Cynnig arbennig, a gosod y Garreg Goffa ar gyfer Ysbyty a Fferyllfa Bro Morgannwg a Sir Fynwy, 30 Ionawr 1883

Dyma’r ail o gyfres o erthyglau ar yr adeilad ac agoriad, ym mis Medi 1883, Ysbyty a Fferyllfa Bro Morgannwg a Sir Fynwy, a adwaenir bellach fel Ysbyty Brenhinol Caerdydd. Mae’n seiliedig ar gofnodion a gedwir yn Archifau Morgannwg.

Ym 1880 ymddengys nad oedd gobaith y byddai digon o gyllid yn cael ei godi i adeiladu ysbyty newydd yr oedd mawr ei angen yng Nghaerdydd. Newidiodd y sefyllfa, fodd bynnag, ar noswyl Nadolig, pan gafwyd y llythyr canlynol:

Image 1

Image 2

I have much pleasure in informing you that the Marquis of Bute has instructed me to intimate to you, as the Secretary of the New Building Committee, that his Lordship will make the necessary arrangements for presenting to the Infirmary Committee the freehold site proposed for the new building.

[Llythyr gan Thomas Lewis, Ystâd Bute at Dr Alfred Sheen, Ysgrifennydd Pwyllgor yr Adeilad Newydd, 24 Rhagfyr 1880 (DD/HC/44)]

Ni allai Alfred Sheen fod wedi derbyn anrheg Nadolig gwell. Roedd yr ateb a anfonwyd yn syth ar ôl y Nadolig, ar y 27ain, yn diolch i’r Ardalydd am ei …anrheg haelionus a fyddai’n ….cael gwared ar unrhyw amheuaeth a allai fod wedi bodoli ym meddwl rhai ohonom ni o ran ymarferoldeb y project. Roedd y tir dan sylw yn gorwedd ar gornel Heol Casnewydd a Glossop Road, sef safle Ysbyty Brenhinol Caerdydd ar hyn o bryd.  Fe’i hadwaenir bryd hynny fel Longcross Common. Fe’i gwelwyd ers tro fel y safle a ffefrir ar gyfer yr ysbyty, gyda digon o le i ehangu ymhellach yn nes ymlaen. Roedd ganddo werth amcangyfrifedig o £10,000 ac er bod y teulu Bute wedi cynnig ei ryddhau am £5000, roedd y pris yn dal y tu hwnt i gyrraedd y Pwyllgor.

Cafodd y cynnig ei ddiwygio’n ddiweddarach i brydles hirdymor am rent enwol ond o’r adeg hon rhoddwyd hwb newydd i’r project. Comisiynwyd cynlluniau gan y Penseiri James, Seward a Thomas o Gaerdydd, ac fe’u gwnaed ar gael i’w harchwilio gan y cyhoedd yn Neuadd y Dref ym mis Awst 1881. Bum mis yn ddiweddarach, ar 30 Ionawr 1882, ar ôl sawl rownd o dendrau, penodwyd adeiladwr lleol, Clarke Burton, i adeiladu’r ysbyty am gost o £22,978. Gofynnwyd i Burton ddechrau “ar unwaith” a chwblhau’r gwaith ymhen 20 mis.

Gwnaed cynnydd da. Bron yn union flwyddyn yn ddiweddarach, ar ddydd Mawrth 30 Ionawr 1883, dydd Mawrth, ar brynhawn oer a gwlyb iawn, wynebodd yr Ardalydd Bute y cesair a’r glaw i gyflwyno araith o blatfform a godwyd ar safle sef mynedfa Ysbyty Brenhinol Caerdydd bellach.  Disgwyliwyd torf fawr ac roedd y prif gwnstabl wedi amgylchynu’r platfform gyda heddweision. Roedd y tywydd, fodd bynnag, yn golygu bod y dorf, er yn fawr, yn llai na’r disgwyl.

Heb os, roedd llawer o’r rhai a oedd yn bresennol yn canolbwyntio ar y gwyliau a gyhoeddwyd ar gyfer y diwrnod wedyn pan fyddai’r Ardalydd yn torri’r dywarchen gyntaf ar gyfer y Doc newydd a fyddai’n cael ei adeiladu yng Nghaerdydd am gost o hanner miliwn o bunnoedd. Felly, er gwaethaf yr adloniant a ddarparwyd gan y band o ddatodiad Penarth o’r Artillery Volunteers, adroddodd un papur newydd fod nifer o’r areithiau y diwrnod hwnnw wedi’u … clywed gyda pheth diffyg amynedd gan dorf sy’n dioddef o … draed oer a thrwynau glas.

Fodd bynnag, cafodd yr Ardalydd Bute dderbyniad da oherwydd ei fod yn ddiwrnod pwysig gan iddo osod carreg goffa i ysbyty a fferyllfa newydd Bro Morgannwg a Sir Fynwy a fyddai, ar ôl eu cwblhau, yn gwasanaethu De Cymru am dros 130 o flynyddoedd. Yn gyfnewid, cyflwynwyd trywel arian wedi’i arysgrifio gyda handlen ifori a chyfres o frasluniau o’r ysbyty newydd wedi eu rhwymo mewn llyfr â lledr Moroco. Mae’n debygol bod y llyfr yn cynnwys braslun o flaen yr adeilad newydd sy’n wynebu Glossop Road a oedd yn ymddangos ar dudalennau Illustrated London News y mis canlynol ar 10 Chwefror 1883.

Er gwaethaf y cynnydd a wnaed, roedd y gronfa adeiladu yn dal i fod yn brin o’r arian yr oedd ei angen ar gyfer yr ysbyty newydd. Ar ddiwedd y seremoni gosododd yr Ardalydd £1000 ar y garreg Goffa fel her i eraill. O bosibl wedi eu hannog gan yr addewid y byddai ward yn cael ei henwi ar eu hôl wrth roi £1,000, roedd enwau’r bobl a gymerodd her yr Ardalydd Bute yn edrych fel rhestr o ‘bwy yw’r cyfoethog a’r dylanwadol’ yn ne Cymru ar y pryd, gan gynnwys Tredegar, Windsor, Cory, Crawshay, Aberdare, Insole, Mackintosh a Dunraven.

Os ewch i ymweld ag Ysbyty Brenhinol Caerdydd, gallwch weld y garreg a osodwyd ar y prynhawn oer a gwlyb hwnnw yn 1883. Bydd angen i chi edrych yn ofalus. Mae ar lefel y ddaear ar ochr chwith y drws wrth y brif fynedfa. Ar yr ochr dde fe welwch garreg debyg yn coffáu’r cyfraniad a wnaed i’r ysbyty cyntaf gan Daniel Jones. Adroddwyd bod cynhwysydd gyda darnau arian, papurau lleol a disgrifiad o’r safle wedi ei gladdu o dan y garreg a osodwyd gan yr Ardalydd. Mae’n bosibl ei fod yn dal yno heddiw.

Cedwir braslun o’r Ardalydd Bute, yn gosod y garreg goffa yn yr ‘Illustrated London News’ ar 10 Chwefror 1883, yn Archifau Morgannwg, dan gyfeirnod DXGC147/28. Mae’r trawsgrifiad o lythyr gan asiant yr Ardalydd Bute dyddiedig 24 Rhagfyr 1880 yng nghofnodion yr is-bwyllgor adeiladu ar 27 Rhagfyr 1880, cyfeirnod DHC/44.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Castell Coch, Tongwynlais

Tybir fod y Castell Coch gwreiddiol yn dyddio o’r 12fed neu’r 13fed ganrif.  Daw ei enw o liw y garreg dywodfaen leol yr adeiladwyd y castell ohoni.  Gadawyd y castell i fynd â’i ben iddo yn weddol gynnar, roedd yn rhan or ystadau a gysylltwyd â Chastell Caerdydd.  Erbyn y 19eg ganrif dim ond y sylfaeni oedd yn weddill.

D1093-1-2 p26

Ym 1871, comisiynwyd William Burges gan yr Ardalydd Bute i ail-godi’r castell fel preswylfa wledig i’w ddefnyddio’n achlysurol ym misoedd yr haf, gan ddefnyddio’r olion canoloesol fel sylfaen i’r dyluniad.  Ailgodwyd muriau allanol y castell rhwng 1875 a 1879, ond bu farw ym 1881 cyn cwblhau y gwaith ar y tu mewn.  Cwblhawyd hyn gan aelodau eraill ei dîm ym 1891. Ystyrir fod y tu allan yn adlewyrchiad gweddol gywir o gastell o’r Oesoedd Canol, er bod gan arbenigwyr amheuaeth am ddilysrwydd y tyrrau conigol.  Fodd bynnag, mae’r tu mewn yn ffantasi o symbolaeth ac addurno lliwgar y mae’n rhaid i chi ei weld drosoch eich hun er i’w werthfawrogi.

Go anymarferol yw’r adeilad fel gofod i fyw ynddo ac ychydig iawn o ddefnydd felly a fu arno.  Ers 1950, mae Castell Coch wedi bod yn nwylo’r wladwriaeth ac ar hyn o bryd fe’i rheolir gan CADW fel atyniad i dwristiaid ac fel lleoliad ar gyfer priodasau a digwyddiadau eraill.

David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd: