Yn y blynyddoedd ar ôl diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd yn rhaid i nifer fawr o’r bobl ymdopi â cholli anwyliaid a laddwyd. Roedd y galar yn hynod ddwys o ystyried bod y rhan fwyaf o’r rhai a fu farw yn ddynion ifanc â’u bywydau cyfan o’u blaen. Yn sgil y nifer enfawr o filwyr a laddwyd, lladdwyd bron miliwn o Brydain Fawr, daeth y llywodraeth a’r awdurdodau milwrol i’r penderfyniad bod dychwelyd cyrff y meirw yn anymarferol. Roedd y dynion a laddwyd yn y rhyfel felly’n cael eu cofio ar gofebau rhyfel ledled y wlad.
Roedd cofebau rhyfel o bob math; rhai cenedlaethol, fel y rhai yn Whitehall yn Llundain a Pharc Cathays yng Nghaerdydd; a chofebau lleol a gysegrwyd i’r sawl a fu farw o ddinasoedd, trefi a phentrefi ledled y wlad. Roedd cofebau hefyd i grwpiau penodol, gan gynnwys timau chwaraeon unigol, cynulleidfaoedd eglwysi, cyn-ddisgyblion mewn ysgolion unigol a llawer o grwpiau eraill.
Yma yn Archifau Morgannwg, mae gennym gofnodion mewn perthynas â chodi nifer o gofebau yn y sir. Bydd y darn byr hwn yn trafod y gofeb yng Nghaerffili, a hefyd yn cyfeirio at y rhai lai na thair milltir i ffwrdd yn Senghennydd a Llanbradach.
Fel yn achos codi sawl cofeb, roedd y pwyllgor trefnu yn adlewyrchu strwythur y gymdeithas leol, sef pleidiau gwleidyddol lleol, grwpiau eglwys, undebau llafur, cyn-filwyr a gwragedd gweddw dibynnol. Yn achos Caerffili, roedd amrywiaeth y rhai â diddordeb yn gallu arwain at rywfaint o wrthdaro. Roedd sefydliadau sifil yn tueddu i ffafrio cofeb a oedd hefyd yn gyfleuster i’r gymuned ehangach, gydag amrywiaeth o drefi yng Nghymru’n cynnig neuaddau coffa cyhoeddus, llyfrgelloedd a phyllau nofio. Yn Senghennydd, roedd y gofeb yn dŵr cloc yn y prif sgwâr.
Yn wahanol i gynigion sefydliadau sifil, roedd sefydliadau milwrol yn dadlau y dylai cofebau adlewyrchu’r aberth a wnaed gan filwyr, a bod naill ai’n glybiau i gyn-filwyr gwrdd â’i gilydd, neu’n gofeb barhaol fel yr un a godwyd yng Nghaerffili yn y pen draw.
Gellir gweld cipolwg o’r ddadl ynghylch math y gofeb dylid ei chael yng Nghaerffili yng nghofnodion yr awdurdod lleol ac erthyglau papur newydd (cyf: D163/U/4).
John Arnold, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg