Mae casgliad yr ‘Ocean and National Magazine’ yn adnodd anhygoel ar gyfer darganfod sut fath o fywyd oedd gan bobl a oedd yn byw ym maes glo De Cymru yn y 1920au a’r 1930au. Wedi ei gyhoeddi gan yr ‘Ocean Coal Company Ltd’ a’r ‘United National Collieries Ltd’, gyda chyfraniadau gan ac ar ran y gweithlu, mae’r gyfres gylchgrawn hon yn cynnwys amrywiaeth eang o erthyglau ar y diwydiant glo a’i hanes, gan gynnwys cysylltiadau diwydiannol, gweithwyr, technoleg, digwyddiadau diwylliannol a chwaraeon. Mae Andrew Booth, un o’n gwirfoddolwyr, yn ddiweddar wedi cwblhau mynegeio’r casgliad gwych hwn. Dyma’r chweched mewn cyfres o erthyglau blog lle mae Andrew yn tynnu sylw at storïau o gylchgronau’r ‘Ocean and National Magazine’.
**********
Mae lle i hanes glofeydd, chwaraeon, gwyddoniaeth a thechnoleg ar dudalennau cylchgronau’r Ocean and National Magazine. Mae lle hefyd i lenyddiaeth, gyda cherddi a chyfraniadau llenyddol eraill. Ym 1933 dechreuodd yr Ocean and National Magazine argraffu cyfres o erthyglau dan y pennawd ‘Athroniaeth o’r Pwll’ gan awdur y cyfeirir ato fel ‘Maindy’. Mae’r erthyglau hyn yn ystyried termau glofaol ac yn disgrifio’u hystyron llythrennol ac athronyddol.
Mae erthygl gyntaf Maindy, yn rhifyn Ionawr 1933 yn trafod glo glân, gan egluro pwysigrwydd hysbysiadau ym mhen y pyllau yn dweud wrth weithwyr mai …dim ond glo glân ddylid ei lenwi. Wedi egluro’r rhesymau economaidd mai dim ond glo glân y dylai’r gweithwyr ei lwytho, mae Maindy wedyn y cymryd y term fel cyffelybiaeth i fywyd yn gyffredinol, gan ddyfalu a oedd cyfraniadau pobl i’w bywydau (eu gweithredoedd, yr hyn a ddwedent a’u meddyliau) yn ‘llwytho glân’. Dychwela Maindy at bwnc y glo glân yn rhifyn mis Tachwedd, gyda’r gwregys bigo fel y trosiad.
Yn yr erthygl nesaf, mae Maindy yn disgrifio’r pwyntiau a’r ymraniadau ar rheiliau’r pwll, a sut os y’u defnyddid hwy yn gywir a’u cadw’n lân yr arbedid amser a llafur di-angen. Unwaith eto mae Maindy yn troi hyn yn gyffelybiaeth ar fywyd, gan awgrymu fod gan bobl eu pwyntiau eu hunain yn eu bywydau ac os dylanwadir ar y rhain yn iawn y bydd y tri phwynt yma neu dri barn (barn y galon, barn y gydwybod a barn y rheswm/deall), yn arwain pobl yn ddiogel dros ymraniadau’r heriau moesol.
Mae’r patrwm o ddefnyddio cyffelybiaethau yn parhau yn erthyglau dilynol Maindy, gyda rhifyn mis Mawrth 1933 yn cyffelybu’r propiau a’r cylchoedd a ddefnyddid i ysgwyddo’r pwysau yn yr ardal weithio i bropiau moesol a …chylchoedd cyfeillgarwch. Mae rhifyn mis mai yn cymharu cyfraith adeiladu â chyfraith cymdeithas yn gyffredinol, tra ym mis Mehefin …y bos oedd y pwnc, gyda Maindy yn holi’r cwestiwn, A ydych chi’n fos arnoch eich hun?
Ym mis Gorffennaf mae ‘cysgod dieflig’ nwy yn y pyllau yn dwyn cymhariaeth â ‘diafoliaid’ rhyfel, tra yn rhifyn mis Awst cyffelybir canfod y fantol gywir mewn Peiriannau Pwyso i gynnal a chadw cydbwysedd rhwng y grymoedd sy’n llywodraethu bywyd dyn. Ym mis Hydref mae’r ffan awyru yn cael ei chymharu â rhai pobl …nad sy’n gwneud llawer o sŵn, ond mae bodolaeth eu presenoldeb yn ein bywhau.
I orffen yn erthygl mis Rhagfyr mae’r erthygl yn edrych ar sbrogen, sef darn o bren a gaiff ei wthio rhwng sbôcs olwynion tram fel dull syml o frecio. Yma cyffelybir y sbrogen i reoli’r meddwl dynol, gyda Maindy yn dweud: Fel haliwr neu yrrwr da, dylech wastad gadw’r syniad o reolaeth ym mlaen eich meddwl, a gweld, cyn dilyn unrhyw un o lwybrau bywyd, fod yr offer iawn gennych i wrthsefyll unrhyw demtasiwn i ‘gyflymu’ yn foesol.
Andrew Booth, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg