Ymhlith y nifer o ffotograffau a gedwir yn Archifau Morgannwg, mae casgliad o luniau morol a roddwyd gyda phapurau J.J Neale, cydberchennog Neale and West, masnachwyr pysgod cyfanwerthol yng Nghaerdydd. Mae nifer yn cynnwys eu fflyd o dreillongau a arferai weithio o Gaerdydd ac Aberdaugleddau. Mae casgliad bychan o ffotograffau o longau a welid bryd hynny fel ‘rhywbeth arbennig’, ac roedd y Barque Favell yn sicr yn deilwng o’r disgrifiad hwnnw.

Y barque Favell yn cyrraedd Bae Falmouth, Mehefin 1930 (DX194/7/5)
Favell oedd y llong hwylio’r dyfnfor olaf a adeiladwyd ym Mryste gan Charles Hill and Sons, a chafodd ei henwi ar ôl gorwyres sefydlwr y cwmni. Roedd y llong, a lansiwyd ym 1895, gyda’i thri mast, ei chorff dur a’i hadeiladwaith llyfn, yn berffaith ar gyfer masnachu rhwng Prydain ac Awstralia yn cario grawn. Mae’r tri ffotograff hyn i gyd o 1930 pan aeth y Favell a hyd at 20 llong arall a elwid y ‘windjammers’ ar ras flynyddol o Awstralia yn cludo grawn. Hi oedd yr ail ‘windjammer’ i gyrraedd Falmouth y flwyddyn honno, wedi gwneud y daith mewn 115 diwrnod. Gellid bod wedi ystyried y buasai morio llong hwylio rownd yr Horn yn dipyn o orchwyl i’w chriw o 26 ond ar y daith allan, chwythodd cylchwynt o Ynysoedd Cabo Verde bob hwyl ond un oddi arni.

Y barque Favell ‘ger yr horn’, 1930 (DX194/7/4)
Bu’n dipyn o achlysur pan gyrhaeddodd Favell ddociau Caerdydd ar 11 Medi 1934 yn cludo dwy fil tunnell o grawn ar gyfer melinau Spillers. Roedd ffotograffau o’r Favell yn y papurau lleol, ynghyd â chyfweliad ag un o’i chriw a oedd wedi gweithio i gwmni Hain Steamship. Roedd y daith o Awstralia y flwyddyn honno wedi cymryd 149 diwrnod a disgrifiodd y ‘moroedd anferthol’ a wynebont ar ôl ‘hedfan’ rownd yr Horn. Ar un adeg cafodd aelod o’r criw ei drosglwyddo i long Monowai yn sling y llong i gael triniaeth feddygol, ond eto daeth i’r casgliad bod …bywyd morol yn wych a hoffwn ei weld yn cael ei adfywio yn ein gwlad ni.
Y gwir amdani oedd nad oedd bellach yn gwneud synnwyr busnes cadarn i ddefnyddio llongau hwylio i fewnforio grawn o Awstralia. Cafodd y Favell ei chynnal yn ei blynyddoedd olaf gan y cyfleoedd a gynigai i’r rhai roedd angen profiad hwylio arnynt fel rhan o sicrhau eu tystysgrifau is-gapten. O Gaerdydd gadawodd am Helsingfors yn y Ffindir a’r iard dorri. Wrth iddi hwylio heibio i Lands End ar ei thaith olaf, adroddodd y papurau lleol eu bod wedi gweld y llong …â’i holl hwyliau wedi codi, gan roi golygfa hardd i’r rhai a oedd yn ddigon ffodus i’w gweld.
Mae’r ffotograff o Favell yn cyrraedd Falmouth yn 1930 yn debyg iawn i ffotograff a gafodd sylw yng nghylchgrawn cwmni hwylio Pacific Steam, Sea Breezes ym 1931. Mewn erthygl ategol y disgrifiodd ei chapten, Sten Lille, hi fel ‘Fy Llong Dlos o Fryste’. Mae cymuned forol ym Mryste’n dal i gofio’n annwyl am y Favell ac mae hi ar arwyddlun Bristol Shiplovers’ Society. Ceir hefyd darlun a model o’r Favell yn amgueddfa’r ddinas. Mae model arall i’w gweld yn Llundain yn yr Amgueddfa Forwrol Genedlaethol. Mae tri ffotograff o’r Barque Favell yn rhan o’r casgliad a gedwir yn Archifau Morgannwg dan gyfeirnod DX194/7/3-5.
Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg