Ffotograffydd proffesiynol yng Nghaerdydd oedd Stan Travers. Roedd ei swyddfa / stiwdio gyntaf ar falconi Arcêd y Castell yng Nghanol Caerdydd. Yn ystod ei gyfnod yno, cymerodd bartneriaid i helpu gyda’r llwyth gwaith. Symudodd y cwmni yn y 1970au i Heol y Plwca, Caerdydd, a oedd yn ardal fasnachol ar y pryd. Ar wahân i ddyletswyddau arferol ffotograffydd proffesiynol ffotograffiaeth briodas, roeddent hefyd yn ffotograffwyr masnachol yn delio â gwaith gan gwmnïau o amgylch ardal de Cymru. Mewn blynyddoedd diweddarach symudwyd y busnes i Ystâd Ddiwydiannol Pentwyn.

Stryd Bute, [1950au] (cyf.: DSTP/2/1/16)
Mae’r casgliad yn cwmpasu maes eang o’r gwaith masnachol a wnâi’r cwmni. Mae’n cynnwys swyddi unigol a storir o dan gyfeiriad sy’n cynnwys y flwyddyn (2 ddigid – e.e. 71 ar gyfer 1971) a rhif cyfeirnod. Daw rhai swyddi gyda cheisiadau ailargraffu sy’n rhoi’r dyddiadau cywir. Mae pob swydd yn cynnwys set o luniau negatif, taflenni argraffu cyswllt ac argraffiadau o feintiau amrywiol. Mae dwy adran yn y casgliad; mae adran 1 yn cynnwys amrywiaeth eang o wahanol fathau o waith, ac mae adran 2 wedi’i neilltuo’n fwy na dim ar gyfer pensaernïaeth ac adeiladau.

Gwaith atgyweirio yng Nghadeirlan Llandaf, 1984 (cyf.: DSTP/1/84277)
Mae’r casgliad yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 1950 a 1999, ac yn bennaf rhwng 1966 a 1999. Yn ystod y cyfnod hwn, nid oedd ffotograffiaeth ddigidol yn bodoli. Cofiaf ddechrau sganio lluniau negyddol ar ddiwedd y 1990au, a chafodd camerâu digidol ddim eu cynhyrchu tan ddechrau’r blynyddoedd 2000. Mae’r casgliad felly’n seiliedig ar ddefnyddio ffilm a phrosesau cemegol.
O ddiwedd y 1990au, newidiodd ffotograffiaeth yn sydyn pan ddaeth ddelweddau digidol. Yn y dyddiau cynnar gellid sganio lluniau a gymerwyd ar ffilm yn ddigidol a chynhyrchu printiau gan ddefnyddio peiriannau argraffu o ansawdd uchel. Daeth y camera digidol yn fuan iawn wedyn, a oedd yn tynnu lluniau heb ffilm. Cymerodd rai blynyddoedd i ansawdd y camerâu gyrraedd safonau proffesiynol, ond pan gyrhaeddon nhw, bu chwyldro yn y diwydiant. Heddiw mae gan y rhan fwyaf ohonom ffôn symudol gyda chamera digidol yn rhan ohono, sy’n gallu cynhyrchu delweddau sy’n dderbyniol yn fasnachol.
Gyda chamera ffilm mae’n rhaid i ddadleniad y ffilm fod yn gywir y tro cyntaf. Nid oedd hyn bob amser yn hawdd gan nad oedd gan ran fwyaf y camerâu yn y 1960au fesuryddion dadlennu mewnol. Byddai ffotograffwyr proffesiynol yn defnyddio mesurydd llaw i sicrhau dadleniad cywir. Mewn achosion lle’r oedd amheuaeth ynghylch y darlleniadau byddent yn ‘cromfachau’ dadleniad drwy dynnu nifer o luniau o’r un testun gyda gosodiadau ychydig yn wahanol. Yn ogystal, byddai’n rhaid iddynt benderfynu pa stoc ffilm i’w defnyddio. Câi ffilmiau eu graddio yn ôl cyflymder (ISO neu ASA). Mae ffilmiau cyflymder araf yn cynhyrchu delweddau manwl iawn, mae ffilmiau cyflym ar gyfer amodau golau isel ond maent yn rhoi delwedd grawn o ansawdd is. Ar ben hyn roedd dewis rhwng du a gwyn, lliw negyddol a thryloywder lliw. Gall camerâu digidol proffesiynol heddiw wneud yr holl benderfyniadau hyn dros y ffotograffydd neu eu cynnig drwy newidiadau hawdd wrth wasgu botwm. Wrth gwrs, daeth y newid mawr yng nghynhyrchu delweddau. Byddai’n rhaid tynnu ffilm o’r camera yn syth ar ôl ei dadlennu a mynd â hi i’w dyblygu. Mewn camera digidol cyflwynir y ddelwedd ar unwaith ar gefn y camera. Dychmygwch gymryd set o ddelweddau mewn priodas heb wybod tan y diwrnod wedyn nad oedd modd defnyddio unrhyw un!

Boelerdy Cymunedol, Pentwyn, Caerdydd, 1976 (cyf.: DSTP/2/52)
Offeryn ychwanegol oedd ar gael i’r ffotograffydd oedd y gallu i ddewis math y camera i’w ddefnyddio ar gyfer gwaith penodol. Ar gyfer gwaith portread o ansawdd uchel a hysbysebu gellid defnyddio camera ffilm blât. Ar gyfer gwaith cyffredinol, roedd camera fformat sgwâr 6cm x 6cm yn ddelfrydol gan ei fod yn cynnig cefnau ffilm cyfnewidiol felly gellid cymryd yr un llun ar wahanol ffilmiau, monocrom a lliw. Ar gyfer ffotograffiaeth testun sy’n symud a mannau lle byddai camera mawr yn broblem, daeth y camera 35mm i ddefnydd. Heddiw, mae’r opsiynau fformat camera digidol a maint y synhwyrydd yn cynnig cyfleusterau tebyg.
Felly roedd gan y ffotograffydd ffilm proffesiynol set sgiliau ychwanegol i rai’r ffotograffydd digidol modern gan fod yn rhaid penderfynu pa gamera i’w ddefnyddio, pa ffilm oedd yn cyfateb i’r amodau, gofynion y cwsmeriaid a’r gallu i ddadlennu’n iawn y tro cyntaf – oherwydd nad oedd ail gyfle! Mae Casgliad Stanley Travers, ar wahân i ddangos cip ar fywyd yn y 1960au hyd at 1999, hefyd yn dangos sgiliau’r ffotograffydd ffilm. Mae’r wybodaeth sydd ar gael yn rhoi manylion y delweddau go iawn a gymerwyd ynghyd ag enw’r cwsmer a ofynnodd am y gwaith. Ar yr ochr dechnegol rhoddir math y ffilm a’r fformat, sydd hefyd yn awgrymu pa gamerâu ffilm a ddefnyddiwyd.

Panasonic, Pentwyn, Caerdydd: y miliynfed teledu a gynhyrchwyd yn y ffatri, 1985 (cyf.: DSTP/1/85514)
Cyfres o waith masnachol y ffotograffydd yw Adran 1 (heb gynnwys ffotograffiaeth briodas) sy’n rhychwantu’r cyfnod rhwng 1981 a 1999. Mae’n cwmpasu amrywiaeth eang o destunau, gan gynnwys portread grŵp a phortread unigol, copïo hen ddelweddau a phaentiadau, y tu mewn i eglwysi, y tu mewn i ffatrïoedd, y tu mewn i waith dur newydd, bysus newydd Cyngor Caerdydd, adeiladu ym Mae Caerdydd, cyngherddau Proms Caerdydd, cerddorfeydd ac ati. Wedi’i rifo o dan ei restr o gleientiaid roedd GKN, Awdurdod Dociau Prydain, Panasonic UK, Bws Caerdydd a llawer mwy.

