Mae Archifau Morgannwg yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i ysgolion, colegau a phrifysgolion – eu myfyrwyr a’u hathrawon – o fewn yr awdurdodau lleol yr ydyn ni’n eu gwasanaethu.
Rydym yn croesawu ymweliadau gan grwpiau ysgol o bob oedran. Mae ymweliadau ysgol am ddim ac yn parhau am hyd at ddwy awr. Gallwn croesawi 30 plentyn mewn un ymweliad.
Gallwch ddod ar ymweliadau hunan- dywysedig, gyda’r athro yn arwain myfyrwyr drwy ymchwil ag adnoddau gwereiddiol o gasgliad Archifau Morgannwg, dan gyngor archifyddion proffesiynol. Mae’r Archifau hefyd yn cynnig gweithdai strwythuredig. Wedi ei cyflwyno gan ein staff gallwn eu deilwra i milltir sgwâr yr ysgol sy’n ymweld a ni.
Hyd ar hyn, dim ond ar safle Archifau Morgannwg bu’r gweithdai ar gael. Ond erbyn hyn, gyda ddiolch i gyllid grant gan Llywodraeth Cymru a ddosbarthwyd trwy Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru, mae ein gweithdai ar gael i’w lawrlwytho o’n gwefan i’w ddefnyddio yn y dosbarth.
Mae pob gweithdy yn cynnwys cyfres o ddogfennau wedi ei digido o gasgliad Archifau Morgannwg, ynghyd a nodiadau athrawon. Anelwyd yr adnoddau at Cyfnod Allweddol 2 ond gellir eu addasu at ddefnydd ar unrhyw lefel.
Y themau sy’n cael ei chynnwys yw:
Yr Ail Ryfel Byd
Dysgwch fwy am effaith yr Ail Ryfel Byd ar Gaerdydd a de Cymru. Darganfyddwch sut effeithiwyd ar ysgolion; dysgwch am gyrchoedd awyr a’r camau diogelu a gymerwyd; dysgwch fwy am ffoaduriaid; dysgwch am y brwydrau ar y Ffrynt Cartref drwy ‘Dig for Victory’ a ‘Make Do and Mend’; a sut effeithiwyd ar y werin yn ne Cymru gan y dogni.
Ymysg y ffynonellau a ddefnyddir mae cofrestrau ysgol, mapiau, ffotograffau, llythyrau a llawer mwy.
Cyfoeth a Thlodi yn Oes Fictoria
Dysgwch sut roedd y bobl gyfoethog yn byw yn ne Cymru yn Oes Fictoria; a dysgwch sut roedd pobl dlawd de Cymru’n byw eu bywydau. Dysgwch sut le oedd yr ysgol yn Oes Fictoria; dysgwch am fywydau gwaith y bobl yn ne Cymru; darganfyddwch y tai roedd y bobl Fictoraidd yn byw ynddynt, ac am y dodrefn a’r offer yr oeddent yn berchen arnynt.
Ymysg y ffynonellau a ddefnyddir mae ffurflenni’r cyfrifiad, mapiau, ffotograffau, cofrestrau ysgol, dyddiaduron a llawer mwy.
O’r Pyllau Glo i Ddociau Caerdydd: Diwydiant a Llongau yn Ne Cymru
Dysgwch fwy am lo: o ble y daeth? Sut y’i defnyddiwyd? I ble yr oedd yn mynd? Dysgwch sut roedd glo Cymru yn pweru’r byd a sut roedd yn cael ei allforio drwy Ddociau Caerdydd.
Ymysg y ffynonellau mae: mapiau, ffotograffau, ffurflenni’r cyfrifiad, cyfeiriaduron masnach, cofnodion llongau a llawer mwy.
Y Rhyfel Byd Cyntaf
Darganfyddwch mwy am effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar bobol a chymunedau de Cymru. Dysgwch am fywyd wrth y ffrynt, am y bobol o de Cymru bu’n gwasanaethu yn y Rhyfel, ac am y gofal a chynigwyd i filwyr a anafwyd; darganfyddwch sut effeithiwyd ar fywyd cartref ac yn yr ysgol gan y Rhyfel; ymchwiliwch i’r newidiadau i fywydau menywod yn ystod y Rhyfel.
Ymysg y ffynonellau a ddefnyddir mae llyfrau log ysgol, ffotograffau, llythyron, dyddiaduron a llawer mwy.
Siopa yn y Gorffennol
Dysgwch am sut mae ein dull o siopa wedi newid dros y blynyddoedd. Ymchwiliwch i’r newidiadau i’r stryd fawr ac i ganol ddinas Caerdydd; darganfyddwch mwy am ddatblygiad clidio i’r cartref; darganfyddwch am ddogni bwyd yn ystod adegau anodd; dysgwch am y danteithion ar gael mewn caffis ers talwm.
Ymysg y ffynonellau a ddefnyddir mae ffotograffau, cyfeirlyfrau masnach, cynlluniau adeiladu, y cyfrifiad a llawer mwy.
Mae’r adnoddau ar gael i’w lawrlwytho o wefan Archifau Morgannwg http://www.archifaumorgannwg.gov.uk/gweithdai/