‘The Private Secretary’ yn dod i Ferthyr

Mae’n bosibl eich bod chi wedi gweld enghreifftiau o’r hysbysebion dramâu ar gyfer y Theatr Frenhinol, Caerdydd, a gedwir yn Archifau Morgannwg ac a ddefnyddiwyd i hyrwyddo perfformiadau rhwng 1885 a 1895. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd y theatr, a agorwyd ym 1878 ac â lle i  hyd at 2000 o bobl, yn cynnig rhywbeth i bawb. Fodd bynnag mae’r hysbyseb ddrama isod ychydig yn wahanol oherwydd ei bod ar gyfer cyfres o berfformiadau yn y Neuadd Ddirwest ym Merthyr ym mis Mawrth 1886.    Roedd hefyd yn awgrym bod rhywbeth arbennig yn cael ei gynnig.

D452-1-30

The Private Secretary oedd yr achos dan sylw, comedi oedd wedi cael llwyddiant ysgubol yn Llundain gyda dros 700 o berfformiadau yn Theatr y Globe gyda Charles H Hawtrey yn y brif ran. Er nad oedd Hawtrey, a wnaeth gryn ffortiwn o’r ddrama, yn perfformio gyda’r parti teithio, roedd yn sicr o fod yn ddewis poblogaidd iawn gyda mynychwyr theatrau De Cymru.

Nid oedd yn syndod, felly, fod Edward Fletcher, rheolwr y Theatre Royal, wedi manteisio ar y cyfle i lwyfannu’r ddrama yng Nghaerdydd a Merthyr. Cafodd y Neuadd Ddirwest, a agorodd am y tro cyntaf ym 1852, ei hymestyn yn 1873 a honnwyd bod lle i 4000 o bobl ynddi. Er ei bod yn cael ei defnyddio ar gyfer cyfarfodydd crefyddol a gwleidyddol, hi hefyd oedd prif theatr Merthyr. Yr oedd felly yn lleoliad perffaith ar gyfer y ddrama. Er nad oes gennym adolygiadau o’r perfformiadau ym Merthyr, mae’n debygol y byddent wedi bod yn debyg i’r ymateb yng Nghaerdydd lle y’i disgrifiwyd fel:

…one of the most successful modern farcical comedies… [with] …laughter continuous throughout.

Roedd plot The Private Secretary yn canolbwyntio ar ddau ddyn ifanc yn ceisio dianc rhag eu credydwyr. Mewn sawl ffordd roedd yn adleisio bywyd Hawtrey. Cafodd ei urddo’n farchog ym 1922, a galwyd ef yn brif actor comedi ei genhedlaeth ac yn fentor i lawer, gan gynnwys Noel Coward. Hefyd ymddangosodd mewn nifer o’r ffilmiau distaw cyntaf ac roedd yn rheolwr theatr llwyddiannus. Fodd bynnag, aeth yn fethdalwr ar sawl achlysur o ganlyniad i ddyledion gamblo. Wrth edrych yn ôl ar ei fywyd dywedodd:

I had one bet and lost half a crown, and I have been trying for 50 years to win it back.

Gyda thocyn am sedd gadw yn costio tri swllt, byddai’r incwm o’r perfformiadau ym Merthyr wedi bod yn dderbyniol iawn ac yn angenrheidiol yn ôl pob tebyg.

O ran y Neuadd Ddirwest, defnyddiwyd hi am flynyddoedd lawer fel theatr a sinema, ac mewn blynyddoedd mwy diweddar roedd yn adnabyddus fel y Scala Cinema. Caeodd yng nghanol y 1980au a’i throsi yn glwb snwcer.

Cedwir yr hysbyseb drama ar gyfer The Private Secretary yn Archifau Morgannwg, cyfeirnod D452/1/30. Gellir mynd ato ar-lein ar http://calmview.cardiff.gov.uk/.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg