Casablanca Club / Capel Bethel, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd

rsz_d1093-2-048_bethel_chapel_casablanca_club

Mae Bethel yn dyddio nôl i 1840 pan sefydlwyd ysgol Sul ar Orllewin Stryd Bute gan aelodau Eglwys Fedyddwyr Saesneg Bethany, Heol Eglwys Fair.  Maes o law codwyd capel ar James Street ac, ym 1855, ffurfiwyd achos ar wahân pan drosglwyddodd pedwar ar ddeg o aelodau o Eglwys Bethany.

Cyn bo hir roedd angen lleoliad mwy.  Gwerthwyd y safle ar James Street a rhoddodd Ardalydd Bute brydles am 99 o flynyddoedd ar ddarn o dir yng nghornel de-orllewinol Sgwâr Mount Stuart lle codwyd adeilad capel ac ysgoldy newydd.  Pan ddaeth y les i ben ym 1955, symudodd Bethel i hen gapel yr Annibynwyr yn Pomeroy Street gerllaw, gan gau yn 2000 oherwydd gostyngiad yn nifer yr aelodau a oedd yn oedrannus gan mwyaf.

Yn dilyn adleoli’r eglwys, defnyddiwyd yr adeilad ar Sgwâr Mount Stuart fel Neuadd Bingo i ddechrau, cyn sefydlu clwb nos Casablanca yno ddiwedd y 1960au.  Mae’n ymddangos bod y clwb yn parhau i weithredu ym 1988, ond ei fod wedi cau erbyn 1991. Ers ei ddymchwel, mae’r safle wedi cael ei ddefnyddio fel maes parcio preifat.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynhonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor [D1093/2/48]
  • Cofnodion Capel Bedyddwyr Bethel Butetown, Caerdydd, cofnodion, 1855-65 [D472/1/1]
  • Cofnodion Capel Bedyddwyr Bethel Butetown, Caerdydd, hanes yr egwlys gan Viv Purchase, Ysgrifennydd, 2000 [D472/11]
  • Cofnodion Capel Bedyddwyr Bethel Butetown, Caerdydd, adroddiad ar Gapel Bethel i Gapel Bedyddwyr Bethany, 1854 [DBAP/15/10/2]
  • Casgliad Ystad Bute Cyfreithwyr Debenham Tewson, Caerdydd, prydles ar dir ac eiddo ar Sgwâr Mount Stuart, 1965 [DBDT/73/16]
  • Casgliad Ystad Bute Cyfreithwyr Debenham Tewson, Caerdydd, prydles ar dir ac eiddo a elwir Casablanca Club ar Sgwâr Mount Stuart, 1971 [DBDT/73/19]
  • Jenkins, J Austin & James, R Edward, The History of Nonconformity in Cardiff
  • http://www.coflein.gov.uk
  • https://www.facebook.com/rockcardiff/photos

Bae Caerdydd cyn y Morglawdd

rsz_d1093-2-047

D1093/2/47

Tan ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, morfeydd a gwastadeddau llaid oedd holl flaendraeth Caerdydd, a hwn a gysylltai Afonydd Taf ac Elái â Môr Hafren.  Roedd cei’r dref yn sefyll lle mae Heol y porth erbyn hyn, ond dim ond ar lanw uchel y gallai’r llongau gyrraedd yno o’r môr.  Doedd Bae Caerdydd fel y mae heddiw ddim yn bodoli hyd nes y datblygwyd y dociau yng Nghaerdydd a Phenarth.

Hyd yn oed bryd hynny, am ganrif a hanner, roedd y Bae yn fae llanw a thrai, gyda sianeli’r afonydd yn pasio drwy ardaloedd eang o wastadeddau llaid pan oedd y llanw ar drai.  Dim ond ym 1999, yn dilyn cwblhau’r Morglawdd, y cronnwyd dyfroedd y Taf a’r Elái, gan greu llyn dŵr croyw ym Mae Caerdydd.

rsz_d1093-2-044

D1093/2/44

rsz_d1093-2-045

D1093/2/45

Mae’r gyfres o luniau gan Mary Traynor yn dyddio nôl cyn y Morglawdd.  Mae D1093/2/45 a D1093/2/44 yn portreadu golygfeydd rhannau isaf Afon Elái, gydag Eglwys Awstin Sant, ar Drwyn Penarth, yn amlwg yn y cefndir.

rsz_d1093-2-049_cardiff_docks

D1093/2/49

Mae D1093/2/49 ar ochr ddwyreiniol y Bae, yn agos i hen loc Basn y Rhath.

rsz_d1093-2-046

D1093/2/46

Mae D1093/2/47 a D1093/2/49 yn olygfeydd mwy cyffredinol, ill dwy yn darlunio’r gwastadeddau llaid yn fyw iawn.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynhonellau a ddefnyddiwyd:

Dymchwel Merton House, Caerdydd

Am dros ddau ddegawd, atebwyd anghenion ysbrydol morwyr yn ymweld â Chaerdydd gan hen long ryfel, Thisbe, a angorwyd yn Noc Bute y Dwyrain yn ystod y 1860au, a’i drawsnewid gan y Bristol Channel Mission.  Wrth i’r porthladd dyfu yn ei bwysigrwydd, cydnabuwyd yr angen am safle mwy a mwy parhaol ac fe gynigiodd Ardalydd Bute safle ar Gilgant Bute, gerllaw Basin Doc y Gorllewin (Roald Dahl Plass erbyn hyn) er mwyn codi eglwys a sefydliad i’r morwyr.

rsz_d1093-2-042

Wedi ei ariannu gan danysgrifiadau gan fusnesau a oedd yn gysylltiedig â’r Dociau (ac yn fwyaf nodedig, gan yr Ardalydd ei hun), a’i ddylunio gan E.W.M Corbett, cymeradwywyd cynlluniau’r eglwys a’r sefydliad ar 28 Awst 1890. Wrth edrych arno o’r tu allan, edrychai’r adeilad fel unrhyw eglwys Fictoraidd arall.  Y tu mewn fodd bynnag, swyddogaeth seciwlar oedd i’r llawr gwaelod, fel y sefydliad a’r ystafell ddarllen tra mai i fyny’r grisiau yr oedd yr eglwys gyda seddau i 454 o bobl.

Agorwyd sefydliad y morwyr yn swyddogol ar Ddydd Iau 19 Tachwedd 1891 gan Yr Arglwyddes Lewis, gwraig Syr William Thomas Lewis (Arglwydd Merthyr yn ddiweddarach).  Ar y dydd Mercher canlynol, cysegrwyd yr eglwys i’r Holl Saint gan Esgob Llandaf.

Parhaodd y sefydliad a’r eglwys i wasanaethu cymuned forwrol Caerdydd am ymhell dros hanner canrif.  Yn y 1950au, fodd bynnag, cafodd yr adeilad ei ailfedyddio’n Merton House, a daeth yn gartref i Treharne & Davies Ltd (Minton, Treharne & Davies Ltd erbyn hyn), cemegwyr dadansoddol a weithiai yn agos bryd hynny â’r diwydiannau glo a llongau yn Nociau Caerdydd.  Bellach yn gweithredu’n rhyngwladol, mae Minton wedi cadw cysylltiad â hen sefydliad y morwyr drwy drosglwyddo’r enw Merton House i’w pencadlys newydd ym Mhontprennau.

Mae darlun Mary Traynor yn darlunio dymchweliad yr adeilad ym 1990.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynhonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor [D1093/2/42]
  • Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau rheoli adeiladu, cynllun ar gyfer eglwys a sefydliad i’r morwyr, Cilgant Bute, 1890 [BC/S/1/7802]
  • Carradice, Phil, Thisbe – the Welsh Gospel Ship (arlein ar http://www.bbc.co.uk/blogs/wales/entries/7338f21d-b47e-3197-9b1c-89ea87a4e4b8)
  • Western Mail, 20 Awst 1890; 26 Tach 1891
  • Evening Express, 25 Ion
  • Cardiff Times, 21 Tach 1891
  • South Wales Daily News, 14 Medi 1893
  • minton.co.uk
  • companycheck.co.uk
  • Cyfeirlyfrau amrywiol ar gyfer Caerdydd, 1893-1967

Warws, Doc Dwyreiniol Bute (Dinistriwyd gan Dân)

Wedi ei adeiladau, o bosibl, yn rhan o’r hen Cardiff and Channel Mills, ac wedi ei ymestyn i fyny yn ddiweddarach, safai’r warws yn y ffotograff gan Mary Traynor ar lan ddwyreiniol Doc Dwyreiniol Bute.

rsz_d1093-2-21_to_44_037__warehouse_bute_east_dock_destroyed_by_fire

Fe’i dinistriwyd gan dân, damweiniol mae’n debyg, ar 12 Ionawr 1986.  Roedd adroddiad yn y South Wales Echo drannoeth yn sôn am y ffordd y llesteiriwyd gwaith yr ymladdwyr tân oherwydd bod llawer o ddrysau a ffenestri’r adeilad segur wedi eu cau gan frics.  Er bod y diwedd wedi dod yn gynt oherwydd y tân, mae’n debygol y byddai’r warws wedi cael ei ddymchwel cyn hir beth bynnag, er mwyn creu lle ar gyfer y Ffordd Gyswllt Ganolog a agorodd ym 1989.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

Warws, Collingdon Road / Rhodfa Lloyd George, Caerdydd

Mae’r darlun yn dangos storfa rawn a safai ar ochr orllewinol Doc Bute y Gorllewin.  Yn ystod y 1980au a 90au, cafodd y rhan fwyaf o’r adeiladau o’i amgylch eu dymchwel i greu lle ar gyfer ailddatblygu Bae Caerdydd.  Er nad oedd wedi ei restru yn statudol, arbedwyd y storfa rawn oherwydd y tybiwyd bod iddo rai rhinweddau pensaernïol.  Y bwriad oedd iddo gael ei ailwampio a’i droi yn fflatiau.

rsz_d1093-2-21_to_44_036_warehouse_collingdon_roadlloyd_george_avenue

Ond, pan ddechreuwyd ar y gwaith, gwelwyd ei fod mewn cyflwr peryglus.  Oherwydd hynny, rhoddodd Cyngor Sir Caerdydd ganiatâd cynllunio yn 2005 iddo gael ei ddymchwel a chodi adeilad fflatiau newydd ar y safle gyda dyluniad oedd cyn agosed i’r gwreiddiol ag y bo modd.  Gyda charreg nadd naturiol i’w weddau blaen rhoddwyd yr enw The Granary arno, mae’r adeilad gorffenedig i’w weld erbyn hyn tua hanner ffordd ar hyd Rhodfa Lloyd George.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor [D1093/2/36]
  • Cyngor Sir Caerdydd: Cais Cynllunio 04/02950/C
  • Lee, Brian, Cardiff’s Vanished Docklands (yn enwedig y delwedd ar t.53)

Eglwys Norwyaidd, Doc Gorllewin Bute

Yn y 19eg ganrif, roedd Caerdydd yn un o dri phrif borthladd Prydain, ynghyd â Llundain a Lerpwl.  Llynges fasnachol Norwy oedd y drydedd fwyaf yn y byd a daeth Caerdydd yn un o’i phrif ganolfannau gweithredu.

O 1866, anfonodd Sjømannskirken, rhan o Eglwys Lutheraidd Norwy, weinidog i wasanaethu ar gyfer anghenion Norwyaid a oedd yn ymweld neu’n symud i Gaerdydd.  Cynhaliwyd cyfarfodydd yn y lle cyntaf ar fwrdd llong ac mewn capel a oedd wedi ei adael yn wag, ond ym 1868, bu modd i Sjømannskirken adeiladu eglwys ar dir a roddwyd gan Ardalydd Bute, sef lle saif Canolfan Mileniwm Cymru nawr.

rsz_d1093-2-21_to_44_035_TN

Penderfynodd yr Harbwrfeistr y dylid adeiladu’r eglwys fel y gellid ei ddatgymalu a’i symud yn hawdd petai angen gwneud hynny.  Felly, cafodd ei adeiladu o flaen llaw yn Norwy a’i orchuddio â chroen o haearn.  Fel y digwyddodd, oherwydd y math hwn o adeiladu, roedd yr adeilad yn hyblyg a bu modd ei addasu a’i estyn aml i dro dros y deng mlynedd ar hugain nesaf.

Gyda dirywiad pwysigrwydd Caerdydd fel porthladd, roedd llai o angen am eglwys yn y dociau ar gyfer y gymuned Lychlynnaidd.  Diddymwyd Cenhadaeth Morwyr Norwy ym 1959 ond parhaodd cynulleidfa leol i ddefnyddio’r eglwys tan ei dad-gysegru ym 1974 ac wedi hynny aeth â’i phen iddi, ond roedd yn dal i sefyll.

Ym 1987, sefydlwyd Ymddiriedolaeth Gadwraeth yr Eglwys Norwyaidd i achub ac ail-godi’r Eglwys.  Dan lywyddiaeth yr awdur, Roald Dahl – fel plentyn i fewnfudwyr o Norwy, fe’i bedyddiwyd yn yr eglwys – codwyd arian yn lleol a chan bwyllgor cynorthwyol yn Bergen, Norwy.  O’r herwydd, bu modd tynnu’r adeilad yn ddarnau a’i ail-godi yn ei leoliad presennol.  Agorwyd yr eglwys ar ei newydd wedd yn swyddogol gan Dywysoges Märtha Louise o Norwy ar 8 Ebrill 1992. Mae nawr yn ganolfan gelfyddydol a chaffi gydag ystafelloedd digwyddiadau a ddefnyddir ar gyfer arddangosfeydd, cyngherddau, priodasau a digwyddiadau eraill.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

Adeiladau Victoria, Stryd Bute, Caerdydd

Yn ôl cyfrifiad 1861, roedd Peter Steffano, siopwr gêr llongau 51 oed yn byw gyda’i deulu yn rhifau 56, 57 a 58 Stryd Bute, Caerdydd.  Ar yr aelwyd hefyd yr oedd Joseph Brailli, 23 oed a aned yn Awstria, a oedd yn glerc yn y siop longau ac a oedd yn briod â merch Steffano, Sophia.  Erbyn 1871, roedd y busnes bellach dan yr enw Stefano and Brailli, wedi symud i 63 Stryd Bute; roedd teulu’r Brailli yn byw yn rhif  65 a’r Steffanos yn rhif 66.

Bu farw Peter Steffano ym 1874 ac, erbyn 1881, roedd teulu’r Brailli wedi symud eu cartref i Crockherbtown (Heol y Frenhines erbyn hyn).  Fodd bynnag, mae’n ymddangos iddynt gadw eu safle busnes oherwydd, fis Ebrill 1887, derbyniodd Joseph ganiatâd yr awdurdod lleol i ailadeiladu 64-67 Stryd Bute.

rsz_d1093-2-21_to_44_032_griffiths_partnersken_jones_ltd_64-67_bute_street

Dyluniwyd yr adeilad newydd gan E M Bruce Vaughan a rhoddwyd yr enw Victoria Buildings arni.  Roedd lle i siop ar y llawr gwaelod gyda gofod warws yn y seler ac yng nghefn y llawr cyntaf.  Swyddfeydd oedd ar weddill y llawr cyntaf a’r ail lawr i gyd. Doedd dim lle preswyl yno mwyach.

Mae cyfeiriadur o 1884 yn dal i restru Joseph Brailli fel masnachwr gêr llongau ar safle Stryd Bute, ond erbyn 1891 Thomas Harper and Sons oedd yn rhedeg y busnes.  Hefyd wedi eu rhestru yn Adeiladau Fictoria yn y flwyddyn honno roedd Jacobs & Co, sef siop ddillad, Foster Hain & Co, broceriaid llongau a James Evans & Co Limited, sef perchnogion pyllau glo.  Roedd cwmni Thomas Harper yn dal i fod yno ym 1955, erbyn hynny roedd yr uned siop ar y llaw dde yn gartref i gangen leol George Angus, gwneuthurwyr beltiau diwydiannol ac ystod o gynnyrch arall gan gynnwys seliau olew.  Cwmnïau llongau oedd yn parhau i feddiannu’r swyddfeydd, ynghyd â Gwasanaeth Mewnfudo Ei Mawrhydi.  Erbyn 1972, y rhai a oedd yno oedd Reg Oldfield, y ffotograffydd, Ken Jones, y bwci, a J.F.Griffiths, gwerthwyr deunyddiau adeiladwyr.  Mae arwyddion yn narluniad Mary Traynor yn awgrymu fod y ddau gwmni diwethaf wedi aros yno tan ddiwedd oes yr adeilad.

Yn fras, safle Adeiladau Fictoria yw’r ardal o dir agored y tu cefn i rifau 5,6,7 ac 8 Cilgant Bute (Gwesty Jolyon’s, tŷ bwyta Duchess of Delhi a thafarn yr Eli Jenkins).

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor [D1093/2/32]
  • Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau rheoli adeiladu, cynlluniau ar gyfer ailadeiladu 64-67 Stryd Bute, 1887 [BC/S/1/6250]
  • Cyfrifiad 1861-1891
  • Cyfeirlyfrau amrywiol ar gyfer Caerdydd
  • Calendr Profiant Genedlaethol Cymru a Lloegr 1874
  • Williams, Stewart, The Cardiff Book, cyf. 2 (t.185)
  • http://www.gracesguide.co.uk/George_Angus_and_Co