Dyddiaduron Henry Fothergill: Arloesi ac Arbrofi

Mae’r dyddiaduron cynnar yn cynnwys adroddiadau cyfareddol o arbrofion Henry i gynhyrchu mwy o haearn o ansawdd addas ar gost is (roedd haearn yn cael ei raddio yn ôl ei safon gyda graddfeydd penodol ar gyfer nwyddau penodol). Roedd llwyddiant yn golygu elw uwch i’r cwmni, cymeradwyaeth ei frawd, Richard, a bonws cyflog haeddiannol. Treuliai Henry oriau hirion yn y gweithfeydd a’r melinau rholio yn ceisio lleihau unrhyw amhureddau yn yr haearn gorffenedig allasai gyfaddawdu ar nerth a/neu hydrinedd yr haearn.

Roedd y broses gwneud haearn yn dechrau gyda mwyndoddi’r deunyddiau crai – mwyn haearn, golosg a charreg galch – yn y ffwrnes chwyth. Dibynnai’r mwynfeydd haearn cynnar yng Nghymru ar fwyn haearn wedi ei gloddio yn lleol, math a elwid yn ‘rhubanddu’ (yn sylfaenol carreg mwyn haearn yn cynnwys glo), ond erbyn y 1860au daeth yn fwy cost effeithiol i fewnforio mwyn hematit o Cumbria neu Sbaen. Yn aml, cai mwyn hematit, oedd yn cynnwys mwy o fetel na’r rhubanddu, ei gynhesu yn absenoldeb awyr er mwyn tynnu unrhyw wlybaniaeth ac amhureddau anfetelaidd cyn mwyndoddi, proses a elwid yn ‘galchynnu’. Roedd calchynnu yn trawsnewid yr ocsid haearnaidd o fewn yr hematit yn ocsid fferrig, Fe2O3.

Byddai hematit a galchynwyd, golosg a charreg galch yn cael eu llwytho (‘tanio’) i dop y ffwrnes a’i gynhesu. Byddai peiriant a yrrwyd gan stêm yn tanio awyr boeth trwy dyllau ‘(tuyeres’) ger gwaelod y ffwrnes i gadw’r tymheredd a’r cyflenwad ocsigen. Byddai carbon monocsid (o’r golosg) yn lleihau’r ocsid fferrig (o’r hematit) i ffurfio haearn tawdd tra byddai amhureddau yn cyfuno â’r calsiwm carbonad (carreg galch) i greu slag oedd yn arnofio ar ben yr haearn. Gellid gyrru’r haearn hylif wedyn trwy dap i fowldiau a elwid yn foch.

Trawsffurfiwyd haearn crai yn haearn bwrw trwy ‘bwdlo’. Wedi gosod patent arno gan Henry Court yn 1783, roedd pwdlo yn golygu aildwymo’r haearn crai mewn ffwrnes doddi (ffwrnes lle nad yw’r tanwydd yn dod i gysylltiad â’r cynnyrch). Byddai’r ‘pydlwr’ yn troi’r haearn tawdd trwy agoriad yn y ffwrnes bwdlo gyda gwialen hir â bachyn arni. Wrth i’r carbon sy’n weddill gael ei losgi ymaith, byddai pwynt toddi’r haearn yn cynyddu gan ffurfio talpiau gweddol galed o haearn. Ar yr adeg dyngedfennol, byddai’r pydlwr yn defnyddio’i wialen i weithio’r talpiau ynghyd i ffurfio un lwmp neu belen y byddai wedyn yn ei dynnu oddi yno yn sydyn, un ai i’w symud i ail ffwrnes bwdlo i’w buro ymhellach, neu i’r efail i’w forthwylio neu ei rolio, gan ddibynnu ar safon yr haearn oedd ei angen. Byddai’r morthwylio a’r rholio yn gwasgu unrhyw amhurdeb oedd yn weddill allan o’r haearn. I wella’r ansawdd ymhellach ac i sicrhau bod cysondeb unffurf i’r cynnyrch gorffenedig, câi barau haearn eu torri, eu pentyrru (gan y ‘pentyrwyr’ oedd yn aml yn wragedd neu’n ferched), eu clymu ynghyd â strapiau haearn, eu hail dwymo a’u rholio drachefn.

Byddai ansawdd yr haearn bwrw gorffenedig hefyd yn dibynnu i raddau helaeth ar lefel yr amhureddau oedd yn weddill o’i fewn. Roedd carbon, silicon, ffosfforws a sylffwr oll yn effeithio ar wydnwch, cryfder a pha mor hawdd fyddai’r haearn i’w forthwylio. Byddai gormod o garbon yn gwneud yr haearn yn rhy frau, rhy ychydig yn ei wneud yn rhy feddal. Byddai cael y cydbwysedd cywir yn aml yn fater o brofi a methu. Roedd Henry fodd bynnag yn benderfynol o fabwysiadu agwedd fwy gwyddonol, gan hyd yn oed fynychu darlithoedd cemeg.  Disgrifia lawer o’i arbrofion yn ei ddyddiadur [D553/3]:

p147_edited

p148_edited

t.147-48, Tue 27 Jan 1863,…up to Works met Richard; trying lots of experiments with bits of Rail under Hammer, and in nitric acid; had report of assay from Dr Noad of the Forge cinder, the piece simply calcined contains sulphur 1.43 per cent, the cinder calcined and afterwards re-calcined for 24 hours in a puddling furnace and afterwards allowed to cool gradually on the ground contained sulphur 0.306 per cent, the cinder that went through the same process as the latter, but was cooled immediately in water contained sulphur 1.26 per cent, so the water apparently did away with nearly all the good of the second calcining, and seemingly during the action of cooling while exposed to the atmosphere is the time when the sulphur is disgorging itself from the cinder, and not while so long in the fire; re-calcined some more today only keeping it in the Puddling Furnace about an hour to heat it red hot through and after cooling gradually, sent a piece of it and a piece of the same lot not re-calcined to Dr Noad again to see the result of only heating through.

p154_edited

t.154, Wed 4 Feb 1863, ..Letter and result of assay of cinder from Dr Noad that I sent him 27th inst: sulphur in cinder simply calcined but solid 2.28 per cent; sulphur in cinder calcined and heated again through for an hour in Puddling furnace 1.75 per cent..

Roedd Dr Henry Minchin Noad, Cymrawd yn y Gymdeithas Frenhinol, yn Athro Cemeg yn Ysbyty St George yn Llundain.

Un dull o gynyddu cyfanswm yr haearn tawdd oedd ychwanegu copras i’r ffwrnes.  Er gwaethaf ei enw, does ganddo ddim i’w wneud â chopr. Yr enw cyffredin yw ar gyfer sylffid fferws amrwd, FeSO4.7H2O, sy’n trawsnewid wrth gael ei boethi gan ffurfio ocsid fferws, Fe2O3 (yr un ocsid ag sydd i’w gael mewn hematit).

p10_edited

D553/6, t.10, Wednesday 28th October 1863, Sent to Jones for copperas to mix with the pig iron in Forges while it is boiling. Richards idea to try if it improves the quality of the iron, it comes from tin works.

p21_edited

t.21, Saturday 7th November 1863, Wrote The Ystalyfera Iron Co. for two casks of Copperas to try again in puddling Furnaces.

Dull arall oedd defnyddio gwaelod haearn bwrw yn y ffwrnes yn lle tywod:

D553/1, t.72, Sun 29 Oct 1860, Mill here working busily on 10 furnaces trying an experiment with a cast iron bottom instead of sand.

Arbrofodd Henry hefyd â’r modd y byddai barrau heyrn bwrw yn cael eu pentyrru:

D553/4, t.1-2, Thu 19 Feb 1863: Back to Hirwaun 1st train; I to mill at 8 o clock and saw 2 Rails rolled, Bombay D. H. section, from piles made as follows, 8 x 2 in slab (of all metal piled in our usual way and worked edgeways) top and bottom, 2 – 4½ x 1/8 pieces of metal next each slab and remainder of pile (to form centre of Rail or Stem) Boiling 8 in: wide in two pieces as usual; (mistake above) slabs 8 x 2 in: not made in ordinary way but made thus, all metal Bars piles 9 in: wide and on their flats up 6 in: solid in the pile; the remaining 3 in: wanted to complete proper height of pile composed of metal bars 1 1/8 in thick 3 in: wide, 9 in: long and piled edgeways across the piles, to within 3 in: of each end of pile, which 3 in: was filled up with 3 small pieces of metal lying flat, so as to keep up in their position the series of pieces of metal standing on edge, this pile rolled flat made a scandalous bad Bar, cracking across the surface from end to end; the two Rails however though made with such bad looking slabs came out perfectly good in the heads; 2 other Rails I had rolled with 8 x 2 in: slab of ordinary make for one head, and the other head, made from a series of 8 x 3½ x ¾ No 2 Blaina Iron Bars placed across pile edgeways the same way as the metal in pile for slab as explained above, the blooming of this pile tore the pieces apart much….

Roedd llawer o’r haearn yn cael ei ddefnyddio i wneud rheiliau a chadeiriau i’r rhwydwaith reilffordd oedd yn prysur ehangu, adref a thramor, yn enwedig yn yr India. Byddai llawer o weithfeydd haearn yn cyflogi eu harolygwyr eu hunain fyddai’n gyfrifol am reoli ansawdd. Fodd bynnag byddai’n well gan gwmnïau rheilffyrdd yn aml yrru eu rhai eu hunain i fonitro’r cynhyrchu – oedd yn dân ar groen Henry a’i frawd, George, yn Nyffryn Taf.

Mae John Addis yn adrodd y stori ganlynol yr honnir iddi gael ei hadrodd gan Mr Bateman, asiant Fothergill’s yn Llundain, wrth James Dolphin, a gyflogwyd gan y Crawshays:

When the Inspectors make any fuss as to the Rails being of bad quality and not according to specification, Mr. Bateman takes it upon himself to order 2 or 3 Rails made entirely of No.2 Iron and frequently some of the whole of which are No. 3. These are sent up to the Engineers and Headmen of the line or Company whom the rails are for, who are of course delighted with them. This quite upsets the Inspectors and they never take any more trouble about looking after them and let them all pass [Addis, John P. (1957) The Crawshay Dynasty: A study in industrial organisation and development, 1765-1867. Caerdydd:  Gwasg Prifysgol Cymru, t.121].

Mae’n annhebygol na wyddai’r brodyr Fothergill o arfer twyllodrus Bateman o lenwi archeb â Rheiliau rhif 1 (y radd isaf o haearn) pan fo’r Cwmni Rheilffordd wedi archwilio Rhif 3. Oedd hyn yn rhywbeth a esgusodwyd gan Henry neu ai ei anwybyddu a wnaeth?

Er hynny, roedd bri ar reiliau Aberdâr yn parhau ddigon i ddenu sylw’r miliwnydd o fentrwr rheilffyrdd, Sir Samuel Morton Peto, a gyfarfu a Henry ar ymweliad â’r gwaith ym mis Ionawr 1863. Derbyniodd Sir Morton, oedd yn allweddol yn adeiladu nifer o fannau enwog yn Llundain gan gynnwys Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi a Sgwâr Trafalgar, ei farwniaeth am adeiladu rheilffyrdd yn ystod Rhyfel Crimea i gyflenwi lluoedd Prydain.

Roedd y gystadleuaeth ymhlith gweithfeydd haearn De Cymru yn ffyrnig. Wrth ddarllen manylion arbrofion Henry, ys gwn i a oedd Henry hefyd yn cystadlu gydag ef ei hun.

Corinne Evans, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

 

Dyddiaduron Henry Fothergill: Cysylltiadau Teuluol

I mi, un o’r pethau mwyaf braf am drawsgrifio dyddiaduron Henry oedd ymchwilio i gefndiroedd y bobl mae’n eu henwi – ei deulu, ei ffrindiau a’i gysylltiadau busnes. Wedi dod i wybod am hanes y teulu Fothergill, rhoddodd hynny fywyd i eiriau Henry a hefyd i fy nychymyg innau.   Dechreuais i ystyried y teulu fel cymeriadau mewn nofel yn hytrach na phobl go iawn yn byw profiadau bywyd go iawn (mae’n rhaid fy mod wedi darllen gormod o waith Alexander Cordell!)  Felly pwy yn union oedd y teulu Fothergill a beth oedd eu rôl yn natblygiad diwydiannol Bro Morgannwg?

Cychwynnodd cysylltiad y teulu â masnach haearn de Cymru gyda thaid Henry, Richard (1758-1821). Gadawodd ei swydd deuluol yn Lowbridge, Westmorland i ddod yn adeiladwr yn Clapham, de Llundain. Ar ôl priodi Elizabeth Rowland yn 1788, symudodd ei deulu i Gaerllion, gan fyw yn Back Hall am gyfnod. Yn dilyn ei lwyddiant yn y diwydiant haearn ym Mhont Hir, daeth yn bartner mewn llawer o leoliadau gwaith haearn eraill megis Tredegar, Sirhowy a Phenydarren.

Roedd gan Richard ac Elizabeth 3 mab; Richard II, Thomas a Rowland. Yn 1846 ar ôl achos llys chwerw, daeth Rowland, ei fab, yn berchennog-reolwr ar Waith Haearn Abernant a Llwydcoed (a elwid hefyd yn Upper Works) yn Aberdâr. Moderneiddiodd y ddau leoliad gwaith haearn a chynyddu allbwn nes i Gwmni Haearn Aberdâr ddod yn un o brif gyflenwyr rheiliau a chadeiriau haearn gyr ar gyfer y rhwydwaith reilffyrdd a oedd yn ehangu’n gyflun.

Yn y cyfamser, etifeddodd Richard II, a briododd â Charlotte Elderton yn Lambeth, Llundain yn 1822, Dŷ Lowbridge, Westmorland. Cawson nhw 11 o blant – 4 bachgen a 7 merch: Richard III (1822-1903), Charlotte Elizabeth (1824-1907), Elizabeth (1825-1859), Mary Anne (1826-1851), Harriet (1828-1873), Martha Isabella (1830-34), Emma (1831-1914), George (1833-1915), Agnes (1834-1850 neu 52), Henry, awdur y dyddiadur, (1836-1914) a Thomas Rowland (1839-1909).

Gweithiodd Richard III, y mab hynaf, fel prentis i’w Ewythr Rowland er mwyn dysgu popeth y gallai am agweddau technegol a busnes y diwydiant haearn. Pan ymddeolodd Richard i Gastell Hensol yn 1848, penododd Richard III yn rheolwr cyffredinol gyda’i dri brawd iau yn gweithio gydag ef – Tom a George yng Ngwaith Haearn Bro Taf a Henry yn Llwydcoed ac Abernant.

Dechreua dyddiaduron Henry yn 1860 pan oedd yn 24 oed a symudodd o Venallt yn Nyffryn Castell-nedd (y teulu Fothergill oedd yn berchen ar Waith Haearn Venallt yn Cwmgwrach) i’r prif Dŷ Canal. Ceir disgrifiadau manwl am y gwaith adfer y mae’n ei wneud ar ei gartref newydd, a oedd yn cynnwys ychwanegu tŷ adar lle cafodd gyfle i ymddiddori yn un o’i hoff ddiddordebau hyd oes, sef casglu adar egsotig.  Er iddo symud oddi yno, cadwodd gysylltiadau agos iawn â’i gydweithwyr a’i ffrindiau yn Nyffryn Castell-nedd, megis y teulu Miers o Aberdulais Forge.

Erbyn 1860, roedd Richard III, sef brawd hŷn Henry, wedi priodi ddwywaith. Elizabeth Lewis, merch i Edward Lewis, asiant camlesi, a chwaer i James Lewis o Blas-draw, oedd ei wraig gyntaf. Daeth James Lewis a’i frawd Evan yn ffrindiau da iawn â Henry. Prynodd James, y meistr glo, Gwmni Haearn Aberdâr ar ôl iddo fynd yn fethdaliad yn 1875, ond cyn bo hir caeodd yr holl waith haearn er mwyn canolbwyntio ar y pyllau glo cysylltiedig. Cymerodd awenau Tŷ Abernant hefyd ar ôl i Richard III ymddeol i Dŷ Sion, Dinbych-y-pysgod.

Bu farw Elizabeth yn 1849, yn fuan ar ôl genedigaeth eu merch, Elizabeth, a ddaeth yn drydedd wraig i Charles Kemys-Tynte (1822-1891) o Gefn Mably yn hwyrach.

Yn 1850, priododd Richard III â Mary Roden (1833-1909), chwaer William Sargeant Roden, meistr haearn o Swydd Stafford, a Richard Brown Roden o waith haearn Pont-y-pŵl ac Abersychan. Cafodd y cwpl 6 o blant: Richard Thomas Fothergill (1852-1877); Mary Roden Fothergill (1853-1889); Helen Constance F. Fothergill (1855-1907); Ada Francis Fothergill (1858-1939); Sydney Roden Fothergill (1864-1943) a Theodore Roden Fothergill (1869-1895). Roeddent yn byw yn Nhŷ Abernant, a byddai Henry’n arfer mynd yno’n aml. Daeth Tŷ Abernant, a’i hadeiladwyd yn wreiddiol gan un o sefydlwyr Gwaith Haearn Abernant, James Birch, ac yna ei ehangu a’i foderneiddio gan Richard, yn Ysbyty Cyffredinol Aberdâr mewn blynyddoedd i ddod.

Roedd Mary Roden yn dod o deulu adnabyddus o feistri haearn Swydd Stafford. Roedd ei mam, Ann Brown, yn chwaer i Thomas Brown, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Ebbw Vale, ac yn ferch i Richard Brown. Creodd Richard Brown y mecanwaith ar gyfer locomotif Trevithick yn 1803, a hefyd sefydlodd y melinau bar haearn llwyddiannus yn Nantyglo.

Roedd brodyr Mary Roden hefyd yn feistri haearn dylanwadol. Daeth William Sergeant Roden (1829-1882) yn bartner yn y Cwmni Bar Haearn Shelton, Stoke-on Trent yn 1857 a symudodd gyda’i deulu i Etruria Hall, cyn-gartref Josiah Wedgewood.

Priododd Richard Brown Roden (RBR) ag Emma Fothergill, chwaer Henry, yn 1855 yn Westmorland.  Cawson nhw un plentyn, Emmeline Roden Fothergill, a anwyd yn 1856. Cyflwynodd Emma ddeiseb gwahanu gyfreithiol i RBR ym mis Ebrill 1869, gan gofnodi godineb RBR gyda Mary Pritchard, y forwyn barlwr. Dilëwyd yr achos ym mis Mai 1872. Roedd yn ymddangos bod brodyr Emma yn gefnogol iawn ohoni, gan fynd gyda hi i’r llys yn San Steffan. Yn ddiweddarach, symudodd RBR i Corsica i oruchwylio gwaith y Mwyngloddiau Arian a Phlwm yn Calvi pan fu farw ei reolwr gwaith. Diswyddodd rai o’r gweithwyr oherwydd ei fod yn credu bod y mwyngloddiau’n gorgyflogi.   Efallai mai dyma un o resymau dros ei lofruddiaeth; saethwyd ef yn ei gefn wrth iddo adael ei gartref ym mis Mawrth 1887, gan gyn-bensaer mwynglawdd a oedd yn dal dig yn ôl bob sôn.

Roedd y teulu Fothergill hefyd yn ffrindiau agos ac yn gyswllt busnes â’r teulu Crawshay yng Nghyfarthfa. Mae dyddiadur Henry [D553-2, t.93-94] yn cynnwys disgrifiad o ddathliadau priodas ddwbl brodyr Henry, George a Tom, gydag Isabel a Laura Crawshay (merched Francis Crawshay):

p94

Thurs 10 April  The Wedding Day!!  Crowds of people about & lots of flags flying triumphal arches etc.  We drove over to the Forest after an early breakfast, found Uncle Roland arrived we all started for Llantwit church, a mile and half off amid immense cheering, 6 carriages altogether, 4 horses in some,  6 bridesmaids in one including Helen Crawshay, she looked a perfect little angel so beautiful and fair in her white dress etc. everything passed off well at the church.  I shook hands with Laura & gave Isabel a kiss of congratulations.  Then back to the Forest amid tremendous cheering, splendid breakfast & 2 magnificent wedding cakes. No speeches, only Uncle Roland proposed health of brides & bridegrooms to which George responded in short but telling words.  They all four left amid a shower of old shoes.  I raffled my musical box 10/- per share & got #17.10 for it.  Mr C took 10 shares & won the prize…. 

Roedd gan George ac Isabel 7 o blant. Yn anffodus, bu farw Isabel o’r clefyd coch ddeuddydd ar ôl geni eu mab, John Rowland, ym 1876. Roedd eu mab hynaf, George Algernon Fothergill (1869-1945) yn artist enwog, ac mae ei waith ar ddangos yn Yr Oriel Bortreadau Genedlaethol.

Roedd Tom, Laura a’u teulu yn treulio llawer o amser yn Ewrop, gan setlo yn y Swistir yn y pendraw, lle bu farw Tom o drawiad ar y galon wrth gerdded yn Nyffryn Roseg, Pontresina, 1909.

Treuliodd Henry lawer o amser gyda Francis Crawshay a’i deulu, yn cyfathrebu â’i gilydd yn aml ac yn ymweld â Threfforest, Ynys y Barri (lle cadwai Francis ei gwch) a Bradbourne Hall, Kent (a brynodd Francis yn 1870 a lle bu yntau farw yn 1878). Mae’n ymddangos bod Francis yn hoff iawn o Henry. Ddeng diwrnod wedi’r briodas ddwbl, ysgrifennodd Henry:

p102_edited

D553/2, t.102, Sat. 26 April 1862, letter from Mr. Crawshay from London stating he had had his likeness taken for me purposely (very kind) and suggesting a wife for me, I don’t however want one for some six years..

Efallai bod gan Henry eisoes ei gynlluniau priodas ei hun, yn cynnwys merch 12 oed Francis, Helen Christine Crawshay. Ysgrifennodd Henry:

p120_edited

p121_edited

D553/2, t.120-121, Wednesday 28th May 1862, With George and Isabel to call at The Forest about 11 o’clock. Mr C come back from Barry, he not very well. Thinks of going down again on Saturday and asks me to accompany him he most kind to me…

Isabel a long lecture upon to me a most thrilling subject. I gave my best attention to it and intend profiting thereby for the next few years, when I look forward with hope and pleasure unutterable to a perfectly and truly heavenly reward and pray God that I may be so blessed

p133_edited

t.133, Friday 20th June 1862, Found a letter here last night on our arrival to me from Laura of a nature that has completely crushed me down.  I feel low, dispirited and perfectly miserable. It was about dear H. and gave me little if any hope of ever being owner of such a precious treasure as she is. Still I will live on hopes.  I wrote a long letter in reply to Laura dwelling strongly upon the whole matter and now anxiously await a half expected and half promised letter from Mrs C (as to her C.d.V)[Carte de visite].

p181_edited

t.181, Wednesday 9th July 1862, Gresham Hotel Dublin, Fine & warm, breakfast with strawberries & cream at 8.30.,walked to Post Office found a splendid lot of letters from, dear Mother, Hall, Mrs Crawshay, Stella, De Barry, Adams, half a dozen tradespeople, and a precious one from my own little darling H.C.C. Mrs. C’s from London very long interesting & touching most kindly on “the point” I live for..

p46_edited

D553/3, t.46, Thurs 11th Sept 1862, …Last train to Woodlands. I found Mr Crawshay was coming over to talk to me a bit about Her. He and William did come over to tea but the subject was not touched upon after all. I was on pins all the time.

p74_edited

t.74, Wed 12th Nov 1862, …by last train to The Forrest found George, Isabel, Tom there, we all sat waiting till about 9 o clock, when the coach of 4 horses arrived with Mr and Mrs Crawshay, Francis, Tudor, Helen, Stella and De Barri and all the servants. We welcomed them at the door steps , I had not seen her for more than five months, she looks more perfection than ever, and has grown an inch and a quarter.

p139_edited

t.139, Thurs 15th Jan 1863, Fine-by first train to Woodlands and up again by return train. Tom and Laura well – baby not quite well – had breakfast and returned with a pill stuck tight in my throat, that Laura gave me, about Her , that Mr C had put his veto upon it, there is however plenty of time and in so good a cause with plenty of perseverance and patience I’m sanguine still.

t.154, Wed 4th Feb 1863, …A long and kind letter from Mrs Crawshay The Forest about Her, wanting promise etc etc I replied by Bag to Mrs Crawshay and promised everything she wished, though very hard to do so, indeed terribly hard, how shall I feel next time I see her?

Mae’n ymddangos bod Francis Crawshay wedi gwrthod cynnig Henry ac wedi ceisio sicrwydd y byddai Henry’n parchu ei benderfyniad. Efallai bod arno ofn y buasai tri mab-yng-nghyfraith Fothergill yn bygwth llinach Crawshay.

A gyfrannodd siom Henry at ei benderfyniad i adael Aberdâr?  Ynteu a oedd e’n flin, yn gweithio oriau hir heb lawer o ddiolch gan ei frawd, Richard? A fu iddo ragweld dirywiad y fasnach haearn, oherwydd y diwydiant cynhyrchu dur, a arweiniodd at dranc y Cwmni yn 1875? Pwy oedd y ‘Jones’ dirgel a sut y bu ef yn ddrwg yn y caws rhwng y brodyr, gan adael Richard yn unig berchennog y Cwmni yn 1864? Ai ‘Jones’ oedd ffugenw Henry ar gyfer Richard ei hun?

Mae’n amlwg o ddarllen ei ddyddiaduron bod Henry’n mwynhau gemau geirio a datrys posau – cymerodd ychydig i mi ddatgelu’r geiriau ‘gnittis sliob’, nes imi ddeall mai ‘sitting boils’ yn groes ydoedd! Mae’n sicr wedi’m gadael innau â llawer o gwestiynau. Rwy’n dwli ar ddod o hyd i’r atebion!

Corinne Evans, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Dyddiaduron Henry Fothergill

Mae project gwirfoddoli hirdymor yn Archifau Morgannwg wedi dod i ben o’r diwedd – mae pob un o 22 o ‘Ddyddiaduron Fothergill’ wedi’u trawsgrifio. Mae’r dyddlyfrau, sy’n groes rhwng dyddiadur a theithlyfr, yn disgrifio bywyd y meistr haearn Henry Fothergill o 1860 – pan oedd y teulu Fothergill yn benaethiaid ar Gwmni Haearn Aberdâr – hyd ei farwolaeth ym 1914.

img_0001

Erbyn yr adeg yr ysgrifennwyd y dyddiaduron, roedd gan y teulu fuddiant yn nifer o weithfeydd haearn Morgannwg, gan gynnwys Plymouth, Penydarren, Cwm Taf, Abernant a Llwydcoed. Roedd Henry, trydydd mab Richard Fothergill a nai Rowland Fothergill o Gastell Hensol, yn byw bywyd moethus, fel gŵr Fictoraidd cyfoethog, gan fwynhau gwleddoedd mawreddog gyda phobl bwerus fel y teulu Crawshay. Yn wir, priododd dau o frodyr Henry (George a Thomas) ddwy o ferched William Crawshay (Isabel a Laura yn y drefn honno) ar yr un diwrnod – priodas ddwbl y mae Henry’n sôn amdani yn ei ddyddiadur.

img_0001

Mae hanesion am ddawnsfeydd a gwleddoedd crand, gwyliau gyda’i ffrindiau (gan gynnwys Francis Crawshay a’i deulu), tripiau siopa, chwaraeon a gemau, dathliadau teuluol a thorcalon ar wasgar ymysg disgrifiadau Henry o’i fywyd gwaith yn goruchwylio’r gwaith haearn.

Gwerthodd Henry, ynghyd â’i ddau frawd George a Thomas, ei fuddiant yn y gwaith haearn i’w frawd hŷn Richard ym 1864, gan ddefnyddio’r arian yn ddiweddarach i deithio’r byd mewn ‘Taith Fawreddog’ Fictoraidd. Gan ddechrau ar ei daith ym 1867, mae’n sôn am ei anturiaethau yn Ewrop, Asia, y Dwyrain Pell, yr Amerig, Rwsia, Awstralia a Seland Newydd yn fanwl iawn, gan ysgrifennu hefyd am y cymeriadau y gwnaeth gwrdd â nhw ar hyd y ffordd. Pan ddychwelodd, ymunodd â Byddin Sir Essex, gan godi i rôl Uwchgapten.

Ym 1877, priododd ag Edith Horwood, merch i ficer, gan ymgartrefu yn Neuadd Copt, Hawkhurst, ger Cranbrook. Cawsant ddau fab – Gerald Rowland (1880-1970), a ddaeth yn offeiriad, ac Edward Gerald Neville (1882-1962), a ddioddefodd o salwch meddwl. Treuliodd Henry ei flynyddoedd diwethaf gyda’i deulu, yn garddio ac yn cadw adar egsotig ac anifeiliaid (gan gynnwys cangarŵs!).

Mae dyddiaduron Henry, sy’n llawn antur, rhamant a chyfaredd, yn adnodd hanes cymdeithasol a lleol cyfoethog oherwydd eu disgrifiadau o bobl, lleoedd a gweithgareddau.  Dros yr wythnosau nesaf, bydd nifer o wirfoddolwyr sydd wedi bod yn gweithio ar y project yn cyhoeddi eu hoff ddyfyniadau o’r dyddiaduron mewn blog. Bydd yn werth ei ddarllen yn sicr!  Ac os hoffech chi weld y dyddiaduron hyn eich hun a/neu ddarllen y trawsgrifiadau, dewch draw i Archifau Morgannwg. Byddai’n wych eich gweld chi!

Corinne Evans, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg