Merched y Rhath a’r Rhyfel: Rhan 1

Roedd Capel Methodistaidd Wesleaidd Roath Road ar y gornel rhwng Heol y Plwca a Heol Casnewydd. Roedd yn adeilad mawr a adeiladwyd tua 1860, gyda lle i 1000 o bobl. Sefydlwyd Cylchgrawn Roath Road yn wreiddiol fel cylchgrawn Ysgol Sul Fethodistaidd Wesleaidd Roath Road (DX320/3/2/i-iii). O fis Tachwedd 1914 fe’i cyhoeddwyd yn fisol o dan yr enw ‘Roath Road Roamer’ (RRR) i gynnig newyddion ar y rhyfel ac, yn benodol, ffawd y milwyr a oedd yn gysylltiedig ag Eglwys Wesleaidd Roath Road, yr Ysgol a’r Cynulliad a oedd yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog (DAWES6). Fe’i dosbarthwyd ledled yr ardal, ac fe’i hanfonwyd dramor i roi newyddion o Gymru i filwyr, teuluoedd a ffrindiau ynghyd â gwybodaeth am eu cyfoedion yn y lluoedd. Yn benodol, roedd yn cynnwys ffotograffau a llythyrau gan filwyr a oedd yn gwasanaethu dramor.

O’r cychwyn cyntaf, y bwriad oedd i’r cylchgrawn sôn am gyfraniad merched y plwyf ac, yn benodol, y rheini ‘mewn iwnifform’. Yn eu crynswth, soniodd y cylchgronau am 19 o ferched o ardal y Rhath. Roedd llawer yn chwiorydd i filwyr, morwyr a pheilotiaid a oedd ar faes y gad. Ceir ffotograffau o 17 ohonynt yn y cylchgronau, a sawl llythyr. Cyfeiriwyd atynt yn y cylchgrawn fel ‘ein Merched Crwydrol’ a bydd y darluniau dros yr wythnosau nesaf yn cynnig cip ar sut y symudodd merched i mewn i rolau a swyddogaethau a arferai gael eu dominyddu gan ddynion yn sgîl y rhyfel.

Ar ddechrau’r rhyfel, y llwybr amlycaf i ferched a oedd am gyfrannu at yr ymdrech ryfel oedd gwirfoddoli gydag elusennau lleol a chyrff cenedlaethol fel y Groes Goch. Dyma wnaeth saith o’r merched y sonnir amdanynt yn y cylchgrawn. Fodd bynnag, ar ddiwedd y Rhyfel, oherwydd prinder milwyr yn dilyn consgripsiwn 1916, agorwyd drysau i ferched mewn sawl maes gwaith newydd. Erbyn 1918 roedd y Merched Crwydrol i’w canfod yng Nghorfflu Atodol Byddin y Merched, y Llu Awyr Brenhinol, Byddin y Tir a gwasanaethau lleol, gan gynnwys y rheilffyrdd a’r post. At hynny, o’u llythyrau, gwyddom fod llawer ohonynt wedi gwasanaethu dramor.

Y Nyrsys – Alice Williams a Lilian Dove, Rose Crowther, Beatrice James, Harriet Thomas and Florrie Pearce

Yn ystod y Rhyfel, gwirfoddolodd dros 90,000 o ddynion a merched gyda’r Groes Goch. Ym mhob sir, sefydlwyd Minteioedd Cymorth Gwirfoddol (VADs). Cyflawnodd y VADs amrywiaeth o waith, gan gynnwys nyrsio, trafnidiaeth a threfnu gorsafoedd gorffwyso. Gwirfoddolodd chwech o’r Merched Crwydrol gyda’r Groes Goch. Y straeon mwyaf dramatig yw rhai Alice Williams a Lillian Dove, a wasanaethodd fel nyrsys dramor.

Ymunodd Alice Williams â’r Groes Goch ym 1915, a hi oedd un o’r Merched Crwydrol cyntaf. Ym mis Tachwedd 1915 gwelwyd ffotograff o Alice yn y Roamer, gyda’r dyfyniad canlynol:

‘Miss Alice Williams, who has a lifelong connection with Roath Road, is a Red Cross Nurse in a French Field Hospital, where the wounded are brought in straight from the trenches for immediate attention. Our only lady at the Front!’ (Cyf.13, t.6).

Alice Williams

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ym mis Mehefin 1917, nodwyd y canlynol:

‘Miss Williams has been in the thick of things – as a nurse for two years, and this is the first time she has left France. Much of her time she has spent within three miles of the German trenches so she knows something about things and has an interesting story to tell. She kindly showed us a bit of a Zeppelin that she saw brought down outside Paris. We believe that she is going back and wish her every success in the splendid bit of work she is doing’ (Cyf.32, t.6).

Fel Alice, roedd gan Lilian Dove dipyn o stori i’w hadrodd. Roedd Lilian, o Richmond Road, Caerdydd, yn 25 oed ar ddechrau’r Rhyfel. Yn Rhifyn 41, nododd y Roamer y canlynol:

‘The many ‘Roamers’ by whom our former Minister, The Rev C Nelson Dove, is still held in such affectionate regard, will be thankful to hear that his daughter, Nurse Lilian Dove, who was ‘mined’ off Alexandria on 31st December last, was rescued and is apparently none the worse for her unsought adventure and the exposure, shock and explosion, except that she unfortunately lost all her belongings’ (Cyf.41, t.8).

Naw mis yn ddiweddarach, adroddodd y Roamer ei bod hi dal yn Alexandria. Rhoddwyd y wybodaeth gan y Gyrrwr George Notley, un arall o Grwydrwyr y Rhath a oedd hefyd yn yr Aifft. Anfonodd garden at Lilian oddi wrth  ‘Notley one of the RRRs’, gan hefyd nodi; ‘She recognised the ‘Freemason’s sign’ and they had a cheery interview’ (Cyf.47, t.2).

Darparwyd dau ffotograff arall o’r Merched Crwydrol – Rose Crowther a Beatrice James – yng ngwisgoedd nyrsys y Groes Goch.

Rose Crowther

Mae’n debyg mai Rose oedd chwaer Charles Crowther, a oedd yn Gloddiwr gyda’r Peirianwyr Brenhinol. Rydyn ni’n gwybod o gofnodion y Groes Goch i Rose ymuno â’r elusen ar 3 Mehefin 1916, ond ni nodwyd unrhyw fanylion am ei gorsaf, nac ychwaith orsaf Beatrice.

Beatrice James

Ceir lluniau o ddwy arall, Harriet Thomas a Florrie Pearce, mewn cotiau mawr a chapiau.

Harriet Thomas

Mae’n ddigon posib yr oedd y ddwy’n gweithio mewn un o’r Ysbytai Atodol a sefydlwyd gan y Groes Goch yn ystod y rhyfel pan gafodd y ffotograffau eu cymryd.

Florrie Pearce

Sefydlodd y Groes Goch 49 o Ysbytai Atodol ym Morgannwg yn unig. Gan yn aml ddefnyddio tai perchnogion hael, roedd yr ysbytai’n cynnig lle i orffwys ac adfer i filwyr a ryddhawyd o ysbytai milwrol mawr. Fodd bynnag, fel y gwelwyd yn achos Alice Williams a Lilian Dove, nid dim ond ar y Ffrynt Cartref y bu’n rhaid i’r merched wasanaethu. Gweithiodd Florrie Pearce dramor gyda’r Groes Goch, fwy na thebyg yn Ffrainc.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg