Rhagofalon Cyrchoedd Awyr ym Morgannwg

Ar gyfer ail ddegawd Archifau Morgannwg, penderfynais edrych ar ein casgliad o gofnodion Rhagofalon Cyrchoedd Awyr ar gyfer Morgannwg. Sefydlwyd Gwasanaeth Wardeniaid Cyrchoedd Awyr Caerdydd ym 1939. Roedd pencadlys y Gwasanaeth ym Mharc Cathays, gyda chanolfannau rheoli lleol ar hyd a lled Morgannwg.

Roedd y Gwasanaeth Rhagofalon Cyrchoedd Awyr yn cynnwys Wardeiniaid, Adrodd a Rheoli, Negeswyr, Swyddogion Cymorth Cyntaf, Gyrwyr Ambiwlans, Gwasanaethau Achub, Dadlygru Nwy a Gwarchodwyr Tân. Cyflwynwyd cynllun Gwylwyr Tân yn Ionawr 1941, oedd â’r gwaith o gadw golwg ar rai adeiladau penodol bedair awr ar hugain y dydd, a galw ar y gwasanaethau achub pan oedd angen. Gallai menywod a dynion o bob oed fod yn wardeiniaid RhCA. Gwirfoddolwyr oedd y mwyafrif, ond roedd rhai yn cael eu talu.

Roedd gorfodi’r ‘blacowt’ yn un o ddyletswyddau’r wardeiniaid RhCA. Cafodd rhai ohonyn nhw enw gwael am ymyrryd a busnesu yn sgil hyn. Pwy sy’n cofio’r Warden RhCA Hodges yn gweiddi ‘Put that light out!’ yn Dad’s Army?

Mae’r cofnod hwn o Ganolfan Reoli’r Barri [DARP/2/2] yn cofnodi cwyn am olau’n dangos:

DARP-2-2-2ndAug-1942 web

Roedd dyletswyddau eraill y Warden RhCA yn cynnwys seinio’r seiren cyrch awyr, helpu pobl i’r lloches cyrch awyr agosaf, dosbarthu masgiau nwy a gwylio am fomiau’n disgyn yn eu hardal. Roedd cryn ddefnydd ar y llyfryn 250 ARP Questions Answered [DARP/3/24].

DARP-3-24-web

Roedd disgwyl i wardeiniaid rhan amser fod ar ddyletswydd dair noson yr wythnos, ond roedd hyn yn cynyddu’n fawr pan oedd y bomio ddwysaf. Fel y gwelir o’r cofnod isod [DARP/1/10], roedd wardeiniaid ar ddyletswydd weithiau’n cwyno am amodau’r ystafell reoli. Roedd cyflwr y cwpanau’n peri gofid fe ymddengys, gydag un warden yn ymateb:

What would you like? Fire watching at the Ritz??!

DARP-1-10-8thAug-1941-cups v2 web

Mae’r cofnod canlynol o lyfr log Canolfan Reoli Pontypridd ar 25 Ebrill 1943 [DARP/13/9] yn adrodd am grater 5 troedfedd wrth 2 droedfedd a hanner o ddyfnder ger Fferm Fforest Uchaf ar Fynydd y Graig. Bu’r warden RhCA mewn cysylltiad â heddlu Pontypridd a Llantrisant, yn ogystal â’r Ganolfan Reoli, i sicrhau bod y bom wedi ffrwydro.

DARP-13-9-25thApril-1943 web

Byddai wardeiniaid RhCA yn cael y newyddion diweddaraf am newidiadau yn nhactegau’r gelyn ac roedd disgwyl iddyn nhw hefyd adrodd gwybodaeth yn ôl o lawr gwlad. Mae’r neges ganlynol o 15 Mehefin 1943 [DARP/13/9] yn disgrifio sut mae’r gelyn wedi dechrau gollwng bomiau gwrth-bersonél ar ôl gollwng bomiau tân er mwyn amharu ar ymdrechion i ymladd tanau.

DARP-13-9-15thJune-1943 web

Roedd wardeiniaid RhCA hefyd yn cymryd rhan mewn driliau ac ymarferion rheolaidd. Cynhaliwyd ymarferiad o’r fath ar 19 Hydref 1941 [DARP/1/7]:

Enemy cars discharging soldiers at Caegwyn Road, Manor Way Crossing…

DARP-1-7-19thOct-1941-exercise web

Pan oedd y Blitz yn ei anterth, roedd tua 27,000 o bobl yn gwasanaethu’n llawn amser i’r gwasanaeth Amddiffyn Sifil, ond erbyn diwedd 1943 roedd y nifer wedi gostwng i ryw 70,000. Yn ystod y rhyfel, gwasanaethodd 1.5 miliwn o bobl gyda’r RhCA/Gwasanaeth Amddiffyn Sifil. Cafodd y Gwasanaeth Amddiffyn Sifil ei ddileu yn y pen draw tuag at ddiwedd y rhyfel, ar ôl Diwrnod VE.

Melanie Taylor, Cynorthwy-ydd Cofnodion, Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd: