Ymgyrchu dros y Rhondda Rhan 1: Anheddiad Maes-yr-Haf, Trealaw

Ysgrifennodd John Evans, glöwr di-waith, yn The Listener ar gyfer 25 Ebrill 1934 cyfrif personol o gyflwr digalon Cwm Rhondda yn ystod y dirwasgiad mawr yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Nododd:

“Mae pobl yn aml yn gofyn i ni, pwy sydd allan o waith, sut rydyn ni’n ymdopi. Wel mae’r ateb yn hawdd.  Rydym yn ymdopi drwy fynd heb. Mae’n debyg eich bod wedi clywed sut y mae’n rhaid inni ymdopi drwy grafu ynghyd ychydig o esgyrn a dail bresych a hyn a’r llall, ac yn y blaen, i wneud cinio, ond tybed a wyddoch am yr effaith y mae brwydr front o’r math hwn yn ei chael ar feddyliau pobl, ar wahân i’r effaith ar eu cyrff. Nid yw’n fater o’r “di-waith yn ei chael hi’n anodd cael deupen y llinyn ynghyd”, ond o ddynion a menywod yn straffaglu i gael byw.’

Yr anobaith economaidd a chymdeithasol llethol hwn a arweiniodd at sefydlu Anheddiad Maes-yr-haf fel ymgais ymarferol i weithredu addysgu cymdeithasol Cristnogol ymhlith glowyr di-waith y Rhondda. Yn dilyn cyrchoedd cymorth brys a drefnwyd gan Gymdeithas Grefyddol y Cyfeillion (Crynwyr), yn ystod streic glo chwerw 1926, daeth nifer o Gyfeillion amlwg gan gynnwys Emma Noble, Cynghorydd Llafur o Swindon, a Dr Henry T. Gillet o Rydychen, yn argyhoeddedig o’r angen am gymorth o fath mwy parhaol i Gwm Rhondda. Drwy aeaf 1926-27, datblygodd y syniad yn gyflym i sefydlu Anheddiad Cymdeithasol yn cael ei gynnal ar batrwm y Crynwyr yn y Rhondda a ffurfiwyd pwyllgor o dan gadeiryddiaeth Alexander Lindsay, Meistr Coleg Balliol, Rhydychen, ym mis Ionawr 1927 i gasglu arian i sefydlu Canolfan Addysgol ac Anheddiad Cymdeithasol. Codwyd yr arian yn gyflym a phrynwyd tŷ Fictoraidd mawr o’r enw Maes-yr-haf yn Nhrealaw.  Symudodd Wardeniaid cyntaf yr Anheddiad, William ac Emma Noble, i Faes-yr-haf ym mis Ebrill 1927; roeddent i aros yno tan 1945.

DMH-12-4

Tu fewn i Dŷ Maes-yr-Haf, 1928 (DMH/12/4)

Newidiodd cymeriad Anheddiad Maes-yr-haf yn gyflym o waith cymorth uniongyrchol yn ddosbarthu bwyd a dillad i sefydlu canolfan addysgol a chymdeithasol o bwys ar gyfer ardal Trealaw. Trefnodd yr Anheddiad ystod eang o ddosbarthiadau ar gyfer pobl ddi-waith a’u teuluoedd o’r ‘athroniaeth foesol’ haniaethol i hunangymorth mwy ymarferol y canolfannau trwsio esgidiau a reolid yn gydweithredol.

DMH-12-40

Ymarfer côr, 1930s (DMH/12/40)

Ehangodd gweithgareddau’r anheddiad i gynnwys llawer o weithgareddau diwylliannol, addysgol a hamdden yn amrywio o glybiau drama a cherddoriaeth i redeg gwersyll gwyliau i’r di-waith mewn bragdy wedi’i addasu yn y Wîg.

DMH-12-13

Gardd y bragdy, y Wîg, 1934 (DMH/12/13)

Gwnaed ymdrechion i hyrwyddo cyflogaeth ar raddfa fach, ym Maes-yr-haf roedd y rhain yn cynnwys rhandiroedd, ffermio dofednod, crochenwaith a gweithdai gwehyddu.

DMH-12-17

Dwy fenyw wrth rodau nyddu tu allan i’r shed gwehuddu, Maes-yr-haf, 1934 (DMH/12/17)

Rhwng 1914 a 1957 darparodd Diwydiannau Maes-yr-haf ar gyfer yr Anabl gyflogaeth i bobl leol ag anabledd, gan gynhyrchu dodrefn i ddechrau ac yna flychau dŵr mwynol Corona yn ddiweddarach. Daeth Maes-yr-haf yn enghraifft drawiadol o’r hyn y gallai Anheddiad Cymdeithasol gwirfoddol ei gyflawni.

DMH-12-49

Gweithdy diwydiant i’r anabl, 1950 (DMH/12/49)

Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, gwelodd y cynnydd cyffredinol mewn safonau byw a chreu’r wladwriaeth les ar ôl y rhyfel y cyfrifoldeb am lawer o’r gwasanaethau addysgol a chymdeithasol a arloeswyd gan Maes-yr-haf yn cael eu trosglwyddo fwyfwy i lywodraeth ganolog a lleol. Erbyn diwedd y 1960au daeth Pwyllgor Maes-yr-haf i’r casgliad bod cynifer o amcanion gwreiddiol yr Anheddiad wedi’u cyflawni, ac yn sgil amodau cymdeithasol llawer gwell y cyfnod, ei bod yn briodol i’r Anheddiad gael ei ddirwyn i ben. Wedi trafodaethau gyda Chyngor Bwrdeistref Rhondda a Chyngor Sir Morgannwg gwerthwyd safle’r Anheddiad i Gyngor Bwrdeistref Rhondda ym 1971. Defnyddiwyd elw’r gwerthiant i sefydlu Ymddiriedolaeth Addysgol Maes-yr-haf a ddosbarthodd ei hincwm am flynyddoedd lawer ymhlith sefydliadau fel Sefydliad y Merched a Grwpiau Chwarae a oedd wedi defnyddio neu a oedd yn gysylltiedig â’r Anheddad blaenorol. Mae safle Maes-yr-haf yn gwasanaethu fel Canolfan Gymunedol.

Mae cofnodion Anheddiad Maes-yr-haf yn Archifau Morgannwg yn cynnwys cofnodion Pwyllgor Maes-yr-haf, 1927-71, adroddiadau blynyddol, 1921-71, cyfrifon, 1931-71 a chyfres o ffeiliau a gafodd eu cadw gan William Noble, warden Maes-yr-haf, o 1921 i 1945. Mae’r ffeiliau hyn yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau gan gynnwys sefydlu Maes-yr-haf, gwersyll gwyliau’r Malthouse, addysg i bobl ddi-waith a Chymdeithas Lesddeiliaid Trealaw. Dengys ffotograffau lawer o weithgareddau’r Anheddiad, gan gynnwys Clwb Gwnïo’r Merched (1926), adennill glo o domennydd rwbel glofeydd (1935), ymweliad Syr Stafford Cripps â Maes-yr-haf (1941) ac ymweliad parti rhyngwladol o fyfyrwyr â’r Anheddiad (1967). Mae’r casgliad yn cynnwys hanes manwl yr Anheddiad a ysgrifennwyd gan Barrie Naylor, warden Maes-yr-haf o 1945 i 1971, ‘Quakers in the Rhondda’. Mae’r llyfr hwn, sy’n amhrisiadwy ar gyfer paratoi’r erthygl hon, yn adroddiad cynhwysfawr o darddiad a datblygiad yr Anheddiad.