Cipolwg ar fywyd yn Llanisien yn ystod y Rhyfel Mawr

Wrth eistedd mewn gwasanaeth diweddar yn Eglwys Isan Sant yn Llanisien, cafwyd cyfle i feddwl am ddynion Llanisien fu’n eistedd yn yr un seddau 100 mlynedd yn ôl. Nid oedd ganddynt unrhyw syniad o beth fyddai’n digwydd dros y blynyddoedd nesaf, gyda chynifer ohonynt yn ymladd yn y rhyfel, a rhai yn gwneud yr aberth eithaf dros eu gwlad.

Mae Cylchgronau’r Plwyf a gedwir yn Archifau Morgannwg yn rhoi dealltwriaeth o deuluoedd y fro, a’u hagweddau tuag at y rhyfel. Noda’r rhifyn cyntaf yn y casgliad, sef Mehefin 1915:

‘No official news of Norman Ayliffe has been received; we deeply sympathise with Mr and Mrs Ayliffe’.

Gwyddom y cafodd ei ladd ar 9 Mai yn ail frwydr Ypres. Roedd yn 21 oed.

Codwyd arian ar gyfer Cronfa Milwyr Gwlad Belg, Ceginau Maes a Chludwyr Dŵr. Casglwyd £177 14s 3d yn Llanisien, sef digon i dalu am dri chludwr dŵr.

Roedd rhifyn Gorffennaf yn rhestru 85 o ddynion yn y lluoedd arfog, er mai dim ond 16 ohonynt oedd yn gwasanaethu dramor, ac roedd y Preifat W.J.Harp eisoes yn garcharor rhyfel. Yn sgîl rhagor o ymchwil ar-lein, gwyddys y bu yntau’n arddwr a oedd yn byw yn Wyndham Terrace gyda’i wraig a phedwar o blant. Ymunodd â’r Gatrawd Wyddelig Frenhinol, ac fe’i daliwyd gan y gelyn ym Mrwydr La Bassée ar 20 Hydref 1914. Fe’i carcharwyd yng ngwersyll Carcharorion Rhyfel Hameln nes iddo gael ei anfon adref ym mis Hydref 1918.

Anogwyd y rheini a oedd wedi aros gartref i ymateb i’r apêl gan y Comisiynwyr Yswiriant i wneud y canlynol:

Eat less meat

Cafwyd apeliadau mynych am gyfraniadau i’r Gronfa Casglu Wyau Genedlaethol, a oedd yn cyflenwi wyau i filwyr a morwyr clwyfedig. Anfonwyd yr wyau yn y lle cyntaf i’r prif depot casglu yn Harrods, Llundain. Yn ogystal ag wyau, gofynnwyd am gyfraniadau ariannol o gyn lleied â cheiniog yr wythnos, ac erbyn dechrau 1916 roedd chwe dwsin o wyau yn cael eu hanfon i’r Ysbyty Cymreig yn Netley. Cafwyd llythyr diolch gan y Swyddfa Ryfel:

‘for the very excellent eggs that have been received in Bolougne… they have been the greatest possible boon to the sick and wounded.’

Yn ddiweddarach y flwyddyn honno cynhaliwyd ‘gwasanaeth wyau’ gan wahodd y plant i ddod ag wyau gyda nhw i’r gwasanaeth; casglwyd 234 o wyau, a chasglwyd 304 o wyau mewn gwasanaeth tebyg ym 1917. Maes o law, cafodd un o’r rhai fu’n anfon wyau at yr apêl y llythyr canlynol:

Egg letter part 1

Egg letter part 2

Aeth Cymdeithas Lesiant y Merched i’w Gŵyl Flynyddol, a gynhaliwyd yn Sain Ffagan ym 1916:

our party journeyed thither by motor bus…. The Preacher appealed earnestly to us women and girls to guard well the shield of our faith that we might be a help to others in this time of trial. Tea was most kindly given to the whole party in the Castle grounds by Lady Plymouth….The gardens and grounds were most beautiful and, after strolling about them, sports were indulged in until it was time for us to start our return journey at 8’o clock and it was a very contented party that returned home.’

Cipolwg ar fywyd yn Llanisien yn ystod y Rhyfel Mawr.

Ann Konsbruck, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg