Er bod Iddewon yn byw yng Nghaerdydd yn y 18fed ganrif, ni sefydlwyd cymuned Iddewig tan hanner cyntaf y 19eg ganrif. Agorodd synagog parhaol cyntaf y dref yn East Terrace, sydd bellach yn ffurfio pen deheuol Ffordd Churchill, yn 1858. Yn y 1880au, ymwahanodd rhan o’r gynulleidfa o East Street gan sefydlu synagog ar wahân yn Edward Place, oddi ar Stryd Ogleddol Edward, lle mae Canolfan Capitol a Tŷ Churchill erbyn hyn. Erbyn 1894, roedd cynulleidfa East Terrace yn rhy fawr ar gyfer ei hadeilad a phrynwyd safle yn Heol y Gadeirlan er mwyn adeiladu synagog newydd. Roedd y lleoliad a ddewiswyd, yn adlewyrchu, yn rhannol, ffyniant cynyddol llawer o deuluoedd Iddewig, sydd bellach wedi symud o ardal y Dociau i Dreganna a Glan-yr-afon.
Agorwyd y synagog newydd ddydd Mercher 12 Mai 1897 ym mhresenoldeb Prif Rabbi’r Deyrnas Unedig, Dr Hermann Adler. Wedi’i ddylunio gan y pensaer o Lundain, Delissa Joseph, gallai ddal 241 o ddynion ar y llawr daear a 158 o ferched yn yr oriel, gyda lle i ymestyn yn y dyfodol.
Yn 1941, cytunodd dwy gynulleidfa yng Nghaerdydd i uno fel Synagog Unedig Caerdydd. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, symudodd llawer o deuluoedd Iddewig i Ben-y-lan a Chyncoed, a arweiniodd at sefydlu synagog newydd oddi ar Tŷ Gwyn Road yn 1995 (cafodd hwn ei ail-leoli yng Ngerddi Cyncoed yn 2003). Parhaodd synagog Heol y Gadeirlan i weithredu tan 1989, pan gafodd ei gau. Bellach wedi’i ail-enwi yn Temple Court, mae’r tu mewn wedi’i addasu i’w ddefnyddio fel swyddfeydd.
David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg
Ffynonellau a ddefnyddiwyd:
- Casgliad Mary Traynor [D1093/2/15]
- Cofnodion a Phapurau Cymuned Iddewig Caerdydd, llyfryn coffa i ddathlu 60 mlynedd ers agor Synagog Heol y Gadeirlan, 1957 [DJR/5/16]
- http://www.cardiffshul.org/history2.htm
- Cardiff Times and South Wales Weekly News, 15 Mai 1897