Ganed Augustus William Goldsworthy (Gus) yn Sir Fynwy ym 1886. Prin yw’r cofnodion am ei fywyd cynnar, heblaw’r ffaith iddo fynychu Ysgol Fethodistaidd Wycliffe yng Nghaerloyw. Roedd ei deulu’n adnabyddus yn Sir Fynwy a Chasnewydd, gan ddal swyddi pwysig mewn diwydiant a llywodraeth leol. Roedd y teulu hefyd yn aelodau gweithgar iawn o’r mudiad Methodistaidd Wesleaidd yn Ne Cymru. Ar ôl cwblhau ei addysg, cymhwysodd Gus fel Bargyfreithiwr, ac roedd yn aelod o’r proffesiwn hwnnw tan iddo ymrestru â Byddin Ymgyrchol Dramor Canada (The Canadian Overseas Expeditionary Force (CEF)) ar 25 Medi 1914. Ni chofnodwyd ei resymau dros ymuno â’r CEF yn hytrach na’r Fyddin Brydeinig, fodd bynnag, erbyn diwedd y rhyfel yn 1918 roedd o leiaf 50% o aelodau’r CEF yn ddynion a aned ym Mhrydain.
Mae’r dyddiadur ei hun yn nodi manylion symudiadau Goldsworthy yn ystod blynyddoedd cynnar y Rhyfel. Mae ei gofnodion cynnar, sy’n sôn am fisoedd cyntaf y Rhyfel, yn nodi manylion cryno am ei leoliadau yn y DU ac Ewrop. Ym mis Mai 1915 mae’n cyfeirio at ymladd yn Ymwthiad Ypres ym mrwydr Festubert, lle chwaraeodd lluoedd Canada ran amlwg. Yn ystod yr ymladd yn Ymwthiad Ypres defnyddiwyd nwy gwenwynig am y tro cyntaf gan Fyddin yr Almaen. Ceir disgrifiadau o’r amgylchiadau erchyll yn Fflandrys yng nghofnodion Goldsworthy yn ystod Mai a Mehefin 1915:
22 Mai 1915: Proceeded to trenches at Festubert, rained all night devil of a fatigue carrying bombs to front line, slept on a manure heap by mistake.
23 Mehefin 1915: Proceeded to Estaires slept in a field two days there, marched to Ploegsteert [known to the Tommies as Plugstree]. Got into position at Rotten Row. Devil of a march 15 miles ended up carrying two rifles…
Roedd yn gyffredin i filwyr Prydeinig enwi’r gwahanol ffosydd ar faes y gad ar ôl enwau mannau ym Mhrydain. Ar hyd y rhan hon o’r ffrynt, gelwid y ffosydd yn Hyde Park Corner, The Strand ac enwau llawer o safleoedd adnabyddus eraill yn Llundain, gan ddangos cysylltiad cryf â’r ddinas honno.
Mae cofnod yn ystod mis Tachwedd 1915 yn nodi manylion trosglwyddiad Goldsworthy i gatrawd 1af Sir Fynwy. Mae cofnodion mis Ionawr 1916 yn disgrifio dychwelyd i Ffrainc ac ymadael i’r Aifft a Chamlas Suez:
21 Ionawr 1916: Landed at Alexandria stayed at Winter Palace…joined sporting club played tennis- no parades…
28 Ionawr 1916: Battalion sailed for France
29 Ionawr 1916: I proceeded to France with details.
Ni wyddys y rhesymau am daith am gyfnod mor fer am un wythnos i’r Dwyrain Canol, ac ni nodwyd unrhyw fanylion yn y dyddiadur.
Mae cofnodion olaf y dyddiadur yn disgrifio dychwelyd i Ffrainc ym mis Chwefror 1916. Dyna ddiwedd cofnodion y dyddiadur, ac nid oes manylion ychwanegol ar gael ymhlith ein cofnodion yn Archifau Morgannwg. Fodd bynnag, yn sgîl cofnodion milwrol, gwyddom fod Gus Goldsworthy wedi goroesi’r rhyfel. Fe’i hanafwyd yn ddifrifol, a dyfarnwyd y Groes Filwrol iddo. Bu farw ym 1950 yn y Faenor, Sir Frycheiniog.
John Arnold, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg