Wncl Sam yn chwarae Siôn Corn, Rhagfyr 1941

Wyth deg mlynedd yn ôl, ym mis Rhagfyr 1941, roedd Caerdydd yn profi ei thrydedd Nadolig yn yr Ail Ryfel Byd. Er bod y gwaethaf o’r blitz ar ben, roedd y ddinas yn dal i fod yn destun cyrchoedd bomio rheolaidd. Mae’r cofnodion ar gyfer Ysgol y Merched Grangetown yn cadarnhau bod dros ddeg ar hugain o rybuddion cyrchoedd awyr wedi bod yn ystod oriau ysgol yn chwarter olaf y flwyddyn gyda’r plant yn treulio tair awr ar ddeg yn llochesi cyrchoedd awyr yr ysgol. I ryw raddau roedd bywyd normal wedi ailddechrau.  Roedd y bechgyn o ysgol Gymysg Llwynbedw unwaith eto’n mynd i gael gwersi nofio ym Maddonau Cilgant Guildford ond dim ond yn sgil codi cyfres o lochesi cyrchoedd awyr ar y llwybr o’r ysgol i’r baddonau. Yn ogystal, roedd gweld faciwîs yn parhau i gyrraedd Caerdydd yn fodd o atgoffa’n barhaus am effaith y bomiau ar ddinasoedd ledled y deyrnas.

Wrth gyflwyno dogni ar fwydydd sylfaenol, roedd y Nadolig, i’r rhan fwyaf o deuluoedd, yn debygol o fod yn brofiad go lwm. Felly, er bod oedolion wedi eu hoelio i’r newyddion dramatig bod fflyd Japan wedi ymosod ar ganolfan y llynges Americanaidd yn Pearl Harbour, mae’n bosibl y byddai gan blant Caerdydd fwy o ddiddordeb wedi bod mewn bwletin a gyhoeddwyd o Groto Siôn Corn. Yn benodol, roedd sawl papur yn adrodd stori bod Siôn Corn wedi recriwtio set newydd o gynorthwywyr fel y gallai olrhain a darparu anrhegion i blant a oedd wedi’u gwahanu oddi wrth eu teuluoedd a’u cartrefi o ganlyniad i’r cyrchoedd bomio.

Roedd Unol Daleithiau America wedi aros yn niwtral tan yr ymosodiad ar Pearl Harbour ym mis Rhagfyr 1941.  Roedd llawer ohonynt fodd bynnag yn benderfynol o helpu’r Cynghreiriaid, ac roedd nifer o sefydliadau elusennol wedi’u creu yn America i gynnig cymorth a rhyddhad i bobl Prydain. Y mwyaf adnabyddus, efallai, oedd Cymdeithas Gymorth Rhyfel Prydain neu’r British War Relief Society a ddarparodd lawer iawn o gymorth gan gynnwys bwyd, dillad a chyflenwadau meddygol. Er bod cyflenwadau i fod yn rhai “anfilwrol”, roedd y gymdeithas yn aml yn hwylio’n “go agos i’r gwynt” gyda, er enghraifft, y rhodd o hanner cant o unedau symudol a oedd yn darparu bwyd a diodydd poeth mewn canolfannau awyr ar gyfer lluoedd a chriwiau bomio yr Awyrlu Brenhinol.

Yn hydref 1941 troes y Gymdeithas ei golygon at baratoadau’r Nadolig. Roedd yn hysbys bod llawer o blant ledled Prydain wedi cael eu symud o’u cartrefi i ardaloedd diogel neu eu gorfodi i lety dros dro yn sgil y bomio.  Felly, creodd y Gymdeithas gynllun i blant ifanc i ddarparu anrhegion Nadolig a fyddai’n cael eu cludo i Brydain ar draws yr Iwerydd.

Picture1

Nid oedd yn dasg syml ym misoedd y gaeaf gyda llongau tanfor yr Almaen yn prowlan. Ac eto, yn nhrydedd wythnos Rhagfyr cafodd pedwar ar hugain o blant yn Ysgol Fabanod Sant Padrig yn Grangetown anrheg Nadolig cynnar gan Wncl Sam. I fechgyn roedd rhain yn cynnwys tegan mecanyddol a doliau i ferched.  Yn ogystal, cafodd pob un ohonynt ail anrheg, fel jig-so neu gêm fwrdd, ynghyd â phecyn o injaroc Americanaidd. Gadawyd i ysgolion nodi derbynwyr yr anrhegion ond, o ystyried nifer yr ifaciwis a gyrhaeddodd Gaerdydd o Birmingham, ynghyd â phlant lleol doedd dim prinder o ymgeiswyr teilwng.

Gwnaed cyflwyniadau tebyg mewn ysgolion ledled Caerdydd a ledled Prydain.  At ei gilydd, cafodd dros gan mil o blant anrheg Nadolig gan y Gymdeithas y flwyddyn honno; Pum mil o anrhegion oedd cyfran Caerdydd. Ym mlynyddoedd canlynol y rhyfel daeth anrhegion Nadolig gan Wncl Sam yn rhan o galendr yr ysgol yng Nghaerdydd. Er mai dim ond ar gyfer y rhai mwyaf anghenus y gellid darparu anrhegion, roeddent yn cynnig peth o ysbryd yr Ŵyl i blant oedd â’u bywydau wedi’u chwalu gan ryfel.

Dyma’r drydydd o gyfres fer o erthyglau am Gaerdydd ym mlynyddoedd y rhyfel gan dynnu ar y cofnodion a gedwid gan Benaethiaid ysgolion ar y pryd. Am fanylion y llyfrau log ysgolion sydd gennym ar gyfer 1939-45, cysylltwch ag Archifau Morgannwg www.archifaumorgannwg.gov.uk.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg