Canolfan Islamaidd, Maria Street, Caerdydd

Mae gan Butetown un o gymunedau Mwslimaidd mwyaf hirsefydlog y DU yn Butetown, a sefydlwyd yn bennaf gan forwyr Somali a Yemenïaidd a gyrhaeddodd yn Nociau Caerdydd yng nghanol y 1800au.

Ar ddiwedd y 1930au, cafodd rhifau 17, 18 a 19 Peel Street eu haddasu i’w defnyddio fel canolfan ddiwylliannol ac addoli Islamaidd ac, ar 11 Tachwedd 1938, rhoddwyd caniatâd adeiladu i godi’r mosg pwrpasol cyntaf yng Nghymru – a ddyluniwyd gan y pensaer o Gaerdydd, Osborne V. Webb – y tu ôl i’r tri thŷ.  Mae rhai ffynonellau’n awgrymu na chafodd mosg Webb ei adeiladu mewn gwirionedd.  Efallai bod hynny’n wir, ond mae adroddiad papur newydd o gyfnod Blitz Caerdydd yn cyfeirio’n glir at ‘y mosg y tu cefn i’r bencadlys Islamaidd’.

Ar noson yr 2il Ionawr 1941, dioddefodd Caerdydd ei hymosodiad awyr gwaethaf yn ystod yr Ail Ryfel Byd; cafodd 165 o bobl eu lladd a 427 eu hanafu, a chafodd mwy na 300 o dai eu dinistrio.  Roedd hwn yn gyrch a ddifrododd Eglwys Gadeiriol Llandaf a Mosg Peel Street.  Adroddodd y South Wales Echo fod tua 30 o bobl yn gweddïo yn y mosg pan gafodd ei daro.  Yn ffodus, mae’n debyg eu bod wedi dianc heb anaf difrifol.

Ar 18 Mawrth 1943, rhoddwyd caniatâd adeiladu ar gyfer strwythur newydd dros dro ar yr un safle.  Roedd y mosg ei hun yn gwt Tarran pren, tra bod y ganolfan ddiwylliannol gyfagos wedi’i lleoli mewn cwt Maycrete parod.  Cafodd y gwaith adeiladu ei ariannu drwy roddion gan y gymuned Fwslimaidd ynghyd â chymorth gan y Swyddfa Drefedigaethol a’r Cyngor Prydeinig.  Agorwyd y ganolfan newydd, sy’n dwyn yr enw Mosg Noor Ul Islam erbyn hyn, ar 16 Gorffennaf 1943.

rsz_d1093-2-21_to_44_039__islamic_centre_maria_street

I ddechrau, dim ond am flwyddyn y rhoddwyd caniatâd adeiladu ar gyfer y strwythur dros dro, ond cafodd ei ymestyn maes o law.  Fodd bynnag, ar 20 Tachwedd 1946 cymeradwywyd cynlluniau am Fosg newydd parhaol – eto wedi’i ddylunio gan Osborne V. Webb.  Mae’r adeilad traddodiadol hwn, gyda chryndo a minaretau, yn ffurfio’r brif ran o ddarlun Mary Traynor. Cymerodd yr adeilad le’r cwt Tarran.  Mae’n debyg bod y cwt Maycrete wedi’i gadw, ac mae rhan fechan o’r to i’w gweld yn y llun.

Un o sylfaenwyr Mosg Noor Ul Islam oedd Sheikh Abdullah Ali al-Hakimi, arweinydd y cymunedau Yemenïaidd ym Mhrydain ar ddiwedd y 1930au a’r 1940au ac, yn ddiweddarach, unigolyn blaenllaw yn y Mudiad Yemen Rydd.

Cafodd Peel Street ei dymchwel yn y 1960au gydag ailddatblygiad Butetown.  Dim ond y Mosg a’r Ganolfan Islamaidd oedd ar ôl, gyda mynediad ar hyd llwybr byr oddi ar Maria Street.  Cawsant eu dymchwel ym 1997 a’u disodli gan adeilad brics deulawr, sy’n parhau i wasanaethu’r gymuned Fwslimaidd leol.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd: