Straeon Caru

Hail! genial season of the year

To faithful lovers ever dear

Devoted be this day to praise

My Anna’s charms in rustic lays

Now billing sparrows, cooing doves

Remind each youth of her he loves

My heart and head are both on flame

Whene’er I breath my Anna’s name

Ysgrifennwyd y llinellau hyn gan ŵr o’r enw y Capten Bennett mewn cerdd Sant Ffolant a ysgrifennwyd yn 1818 i Mrs Wyndham, a enwir hefyd yn ‘Anna’.  Gellir gweld y gerdd ymhlith casgliad Castell Ffwl-y-mwn (cyf. DF/V/133) a cheir cyfanswm o 78 o linellau o gwpledau sy’n odli, sef cryn dipyn yn fwy na’r negeseuon Sant Ffolant bachog a geir mewn cardiau modern.  Yn y gerdd mae’r Capten Bennett yn rhoi mynegiant llawn i’w ochr ramantus, gan ddisgrifio delweddau o Cinderella a’i Thywysog, yn clodfori Anna, yn cynnwys ei thraed tylwyth teg, yn ogystal â chodi amheuon ynghylch addasrwydd y dynion eraill sy’n ei chanlyn, yn cynnwys un a enwir ganddo yn Arglwydd Tredegar.  Mae’r bardd hefyd yn disgrifio llunio blaenlythrennau neu ‘cypher’ Anna yn y tywod gyda ffon gerdded, ac er gall y tonnau olchi i ffwrdd enw ei anwylyd, ni all y tonnau ‘blot that cypher from my heart!’

poem_compressed

Felly pwy oedd y Capten Bennett ac Anna, ac a fu diweddglo hapus i’w stori?  Er bod y gerdd yn rhan o gasgliad Castell Ffwl-y-mwn mae hefyd yn cyfeirio at Dwn-rhefn, sef ystâd ger Southerndown a fu’n eiddo i deulu Wyndham.    Mae gwaith ymchwil wedi datgelu fod Anna yn ferch Thomas Ashby o Isleworth, Llundain a Charlotte, merch Robert Jones o Ffwl-y-mwn (sy’n egluro’r cysylltiad â Ffwl-y-mwn).

anna_edited

Gŵr cyntaf Anna oedd Thomas Wyndham o Dwn-rhefn a Llys Clearwell yn Fforest y Ddena (Aelod Seneddol Morgannwg) ond bu farw yntau yn 1814. Fodd bynnag, ailbriododd Anna ym mis Gorffennaf 1818, ychydig fisoedd ar ôl i’r gerdd gael ei chyfansoddi.  Ei gŵr newydd oedd John Wick Bennett o Drelales, a gellir tybio mai hwn yw’r un ‘Capten Bennett’ a anfonodd y gerdd Sant Ffolant.  Ymddengys nad oedd ei ymdrechion barddol yn ofer ac efallai i’r gerdd helpu i ddarbwyllo ei gariad i dderbyn ei gynnig!

Gall fod yn anodd dod o hyd i gyfeiriadau at ‘gariad’ a ‘rhamant’ yn yr archifau, gan nad ydynt yn dermau a geir fel arfer mewn disgrifiadau catalog!  Fodd bynnag, gellir dod o hyd i lawer o straeon rhamantus, p’un ai mewn dyddiaduron neu lythyrau preifat, yn enwedig y rheini a ysgrifennwyd pan roedd y cariadon ar wahân a dyna oedd yr unig ffordd iddynt gadw mewn cysylltiad. Gwahanwyd llawer o gariadon gan ryfeloedd, ac mae gennym sawl stori am gariad yn blodeuo o dan amgylchiadau anodd.

Daeth y Prif Nyrs Isabel Robinson o hyd i gariad pan oedd yn gweithio yn Ysbyty’r Groes Goch yng Nghaerdydd yn 1916.

sister-isabel-robinson_compressed

Tra roedd yn nyrsio yno, cyfarfu â Daniel James Dwyer o fyddin Awstralia, a phriododd y ddau. Roedd ef yn gwella yn yr ysbyty ar ôl cael anaf i’w ben yn y ffosydd yn Ffrainc.

daniel-dwyer_compressed

Ymgartrefodd y ddau yn Awstralia yn ddiweddarach yn St. Kilda, Victoria, ond dychwelodd y ddau i’r ynys hon a bu Isabel farw yn Lloegr yn 1965. Cedwir albwm ffotograffau Isabel yn yr Archifau, ac mae’n cynnwys ffotograffau o staff a chleifion mewn ysbytai milwrol ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd (cyf.  D501).

Un o’n casgliadau pwysicaf sy’n ymwneud â’r Ail Ryfel Byd yw’r llythyrau niferus a ysgrifennwyd gan Pat Cox o Gaerdydd i’w darpar ŵr, Jack Leversuch, a oedd yn gwasanaethu tramor yn y lluoedd arfog (cyf. DXGC263/2-32). Anfonodd Pat lythyrau rheolaidd at Jack drwy gydol y rhyfel yn adrodd ei newyddion.  Cadwodd Jack bob un o’r llythyrau a gafodd gan Pat, a daeth â hwy adref gydag ef pan ddaeth ei wasanaeth tramor i ben.

leversuch-letters_compressed

Mae’r llythyrau yn cynnwys manylion personol carwriaeth y ddau yn ogystal â disgrifio sut roedd Caerdydd yn ymdopi â chyrchoedd awyr y gelyn, diffodd y goleuadau oherwydd y ‘black out’, mudo a dogni.

Ceir hefyd cardiau Sant Ffolant ymhlith ein casgliadau.  Roedd llawer o gardiau o’r 19eg ganrif wedi’u gwneud â llaw a’u lliwio’n brydferth, weithiau wedi’u haddurno â lluniau torri cywrain.   Ymddangosodd cardiau a argraffwyd yn fasnachol tua diwedd y ganrif honno, ac mae’r cardiau hyn wedi’u haddurno’n brydferth i’n golwg modern ni.  Dyma ddwy enghraifft o gardiau Sant Ffolant o Oes Fictoria (cyf. DX554D/18/3,9), ill dwy ag ymylau pluog.

 

valentine-1_compressed

valentine-2_compressed

A oes gennych unrhyw hen ddogfennau, ffotograffau neu gardiau Sant Ffolant?  Os felly rhowch wybod i ni oherwydd hoffem eu hychwanegu at ein casgliad.

 

Advertisements

Castell Sain Ffagan yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf

Blog gwâdd gan Elen Phillips, Prif Guradur: Hanes Cyfoes a Chymunedol, Amgueddfa Werin Cymru. Gyda’i chydweithiwr, Sioned Williams, mae hi wrthi ar hyn o bryd yn ymchwilio hanes Castell Sain Ffagan yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ar gyfer llyfr i’w gyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, agorwyd dros 3,000 o ysbytai ymadfer ym Mhrydain. Wedi eu staffio gan wirfoddolwyr yn bennaf, roedd y rhain yn cynnig gofal i filwyr â mân anafiadau. Erbyn diwedd y rhyfel, roedd 49 ohonynt wedi eu sefydlu ym Morgannwg mewn adeiladau cyhoeddus a phreifat – o neuaddau bentref i blastai bonheddig.

Ym Mawrth 1916, agorodd y Groes Goch ysbyty ymadfer o’i fath mewn neuadd fwyta ar dir Castell Sain Ffagan – safle Amgueddfa Werin Cymru heddiw. Yn y cyfnod dan sylw, roedd y Castell yn gartref i’r Iarll a’r Iarlles Plymouth. Ynghyd â’r Butes o Gastell Caerdydd, roedd y teulu yn un o dirfeddianwyr pwysicaf yr ardal.

Fel Arglwydd Raglaw Morgannwg, bu’r Iarll yn ddylanwadol iawn yn yr ymgyrch ryfel yn ne-ddwyrain Cymru. Ym Medi 1914, daeth i amlygrwydd cenedlaethol y rhinwedd ei benodiad gan David Lloyd George yn gadeirydd pwyllgor gwaith y Corfflu Cymreig.

Tra bo ei gŵr yn brysur â materion milwrol, gwaith elusennol oedd yn mynd â bryd yr Iarlles. Yn ystod y rhyfel, roedd hi’n llywydd cangen Morgannwg o’r Groes Goch. Yn y blynyddoedd cyn 1914, bu’n gefnogol iawn i’r mudiad a chynhaliwyd sawl cyfarfod pwysig yng Nghastell Sain Ffagan yn gysylltiedig â’u gwaith. Mewn un cyfarfod yn Nhachwedd 1909, ffurfiwyd y Voluntary Aid Detachment (VAD) cyntaf yng Nghymru – cam a fyddai’n hwyluso’r broses o recriwtio nyrsys gwirfoddol i Ysbyty Croes Goch Sain Ffagan maes o law.

Sefydlwyd y cynllun VAD yn 1909 gan y Groes Goch ac Urdd San Ioan, o dan oruchwyliaeth y Swyddfa Ryfel, er mwyn hyfforddi gwirfoddolwyr i gefnogi gwaith yr awdurdodau meddygol mewn cyfnodau o argyfwng. Roedd y Detachments hyn yn cael eu rheoli yn sirol, gyda phob aelod unigol yn derbyn hyfforddiant cymorth cyntaf a sgiliau nyrsio syml. Ym 1910, daeth 200 o aelodau VAD Morgannwg ynghyd yng Nghastell Sain Ffagan am ddiwrnod o weithgareddau a chafodd y manylion eu cyhoeddi yn y Cardiff Times:

An interesting demonstration was given in a field, showing how the wounded can be carried to the rear for treatment at hospital bases. Dr Sparrow explaining how first aid can be given without special provision of splints, bandages etc. A feature of the demonstration was a spring cart, lent by James Howells and Co Cardiff, which in less than seven minutes can be improvised for twenty-four wounded soldiers under cover. Cardiff Times, 24 Medi 1910.

Ymunodd nifer o’r nyrsys gwirfoddol fu’n gweithio yn Ysbyty Croes Goch Sain Ffagan â’r cynllun VAD yn y cyfnod cynnar hwn. Yn eu plith, roedd Mary Ann Dodd, neu Polly i’w chydweithwyr, a fu am flynyddoedd lawer yn gweithio fel morwyn i’r teulu Plymouth. Yn y 1960au cynnar, ysgrifennodd ei hatgofion ar bapur i’r Amgueddfa:

I was trained as one of her Ladyship’s VADs and very proud she was of us. I wore a cap and a white apron with a red cross on it… The Banqueting Hall was given over to 40 soldiers; the War went on, so a room was added for 30 more men… I used to cook and clean and one day a week I did the washing. Those soldiers’ socks were in a state, many had no heels in them at all. The soldiers only laughed and teased us, and when they got better, they tried to help us. AG, MS 1293.

Milwyr a nyrsys VAD yng Ngardd Eidalaidd Castell Sain Ffagan, 1916 (AC, DF003643)

Milwyr a nyrsys VAD yng Ngardd Eidalaidd Castell Sain Ffagan, 1916 (AC, DF003643)

Ar wahân i atgofion Mary Ann Dodd a thri llun o filwyr yn ymadfer yng ngerddi’r Castell, nid yw archif yr Amgueddfa yn cynnwys unrhyw ddogfennau sy’n gysylltiedig ag Ysbyty Croes Goch Sain Ffagan. Yn ogystal, prin iawn yw’r olion corfforol ar y safle – llosgwyd y neuadd fwyta yn ulw yn y 1950au a bellach mae cartrefi preifat ar y tir ble safai’r ysbyty. O ganlyniad i hyn, yn ein hymdrech i ddatgelu hanes cudd yr ysbyty, rydym wedi bod yn ddibynnol ar gasgliadau tu hwnt i Sain Ffagan – yn arbennig felly, dogfennau Ystâd Plymouth sydd ar gadw yn Archifau Morgannwg.