Coleg Mihangel Sant, Llandaf, Caerdydd: llun grŵp, 1982 (cyf.: DSTP/1/82174)
Yn y casgliad hwn gwelwn sut y rhoddai’r ffotograffwyr y canlynol i’w gwsmeriaid:
- Llun cofnod blynyddol o holl fyfyrwyr a staff Coleg Mihangel Sant, Llandaf, Caerdydd. Mae’r coleg bellach wedi cau.
- Cyfres o swyddi sy’n olrhain adeiladu gwaith dur newydd yn East Moors, Caerdydd ar gyfer GKN.
- Lluniau blynyddol o geir carnifal GKN ar gyfer Gorymdaith Arglwydd Faer Caerdydd
- Swyddi amrywiol i Fws Caerdydd yn dangos cerbydau newydd yn ymuno â’r fflyd.
- Nifer o ddigwyddiadau snwcer gyda chwaraewyr snwcer enwog ar gyfer Allied Steel and Wire.
- Swyddi amrywiol i gwmnïau o Japan yn lleoli ffatrïoedd yn ardal Caerdydd.
- Cyfres gyfan o swyddi i Brifysgol Abertawe yn dangos pob elfen o’r coleg i’w defnyddio mewn deunydd cyhoeddusrwydd.

Car carnifal Allied Steel and Wire float yng Ngorymdaith yr Arglwydd Faer, Caerdydd, 1981 (cyf.: DSTP/1/81322)
Yn ystod y cyfnod hwn tynnwyd yr holl ffotograffau ar ffilm. Fel yr esboniwyd yn gynharach, byddai gwahanol fathau o gamerâu wedi eu defnyddio ar gyfer gwahanol waith, felly mae mathau a meintiau’r ffilmiau yn amrywio. Prif offer ffotograffydd masnachol fyddai camera fformat sgwâr fel y Hassleblad (lluniau negyddol 6cm x 6cm), gyda chamerâu plât Chwarter (ffilm ddalen sengl 5″ x 4”) lle’r oedd angen manylion mân. Defnyddid camerâu 35mm a chamerâu panoramig (lluniau negyddol 6cm x 9cm) mewn rhai amgylchiadau lle nad oedd yn ymarferol defnyddio’r lleill.
Gellir gweld o’r cofnodion y daeth arwyddion cyntaf ffotograffiaeth ddigidol i’r amlwg ym 1997 pan ddechreuwyd defnyddio taflenni cyswllt digidol. Ar ôl y dyddiad hwn gwnaed rhai argraffiadau ar bapur digidol ond roedd yr holl waith camera yn dal i ddefnyddio ffilm.
Mae cyfres 2 yn wahanol i gyfres 1 gan ei bod yn is-set o waith ar gyfer penseiri, gan gynnwys Alex Gordon & Partners a Swyddfa Penseiri Dinas Caerdydd, a nifer o asiantau tai yn ardal Caerdydd a’r Fro yn ne Cymru. Nid ydynt yn cael eu storio dan rif cyfeirnod y ffotograffydd, er bod hwn yn rhai cofnodion gwaith lle mae ‘data dadansoddi lliw’ a thaflenni ail-brint.

Eglwys Fethodistaidd Beulah, Margam, 1974 (cyf.: DSTP/2/53)
Gellir gweld llawer o adeiladau diweddar o amgylch ardal Caerdydd a de Cymru yn y delweddau hyn, gan gynnwys:
- Adeiladau’r Llywodraeth ym Mharc Cathays,
- Coleg yr Iwerydd yn Sain Dunwyd,
- Prifysgol Caerdydd a’r Coleg Celf,
- Gorsaf Heddlu Canol Caerdydd a’r orsaf dân,
- Tŷ Hodge yng Nghaerdydd.
- Mae dwy swydd yn dangos tu allan a thu mewn Eglwys Fethodistaidd Beulah cyn ac ar ôl i’r eglwys gael ei symud i wneud lle i draffordd yr M4.
- Nifer o ddelweddau cynnar yn dangos ardaloedd yng Nghaerdydd yn tua 1950.
Yn olaf, mae’r casgliad nid yn unig yn dangos delweddau i ni sy’n ymwneud â’r cyfnodau amser a gwmpesir, yn amlygu dillad newidiol, gorymdeithiau a gwyliau ac ati, ond mae hefyd yn dangos wyneb newidiol ardal Caerdydd. Yn ogystal, mae’n gofnod o’r sgiliau technegol a’r offer a oedd ar gael i’r ffotograffydd.
Fred Davies, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg