Neuadd a Sefydliad Gweithwyr Cwm Ogwr: Ffotograffau gan Edwin Miles o Ben-y-bont ar Ogwr

Mae’r ffotograffau a ddewiswyd yr wythnos hon o gasgliad Edwin Miles o Neuadd a Sefydliad Gweithwyr Cwm Ogwr, tirnod adnabyddus a gydnabuwyd, yn ei gyfnod, fel un o’r adeiladau gorau yng nghymoedd De Cymru.

M802

Roedd y Sefydliad yn gynnyrch ymgyrch ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg i gyfleusterau fod ar gael i’r gymuned ddod at ei gilydd ar gyfer adloniant a dysgu. Agorwyd yr Ystafell Ddarllen gyntaf ym Mro Ogwr ym mis Gorffennaf 1885 ac, erbyn dechrau’r 1900au, roedd galw am adeilad llawer mwy … i nid yn unig ddifyrru’r aelodau ond meithrin eu meddyliau yn artistig, yn ddeallusol ac yn foesol (Glamorgan Gazette, 20 Ionawr 1911).

Wedi’i hadeiladu ar gost o £9,000, roedd Neuadd a Sefydliad Gweithwyr Cwm Ogwr yn edrych i ddiwallu’r angen hwn, gyda phrif neuadd yn gallu cynnal mil o bobl a neuadd lai a allai ddarparu ar gyfer dau gant. Yn ogystal, roedd gan y Sefydliad ystafell filiards gyda phedwar bwrdd, ystafelloedd pwyllgor, llyfrgell ac ystafell ddarllen. Talwyd y gost trwy danysgrifiad cyhoeddus ac roedd yn cynnwys £200 a ddarparwyd ar ran y Brenin. Fodd bynnag, dynion y glofeydd lleol dalodd y rhan fwyaf o’r bil.  Cyfrannodd pob gweithiwr geiniog ym mhunt ei enillion i’r Sefydliad o dan drefniant a elwir yn “system buntedd” a’i goruchwylio gan D J Thomas, y cyfeirir ato’n helaeth yn lleol fel “Dai Pound”.

M803

Roedd y seremoni agoriadol, ar ddydd Mercher 18 Ionawr 1911, yn ddiwrnod arbennig i’r gymuned leol gyda’r strydoedd yn cael eu haddurno gyda baneri. Ymgasglodd dros fil o bobl ar Commercial Street wrth i’r Henadur Llewellyn agor y prif ddrws gydag allwedd aur seremonïol a heidiodd y cyhoedd i edmygu’r adeilad newydd. Dathlwyd yr agoriad gyda chinio ac yna ffilm a ddangoswyd yn y Brif Neuadd gan ddefnyddio “Biosgôp” y Sefydliad ei hun.

Dros y saith deg mlynedd nesaf rhoddodd y Sefydliad ffocws i fywyd cymunedol gydag amrywiaeth o gyngherddau, darlithoedd, ffilmiau, dawnsfeydd a chyfarfodydd cyhoeddus. Roedd cyfleusterau’r gemau yn arbennig o boblogaidd gyda thimau snwcer, biliards, drafftiau a gwyddbwyll. Roedd yna lawer o eiliadau cofiadwy, gan gynnwys y dyn lleol, Fred Cooke, yn sgorio uchafswm o 147 ar y bwrdd snwcer, ac ym 1965 fe gafodd Lyn Davies ei anrhydeddu mewn cyflwyniad i nodi ei fedal aur yng Ngemau Olympaidd Tokyo.

Mae’n debyg bod y ddau lun a dynnwyd gan Edwin Miles wedi nodi’r agoriad ym 1911. Nid ydynt felly’n cynnwys y y cloc a ychwanegwyd islaw’r gromen addurnedig ym 1949 y bydd llawer sy’n gyfarwydd â’r Sefydliad yn ei gofio. Yn anffodus, cafodd yr adeilad ei ddymchwel ym 1983 ar ôl cael ei ddifrodi’n ddifrifol gan ddŵr llifogydd ym Mawrth 1981. Fodd bynnag, gallwch ddysgu mwy am y Sefydliad ar wefan Cymdeithas Hanes a Threftadaeth Leol Cwm Ogwr. Yn benodol, mae Kenneth James wedi llunio hanes manwl o’r adeilad gan ddefnyddio cofnodion y Sefydliad sydd wedi goroesi.

Tynnodd Edwin Miles luniau o lawer o drefi a phentrefi ar draws Morgannwg rhwng 1905 a 1929.  Mae’r ffotograffau o Neuadd a Sefydliad Gweithwyr Cwm Ogwr i’w gweld dan y cyfeirnod D261/M802 a D261/M803. Rydym yn bwriadu tynnu sylw at fwy o luniau o gasgliad Edwin Miles dros y misoedd nesaf. Gellir gweld y prif gasgliad yn Archifau Morgannwg neu ar-lein ar y catalog http://calmview.cardiff.gov.uk/ o dan gyfeirnod D261.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Cynlluniau Doc Porthcawl

rsz_harbour_plans_art_03

Ym 1825 cafodd diwydianwyr a thirfeddianwyr lleol Ddeddf Seneddol am adeiladu tramffordd i lawr Cwm Llynfi i Fae Porthcawl, a gwella’r Bae drwy godi rhyw fath o ddoc. Dechreuodd y rheilffordd yn Nyffryn Llynfi, ychydig filltiroedd uwchben Maesteg, a rhedodd ar hyd y Dyffryn i Dondu lle trodd tua’r gorllewin tuag at Fynydd Cynffig a thrwy’r Pîl, y Drenewydd yn Notais i gyrraedd y môr ym Mhorthcawl. Roedd safleoedd eraill ar aber afon Ogwr ac yn y Drenewydd yn Notais wedi cael eu hystyried ar gyfer y doc ond fe’u gwrthodwyd, naill ai oherwydd anawsterau ar y tir neu oherwydd nad oedd y tirfeddianwyr yn fodlon cydweithredu. Roedd yr harbwr a adeiladwyd ym Mhorthcawl yn fasn petryal bach a oedd yn dibynnu ar y llanw ac felly dim ond ar adegau penodol o’r dydd y gellid ei ddefnyddio, ac ym 1840 cafodd ei ymestyn a’i ddyfnhau. Erbyn 1864 roedd y twf yn y diwydiannau haearn a glo yn golygu bod y ddau gwmni rheilffordd a oedd yn gweithredu ar y pryd yng nghymoedd Llynfi ac Ogwr wedi cydweithio i gael Deddf arall yn cynnig ehangu llawer mwy.

Byddai’r fynedfa i’r basn presennol yn cael ei hail-leoli, a byddai doc hollol newydd o ryw 7 erw yn cael ei adeiladu, wedi’i gysylltu â hi, ar y gogledd, a’i ffitio â gatiau fel na fyddai’n ddibynnol ar y llanw; byddai’r morglawdd hefyd yn cael ei ymestyn. Agorodd y doc newydd ym mis Gorffennaf 1867 ar gost o £250,000, ac mewn saith mlynedd cynyddodd faint o lo a allforiwyd bron i ddeg gwaith.

Arweiniodd dirwasgiad yn y diwydiant haearn i’r doc i ganolbwyntio mwy a mwy ar lo. Cyrhaeddodd y fasnach ei huchafbwynt ym 1892 pan ddociwyd dros 800 o longau, ond dirywiodd yn gyflym iawn ar ôl hynny, yn bennaf oherwydd agor dociau mwy eang a modern ym Mhort Talbot. Daeth masnach o Borthcawl i ben o’r diwedd ym 1906, a throdd y dref ei sylw o fasnach i hamdden.

Harbour-Plans-detail-web-re

Mae Archifau Morgannwg yn dal 32 o gynlluniau a baratowyd gan y peiriannydd o Lundain R.P. Brereton rhwng 1864 a 1866 ar gyfer ymestyn Doc Porthcawl (ref.: UDPC/HARBOUR).  Er i’r casgliad fod yn weddol fawr, efallai nid yw’n gyflawn; mae rhai ohonynt wedi’u rhifo, ond nid yw’r holl rifau yn bresennol. Yn ogystal â chynllun cyffredinol, maent yn dangos manylion gatiau’r doc, y morglawdd a’r rheiliau glo. Mae’r doc o 1867 wedi’i lenwi, ond mae’r cynlluniau wedi goroesi i’n hatgoffa o un agwedd ar dwf diwydiannol Fictoraidd, a’r newid ffawd mewn gwahanol borthladdoedd.