Mae dogfennau Ystâd Plymouth yn cynnwys, hyd y gwyddom, yr unig gynlluniau o’r ysbyty mewn bodolaeth. Mae’r cynllun cyntaf (AM, DPL/X/0) yn dangos yr ysbyty yn y cyfnod cynnar, rhywbryd cyn neu yn union wedi i’r drysau agor ym Mawrth 1916. Mae’r ail gynllun yn cefnogi atgofion Mary Ann Dodd gan fod hwn yn dangos estyniad arfaethedig i’r ward wreiddiol.

Cynllun o’r ysbyty, tua Mawrth 1916 (AM, DPL/X/30)

Cynllun o’r ysbyty, tua Mawrth 1916 (AM, DPL/X/30)

Cynllun yn dangos estyniad i’r ysbyty, 1917 (AM, DPL/X/30)

Cynllun yn dangos estyniad i’r ysbyty, 1917 (AM, DPL/X/30)

Er nad oes sôn yn atgofion Mary Ann Dodd am ddyddiad yr estyniad newydd, mae tystiolaeth yn llyfrau cyfrifon yr ystâd ar gyfer y blynyddoedd 1914-17 (AM, DPL/977/1) yn awgrymu mai yn ystod misoedd cynnar 1917 y gwnaethpwyd y gwaith. Ar 27 Mawrth 1917, mae nodyn yn y llyfr am daliad o £82.8.0 i Humphreys Ltd in respect of addition to VAD Hospital St Fagans. Gyda diolch i wefan Papurau Newydd Cymru Ar-lein, rydym wedi darganfod mai cwmni adeiladu oedd hwn a oedd yn arbenigo mewn ysbytai a sanatoria. Mae sawl hysbyseb ar eu cyfer yn ymddangos ym mhapurau newydd y cyfnod:

HUMPHREYS’ ISOLATION HOSPITALS and SANATORIUMS, complete with administrative blocks, on view. Delivery from stock. Skilled workmen. Addresses of 500 districts where our hospitals have been erected during past 20 years. County Observer, 19 Ebrill 1902.

Yn ogystal, mae llyfr cyfrifon 1914-17 yn rhoi blas i ni o awyrgylch yr ysbyty. Ym Mehefin 1916, prynwyd piano newydd i ddiddanu’r cleifion, ac fe dalwyd rhywun i atgyweirio gramoffon. Mae’r llyfr dan sylw hefyd yn nodi rhoddion ariannol tuag elusennau ac unigolion lleol, yn eu plith £13.19.2 i Marshall & Snelgrove Ltd for socks & gloves for men from St Fagans District who have enlisted; £2.5.3 i A. McLay & Co for cardboard boxes for packing presents to recruits a £12.4.5 i Hobson & Sons for Red Cross uniforms.

Mae cyfraniadau elusennol hefyd i’w canfod yn llyfr cyfrifon 1917-19 (AM, DPL/ 977/2). Ar ddechrau 1919, rhoddodd yr Iarll a’r Iarlles arian tuag at the late Col. Bruce Vaughan’s Peace Memorial Fund ac i garnifal er budd milwyr wedi eu rhyddhau o wasanaeth milwrol. Yn ddiddorol iawn, mae’r ddau lyfr cyfrifon yn nodi taliadau ar ran yr ysbyty i’r Plymouth Arms Hotel, sef y dafarn leol. Er gofid yr awdurdodau am or-yfed yn ystod y rhyfel, efallai fod chwant peint ar rai o’r milwyr clwyfedig yn Sain Ffagan!

Mae hanes Ysbyty Croes Goch Sain Ffagan yn rhan ganolog o raglen yr Amgueddfa i gofnodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Mewn ffordd, gellir edrych ar y Castell fel meicrocosm o Gymru yn y cyfnod hwn. Dyma stori leol sy’n adlewyrchu rhai o nodweddion amlycaf yr ymgyrch ryfel yng Nghymru a Phrydain. Yn rhannol ddiolch i’r casgliadau sydd ar gof a chadw yn Archifau Morgannwg, mae’r stori guddiedig hon ar fin dod yn hysbys unwaith eto.

Elen Phillips; Prif Guradur: Hanes Cyfoes a Chymunedol, Amgueddfa Werin Cymru