Cynlluniau Doc Porthcawl

rsz_harbour_plans_art_03

Ym 1825 cafodd diwydianwyr a thirfeddianwyr lleol Ddeddf Seneddol am adeiladu tramffordd i lawr Cwm Llynfi i Fae Porthcawl, a gwella’r Bae drwy godi rhyw fath o ddoc. Dechreuodd y rheilffordd yn Nyffryn Llynfi, ychydig filltiroedd uwchben Maesteg, a rhedodd ar hyd y Dyffryn i Dondu lle trodd tua’r gorllewin tuag at Fynydd Cynffig a thrwy’r Pîl, y Drenewydd yn Notais i gyrraedd y môr ym Mhorthcawl. Roedd safleoedd eraill ar aber afon Ogwr ac yn y Drenewydd yn Notais wedi cael eu hystyried ar gyfer y doc ond fe’u gwrthodwyd, naill ai oherwydd anawsterau ar y tir neu oherwydd nad oedd y tirfeddianwyr yn fodlon cydweithredu. Roedd yr harbwr a adeiladwyd ym Mhorthcawl yn fasn petryal bach a oedd yn dibynnu ar y llanw ac felly dim ond ar adegau penodol o’r dydd y gellid ei ddefnyddio, ac ym 1840 cafodd ei ymestyn a’i ddyfnhau. Erbyn 1864 roedd y twf yn y diwydiannau haearn a glo yn golygu bod y ddau gwmni rheilffordd a oedd yn gweithredu ar y pryd yng nghymoedd Llynfi ac Ogwr wedi cydweithio i gael Deddf arall yn cynnig ehangu llawer mwy.

Byddai’r fynedfa i’r basn presennol yn cael ei hail-leoli, a byddai doc hollol newydd o ryw 7 erw yn cael ei adeiladu, wedi’i gysylltu â hi, ar y gogledd, a’i ffitio â gatiau fel na fyddai’n ddibynnol ar y llanw; byddai’r morglawdd hefyd yn cael ei ymestyn. Agorodd y doc newydd ym mis Gorffennaf 1867 ar gost o £250,000, ac mewn saith mlynedd cynyddodd faint o lo a allforiwyd bron i ddeg gwaith.

Arweiniodd dirwasgiad yn y diwydiant haearn i’r doc i ganolbwyntio mwy a mwy ar lo. Cyrhaeddodd y fasnach ei huchafbwynt ym 1892 pan ddociwyd dros 800 o longau, ond dirywiodd yn gyflym iawn ar ôl hynny, yn bennaf oherwydd agor dociau mwy eang a modern ym Mhort Talbot. Daeth masnach o Borthcawl i ben o’r diwedd ym 1906, a throdd y dref ei sylw o fasnach i hamdden.

Harbour-Plans-detail-web-re

Mae Archifau Morgannwg yn dal 32 o gynlluniau a baratowyd gan y peiriannydd o Lundain R.P. Brereton rhwng 1864 a 1866 ar gyfer ymestyn Doc Porthcawl (ref.: UDPC/HARBOUR).  Er i’r casgliad fod yn weddol fawr, efallai nid yw’n gyflawn; mae rhai ohonynt wedi’u rhifo, ond nid yw’r holl rifau yn bresennol. Yn ogystal â chynllun cyffredinol, maent yn dangos manylion gatiau’r doc, y morglawdd a’r rheiliau glo. Mae’r doc o 1867 wedi’i lenwi, ond mae’r cynlluniau wedi goroesi i’n hatgoffa o un agwedd ar dwf diwydiannol Fictoraidd, a’r newid ffawd mewn gwahanol borthladdoedd.

 

Advertisements

Ffotograffau o Faesteg

Y 75ed eitem yn 2009 oedd cyfres o ffotograffau, cardiau post, rhaglenni a chylchlythyron yn ymwneud â Maesteg a’r cyffiniau. Mae’r deunydd ei hun yn dyddio rhwng 1900 a 2012 ac mae’r amrywiaeth yn golygu y bydd y casgliad o ddiddordeb mawr i lawer o bobl, yn arbennig y rheini sy’n astudio hanes cymdeithasol Cwm Llynfi.

Maesteg

Maesteg

Mae’r cardiau post o Faesteg yn cynnwys golygfeydd o eglwysi San Mihangel a Dewi Sant, capel Bethania, neuadd y dref, y gofeb ryfel a siambrau’r cyngor, yr ysbyty cyffredinol, y parc, yr orsaf drenau, y farchnad, Gwaith Glo Garth, a golygfeydd cyffredinol o’r strydoedd.Mae’r cardiau post hyn yn dyddio o 1900 i 1950 ac yn adlewyrchu cymaint mae’r dref wedi newid mewn cyfnod byr o amser.Mae ‘Canllaw Swyddogol’ ar Faesteg o 1948 hefyd wedi’i gynnwys yn y casgliad.

Maesteg

Maesteg

Bydd sawl eitem o ddiddordeb i bobl sy’n mwynhau hanes chwaraeon.Ceir rhaglenni o gemau rygbi rhwng Maesteg a Phen-y-bont ar Ogwr yn y 1960au.Hefyd mae rhaglen o ‘Gemau Cymru’ 1962.

Ymysg yr eitemau nodedig eraill mae ffotograff o ddathliadau Diwrnod Buddugoliaeth Ewrop ym Maesteg a ffotograff o ymweliad y Frenhines Mary â theulu glofaol lleol ym 1938.

Gallai archifau o’r fath fod yn ein cartrefi ni, wedi’u cuddio y tu ôl i gypyrddau neu mewn bocsys yn yr atig.Gall unrhyw un gyflwyno deunydd i’r Archifau, felly os oes gennych eitemau tebyg sy’n dangos hanes lleol, cysylltwch â ni i sicrhau y cânt eu cadw ar gyfer y dyfodol.