi gwirfoddoli ym mlynyddoedd cynnar y rhyfel oedd y rheini mewn galwedigaethau a oedd yn hanfodol ar gyfer yr ymdrech ryfel, er enghraifft gweithwyr amaethyddol a gweithwyr y diwydiannau trymion.

Roedd grŵp bychan arall o ddynion a oedd yn gymwys i gael eu gorfodi i ymuno â’r fyddin, ond a hawliodd esemptiad ar sail foesol a chrefyddol.  Gelwid yr unigolion hynny yn wrthwynebwyr cydwybodol.  Cafodd y dynion hyn eu diarddel o’r gymdeithas i raddau helaeth am benderfynu peidio ag ymladd.

Erbyn 1916, roedd y Fyddin Brydeinig wedi colli 528,000 o ddynion, naill ai wedi’u lladd, eu hanafu neu’n ddynion a oedd ar goll ac y tybiwyd eu bod wedi marw. Roedd y gronfa o wirfoddolwyr i ‘Fyddin Kitchener’ wedi’i disbyddu, ac felly cyflwynwyd gorfodaeth filwrol. Bryd hynny, gwnaeth nifer o ‘Ddynion Ardystiedig’ gais i gael eu rhyddhau o’u hymrwymiad blaenorol i wasanaethu yn y rheng flaen.  Sefydlwyd tribiwnlysoedd i ystyried y ceisiadau hynny i gael eu rhyddhau o wasanaeth milwrol neu i ohirio’r gwasanaeth hwnnw ledled y wlad, gan gynnwys ym Morgannwg.  Roedd Tribiwnlys Ardaloedd Llandaf a Dinas Powys yn cynnwys cynrychiolwyr y lluoedd arfog, y proffesiwn cyfreithiol, busnesau ac undebau llafur.   Roedd y tribiwnlys yn cyfarfod sawl gwaith bob mis.

Cyfarfu’r Tribiwnlys 8 gwaith ym mis Mawrth 1916. Mae tystiolaeth o gofnodion y tribiwnlysoedd hynny (cyf.: RDC/C/1/34) yn awgrymu y bu llawer o’r ceisiadau a gafwyd gan ‘Ddynion Ardystiedig’ yn aflwyddiannus. Cafodd pob cais ei ystyried yn unigol, a gellir gweld rhai enghreifftiau o geisiadau llwyddiannus yng nghofnodion y tribiwnlys:

exempt from Military Service provided he continues his occupation as a ploughman

…exemption conditional upon remaining chief support of his widowed mother

Ond gwrthodwyd llawer o’r ceisiadau:

…exemption on conscientious grounds to take up work with the Friend’s War Relief Committee – Application refused                                                                                                                                      

Roedd gan Gyngor Dinas Caerdydd agwedd ddigyfaddawd tuag at athrawon a oedd yn hawlio esemptiad ar sail gwrthwynebiad cydwybodol. Cymeradwyodd y Cyngor ddatrysiad:

‘…that this Council considers it undesirable that [C.Os] …shall continue in the service or pay of the Council. Head masters were requested to ask each teacher to answer the following question – Are you a Conscientious Objector to Military Service’. (Ysgol Bechgyn Radnor Road, llyfr log, 19 Chwe 1917 cyf.: EC21/3)

Dim ond nifer fach o wrthwynebwyr cydwybodol a esgusodwyd yn llwyr rhag gwasanaeth milwrol.  Bu’n rhaid i lawer ohonynt wasanaethu mewn rolau nad oedd yn golygu ymladd yn y rheng flaen. Prin yw’r cofnodion am wrthwynebwyr cydwybodol, er gellir dod o hyd i rai yn yr Archifau Gwladol ac mewn rhai archifdai lleol fel Archifau Morgannwg.   Cofnodwyd manylion llawer o’r tribiwnlysoedd lleol mewn papurau newydd o’r cyfnod.                       

John Arnold, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg