Cofnodion Capel

Mae capeli wedi chwarae rôl bwysig yn hanes diweddar Morgannwg.  Ymysg ein 75 75fed dogfen mae cofnodion Cenhadaeth yr Eglwys Fethodistaidd Wesleaidd ym Morgannwg Ganol (1998/75), yn ogystal â chofnodion Capel Bedyddwyr Seion, Cwmaman, Aberdâr (2013/75).  Dyma ddwy o blith nifer o gapeli sydd wedi cyfrannu at ein harchifau.

Gall cofnodion capel gynnwys cofrestr o fedyddion, priodasau a chladdedigaethau; cofnodion o aelodaeth; adroddiadau blynyddol; cofnodion cyfarfodydd; cyfrifon; cynlluniau adeiladu; cofnodion ysgol Sul; ffotograffau; cofnodion o gymdeithasau’r capel, fel y Gobeithlu… mae’r rhestr yn ddiddiwedd.

Mae Arolwg Capeli Morgannwg Ganol hefyd yn Archifau Morgannwg (cyf.: MGCC/CS).  Fe’i lluniwyd gan Adran Gynllunio Cyngor Sir Morgannwg Ganol yn ystod y 1970au ac mae’n nodi pob capel yn ardal Morgannwg Ganol yn ystod y cyfnod, ac yn cynnwys ffurflenni’r arolwg, darluniau o ffryntiad a chynllun yr adeiladau, hanes cryno a ffotograffau o’r capel, a nodiadau a gohebiaeth ychwanegol yn ymwneud â’r arolwg.

Capel y Bedyddwyr, Blaengarw

Capel y Bedyddwyr, Blaengarw

Mae llawer o gapeli wedi cau yn ne Cymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wrth i’r cynulleidfaoedd leihau.  Yn anffodus, nid yw eu cofnodion bob amser yn ein cyrraedd ni yma yn Archifau Morgannwg.  Os ydych chi’n ymwneud â’ch capel lleol – boed hwnnw’n gapel sy’n ffynnu neu’n gapel sydd mewn trafferth – mae croeso i chi gysylltu â ni i gael cyngor ac arweiniad ar gadw eich treftadaeth ddogfennol.