Cefndir
Ym mis Chwefror 2014 mewn erthygl ar gyfer Wales Online gan Siôn Morgan roedd yr hanes am ddyddlyfr ffotograffau milwr, Alfred Griffiths, a anafwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf (http://bit.ly/1EXhG0c). Daethpwyd o hyd i’r dyddlyfr mewn siop elusen yng Nghernyw gan Robert Aindow. Gan ddefnyddio’r manylion yn y dyddlyfr a gwybodaeth o gyfrifiad 1911, canfu Robert Aindow mai Alfred Thomas Griffiths oedd y milwr, mab David a Rosetta Griffiths, 13 Comet Street, Caerdydd. Yn dilyn apêl am ragor o wybodaeth am Alf, mewn erthygl arall ar 7 Hydref (http://bit.ly/1K08QTM), cadarnhawyd bod y Dyddlyfr wedi’i brynu gan hanesydd o Gaerdydd, Derek Gigg, o Lanisien. Roedd Derek wedi gallu ychwanegu at y wybodaeth am wasanaeth Alf yn y rhyfel gyda Chatrawd Dyfnaint a gwnaeth apêl am ragor o wybodaeth.
Roath Road Roamer
Mae copïau o ‘The Roath Road Roamer’, a gyhoeddwyd o 1914-19 gan Eglwys Wesleaidd Roath Road ac a gedwir gan Archifau Morgannwg, wedi ychwanegu mwy o wybodaeth at stori Alf. Gan ddefnyddio gwybodaeth yn seiliedig ar lythyrau a ffotograffau gan ddynion a merched yn y lluoedd arfog a newyddion a gafwyd gan filwyr ar wyliau o’r fyddin, roedd ‘The Roath Road Roamer’ yn olrhain gwasanaeth rhyfel 460 o ddynion a 19 o ferched o Gaerdydd. Roedd y cylchgrawn yn cael ei gyhoeddi bob mis, a’i ddosbarthu drwy’r ardal a’i anfon dramor.
Roedd Alf Griffiths yn ‘Roath Roamer’ ac mae’r cylchgrawn yn sôn am ei brofiadau yn ystod y rhyfel, yn ogystal â phrofiadau’r dynion eraill o ardal y Rhath a fu’n brwydro ochr yn ochr ag ef yn Ffrainc. Mae hefyd yn dilyn brwydr bersonol Alf i wella yn sgil y clwyfau a gafodd ym Mrwydr y Somme ym 1916 tan iddo gael ei ryddhau o’r Fyddin ym 1918.
Gwelwyd hanes Alfred Thomas Griffiths yn ‘The Roamer’ am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 1914. Roedd ei enw wedi’i gynnwys ar Restr y Gwroniaid y sawl oedd yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog a oedd ar gofrestr yr Ysgol Sul gynt. Mae hyn yn cadarnhau, ar gychwyn y rhyfel, bod y teulu Griffiths yn dal i fyw yn 13 Comet Street a bod Alf wedi ymuno ag 11eg Bataliwn Catrawd Dyfnaint (Cyf.2, t.7).
Byddai teulu Alf, felly, yn fwy na thebyg wedi bod wedi mynychu Eglwys Fethodistaidd Wesleaidd Roath Road ar gornel Heol y Plwca a Heol Casnewydd (Roath Road gynt). Ynghyd â theuluoedd eraill Comet Street, gan gynnwys y teulu Townsend ar 40 Comet Street, byddai Alf wedi mynychu gwasanaethau ac Ysgol Sul yr Eglwys. Mae cofnodion Eglwys Fethodistaidd Wesleaidd Roath Road a gedwir yn Archifau Morgannwg yn cadarnhau bod hyd at 850 o blant yn mynychu’r Ysgol Sul bob wythnos, a’u goruchwylio gan 40 o athrawon a 50 o gynorthwywyr (DWESCR299). Mae ‘The Roamer’ yn cynnwys manylion am dri aelod arall o’r teulu Townsend a fu’n brwydro yn y Rhyfel – Fred, a ymunodd y Fyddin, a’i chwiorydd Edith a Gladys, a ymunodd â Chorfflu Cynorthwyol y Frenhines Mary yn ddiweddarach yn ystod y Rhyfel. Mae’n debygol fod Fred ac Alf yn ffrindiau gan fod ‘The Roamer’ yn nodi eu bod ill dau yn aelodau o Frigâd y Bechgyn yr Eglwys (14eg Cwmni Caerdydd) a bod y ddau wedi ymrestru’n gynnar yn y Rhyfel gyda Chatrawd Dyfnaint. Fodd bynnag, yn y ffotograff o Alf a welir yn ‘The Roamer’ ym mis Chwefror 1915 (Cyf.4, t.4) fe’i gwelir gyda thri o recriwtiaid eraill Catrawd Dyfnaint, yr Is-gorporal John W Laidlaw, y Preifat James Brixton a Phreifat Herbert J Morrisey.
Yn rhyfedd nid yw ‘The Roamer’ yn nodi beth ddigwyddodd i John Laidlaw. Fodd bynnag, rydym yn gwybod fod Alf, Jim Brixton a Bert Morrisey hefyd yn ffrindiau agos. Roeddent oll wedi bod yn aelodau o’r un dosbarth Ysgol Sul yn yr eglwys yn Roath Road dan Mr Haime (Cyf.2, t.7) ac wedi bod yn aelodau o Frigâd Bechgyn yr Eglwys. Rydym bron yn bendant mai 14eg Cwmni Bataliwn Caerdydd – Cwmni Roath Road – sydd i’w weld yn y ffotograff yn nyddlyfr ffotograffau Alf Griffiths o orymdaith Brigâd y Bechgyn.
Roedd y Frigâd yn cael cefnogaeth dda gyda bron i 50 aelodau yn perthyn iddi ar unrhyw adeg. Roedd rhaid i’r bechgyn fynychu Dosbarth Beibl ar foreau Sul a chyfarfodydd bob noson o’r wythnos ar gyfer ymarfer y band a driliau, gymnasteg a chymorth cyntaf. Yn ddynion ifanc roeddent wedi dal gafael yn eu cysylltiadau â’r Eglwys ac ar gychwyn y rhyfel Bert Morrisey oedd y Staff-ringyll ym Mrigâd y Bechgyn (Cyf.25, t.2). O ystyried eu bod wedi ymuno ag 11eg Bataliwn Catrawd Dyfnaint mae’n debygol iawn eu bod wedi gwneud y penderfyniad i ymrestru ym Myddin Newydd Kitchener gyda’i gilydd. Roedd cylchgrawn yr Eglwys yn falch iawn o gyhoeddi bod y pedwar yn ‘Roath Roamers’ ac mae’r pennawd ar gyfer y llun yn disgrifio’r recriwtiaid newydd fel:
‘Four Fine Fellows who have all done well in the 14th Cardiff Company of the Boys’ Brigade and who are now serving King and Country….’
Roedd y Brixtons yn deulu lleol o Treharris Street, Y Rhath er bod Jim, erbyn 1914, yn byw yn Thesiger Street. Roedd y tri mab yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog. Roedd eu chwaer, Dorothy, yn helpu gyda’r Ysgol Sul yn Roath Road (DWESCR299) gan ymuno â Byddin y Tir yn ddiweddarach. Ymddangosodd yn ‘The Roamer’ fel un o’r ‘Lady Roamers’. Yn y cyfnod ar ôl tynnu’r ffotograff, mae’n debygol fod y pedwar gŵr ifanc wedi cael eu gwahanu, oherwydd ym mis Mai 1915, cyhoeddodd ‘The Roamer’ fod Jim Brixton yn aelod o 2il Fataliwn Catrawd Dyfnaint a’i fod wedi cael ‘…yr anrhydedd o fod y dyn cyntaf o Roath Road ym Myddin Newydd Kitchener i fynd i’r ‘Ffrynt” (Cyf.7, t.6).
Erbyn mis Ebrill 1915, nodwyd mewn adroddiad yn ‘The Roamer’ fod Bert ac Alf wedi cael eu dyrchafu i swydd Is-gorporal (Cyf.6, t.8) ac erbyn mis Tachwedd 1915 roedd y ddau ‘ar Flaen y Gad’ ac roedd Bert newydd gael ei ddyrchafu i swydd Corporal (Cyf.13, t.8). Roeddent hefyd wedi cael eu symud i 9fed Bataliwn Catrawd Dyfnaint. Yn y cyfnod yn arwain at y cyrch ar y Somme ym mis Gorffennaf 1916, cafodd Alf ei ddyrchafu i swydd Corporal a Bert i swydd Rhingyll (Cyf.20, t.8). Mae’n bosibl eu bod wedi dod ar draws Fred Townsend a oedd wedi dychwelyd i’r 9fed Bataliwn ar ôl gwella yn dilyn cael ei anafu (bwled drwy’r glun) ym mis Hydref 1915 (Cyf.20, t.8 a Cyf.13, t.3). Roedd Jim Brixton yn y Ffrynt yn ystod y cyfnod hwn hefyd ar ôl iddo ddychwelyd i 2il Fataliwn Catrawd Dyfnaint (Cyf.20, t.5).
Dechreuodd Brwydr y Somme ar 1 Gorffennaf 1916 ac mewn adroddiad yn ‘The Roamer’ nodwyd bod Alf wedi’i anafu’n wael ar ddiwrnod cyntaf y cyrch wrth wasanaethu gyda Magnel Morter Ffosydd 20/1. Ym mis Awst 1916, fis yn ddiweddarach, cyhoeddodd ‘The Roamer’ lythyr a ysgrifennwyd gan Alf yn ei wely mewn ysbyty yn Aberdeen:
‘I am wondering if you have heard the bad news that I am lying in hospital wounded. The wounds are not of the worst. I had one bullet wound in the face and it has broken the lower jaw-bone. The second one is a bullet wound in the in the left foot…. I was wounded on the July 1st, the first day of the Big Advance unfortunately. I am very lucky to be alive as many young fellows alongside me were killed’ (Cyf.22, t.3).
Mae’n debygol fod y ffotograff o nyrsys y Groes Goch yn Nyddlyfr Ffotograffau Alf wedi’i dynnu yn Aberdeen. Gan fyfyrio ar lansiad y cyrch nododd ‘The Roamer’:
‘Of all months July of course has been the most anxious for us. The number of those actually in France at the time the Big Push started was as follows – Officers 8, NCO’s 18 and men 58. A total of 84. Why the run on the figure 8 we do not quite know but there it is. Some of those who profess to draw omens from such things can perhaps help us. The days have been dark ones for us from a personal standpoint , though bright and glorious enough with Victory. As we go to press not much news of our lads has come to hand, and while we might fear some may be bad enough when it reaches us, we hope and pray for the best’ (Cyf.22, tt.2-3).
Byddai Alf wedi bod yn Aberdeen pan ddaeth y newyddion fod Bert Morrisey ar goll a’r cyhoeddiad diweddarach ei fod wedi’i ladd ar faes y gad ar 4 Medi yn y Somme. Roedd yn 21 mlwydd oedd ac, ar y pryd, y 13ain Roamer a laddwyd ar faes y gad (Cyf.25, t.2 a Cyf.26, t.6). Roedd hefyd yn un o’r 22 o gyn-aelodau’r 14eg Cwmni Brigâd y Bechgyn a laddwyd yn ystod y rhyfel (DWESCR302). Yn ystod yr un mis, enwebwyd Jim Brixton ar gyfer Medal Filwrol am:
‘…some very plucky work as a stretcher bearer one night on the Front, in the open facing the German machine guns ….’.
Roedd anafiadau Alf yn fwy difrifol na’r hyn a bortreadwyd yn ei lythyr. Ar 10 Ionawr 1917 roedd dal yn yr ysbyty yn Aberdeen:
‘Instead of that operation I told you about, the doctor through the X Rays, has found it necessary to put the splint back in my mouth and cement it. That means I shall have to go through the cure again. It is very disappointing but I intend to have the proper cure. I expect to be here some little time yet. Am anxiously waiting for the Roamer’ (Cyf.29, t.6).
Ym mis Mai 1917 y cyhoeddodd ‘The Roamer’ bod Alf adref yng Nghaerdydd – ‘….his patience has been rewarded at last’ (Cyf.31, t.8). Erbyn mis Gorffennaf 1917 cyhoeddwyd bod Alf yn ôl ar y Ffrynt unwaith eto (Cyf.33, t.7) ac ym mis Medi 1917 adroddwyd ei fod wedi’i anafu ac yn yr ysbyty gyda’i hen gyfaill o Frigâd y Bechgyn, Jim Brixton (Cyf.35, t.5). Roedd ‘The Roamer’ yn gwgu ar driniaeth a gafodd Alf yn y Fyddin:
‘As we expected Corporal Alfred Griffiths (9th Batt Devon Regiment) is back from France and is in hospital in London. He was badly wounded in the jaw on 1st July 1916, but after nearly 12 months in hospital was sent out again before he was right’ (Cyf.39, t.4).
Roedd ‘The Roamer’ yn cadw llygad barcud ar hynt a helynt Alf: Mewn adroddiad ym mis Gorffennaf 1918 dywedodd:
‘Corporal Alfred T Griffith (Devon Regiment) who was wounded on 1st July 1916, on the first day of the Big Push of two years ago, had been hospital most of the time since except for a short revisit to France. At present he is in London and he has recently undergone another operation on his jaw, which we trust will be more successful than the previous ones’ (Cyf.45, t.8).
Ni chafodd Alf adferiad llawn o’r anafiadau a gafodd yn y Somme a dau fis yn ddiweddarach nodwyd yn ‘The Roamer’:
‘Corporal Alfred T Griffiths after a long and trying time in hospital, as mentioned in previous issues (it is two years and two months ago that we was wounded) has been fortunate in getting his discharge from the Army’ (Cyf.47, t.8).
O blith cyfeillion Alf llwyddodd Fred Townsend a Jim Brixton oroesi’r Rhyfel. Fodd bynnag, anafwyd Fred yn ddifrifol yn Ypres ym mis Tachwedd 1917. Mewn llythyr a anfonodd at ‘The Roamer’ rhoddodd y manylion:
‘I was rather unlucky for we had been through two attacks and we were being relieved that night. I was sent back to guide the relief up when I got hit. It made a bit of gash from my shoulder down half way to the elbow, and cut the artery, and so made me lose a lot of blood’ (Cyf.38, tt.2-3).
Yn dilyn cyfnod maith yn yr ysbyty fe’i rhyddhawyd o 9fed Bataliwn Catrawd Dyfnaint ym mis Tachwedd 1918, ond, o ganlyniad i’r anaf a gafodd i’w fraich ac ysgwydd chwith, nid oedd ei fraich yn dda i lawer o ddim (Cyf.48, t.7). Ymddangosodd yr Is-gorporal James Brixton yn y dudalen ‘Page of Smilers’ yn y Roamer ym mis Mawrth 1919 – sef y rheiny oedd wedi’u dadfyddino. Dyfarnwyd y Fedal Filwrol iddo ym 1917 am ei ddewrder ar faes a gad ym mis Medi 1916. Yn ddiweddarach, cadarnhawyd bod hyn yn cynnwys rhoi help llaw i filwr a anafwyd yn ystod brwydro ffyrnig (Cyf.27, t.3 a Cyf.43, tt.3-4). Dyfarnwyd y fedal iddo mewn cyfarfod cyhoeddus yng Nghaerdydd ar 26 Tachwedd 1917. Dyfarnwyd yr un fedal i Alfred, brawd Jim, yn ddiweddarach yn ystod yr un flwyddyn (Cyf.38, t.8 a Cyf.39, t.2).
Cynhaliodd ‘The Roamer’ ei aduniad ‘Croeso Adref’ cyntaf ar gyfer milwyr a ddadfyddinwyd ym mis Ebrill 1919. Roedd Jim Brixton yn un o’r cyntaf i ysgrifennu at ‘The Roamer’ i ddweud ei fod yn gobeithio y byddai’r cylchgrawn ac aduniadau rheolaidd yn parhau (Cyf.54, t.5). Er bod cofnodion Archifau Morgannwg yn dweud wrthym y cyhoeddwyd rhifyn olaf ‘The Roath Roamer’ ym mis Hydref 1919, roedd yr Eglwys yn parhau i gynnal cyfres o aduniadau gan gynnwys cyfarfodydd rheolaidd ar gyfer cyn-aelodau Brigâd y Bechgyn (DWESCR302). Er nad oes unrhyw dystiolaeth o hynny, mae’n bosibl bob Alf, Jim a Fred wedi gallu dod at ei gilydd i hel atgofion am eu cyfnod ym Mrigâd y Bechgyn a’u profiadau yn ystod y rhyfel.
Os hoffech ddysgu mwy am y 460 o ddynion a 19 o ferched o ardal y Rhath a fu’n gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf, mae gan Archifau Morgannwg gopïau o’r 57 rhifyn o ‘The Roath Road Roamer’ a gyhoeddwyd o fis Tachwedd 1914 i fis Hydref 1919 (DAWES6).
Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg