Ambiwlans yr Arglwydd Faer

Ar noson yr 17eg Mai 1915 daeth plant ysgol Ganolog Dowlais, Ysgol Gellifaelog ac Ysgol Pant ynghyd yn Neuadd Oddfellows, Dowlais ar gyfer yr hyn a ddisgrifiwyd fel Cyngerdd yr Ysgolion Unedig. Cynhaliwyd rhaglen o 16 o sgetsys a chaneuon gan gynnwys ‘The Soldiers’ Chorus’ a berfformiwyd gan Ysgol Fechgyn Dowlais, ‘The Saucy Sailor Boy’ gan Ysgol Fabanod Gellifaelog, cân actol o’r enw ‘Knit Knit’ gan Ysgol Pant a ‘Gypsy Chorus’ gan Ysgol Ferched Dowlais. Daeth y noson i ben drwy ganu God Save the King. Roedd y cyngerdd yn llwyddiant ysgubol, a chafodd ei ailberfformio ar y ddwy noson ganlynol. Cofnododd Pennaeth Ysgol Fabanod Dowlais y canlynol yn llyfr cofnodion yr ysgol ar 20 Mai: ‘the concerts were very well attended and the four items from this school were very well done’.

Roedd y Cyngerdd yn Nowlais ond yn un o nifer o Gyngherddau’r Ysgolion Unedig a drefnwyd ledled bwrdeistref Merthyr Tudful ym mis Mai 1915. Yn ogystal, cynhaliodd athrawon a disgyblion amryw o ddigwyddiadau eraill i godi arian, gan gynnwys ‘soiree’ – sef gyrfa chwist a dawns – a gynhaliwyd gan Ysgolion Abercanaid a Phentrebach yn y New Hall, Pentrebach ar 15 Mai. Y nod oedd codi arian i brynu ambiwlans i’w ddefnyddio ar faes y gad yn Ffrainc. Pan aeth Prydain i ryfel ym mis Awst 1914, darparwyd y gwasanaethau ambiwlans gan gerbydau a dynnwyd gan geffylau, ac ambell lori. Sylweddolwyd yn fuan iawn y byddai angen nifer fawr o ambiwlansys modurol arbenigol. Bu’r Groes Goch yn arwain y gwaith codi arian, gan gynnwys apêl papur newydd The Times a lansiwyd ym mis Hydref 1914, i godi arian i brynu fflyd o ambiwlansys a chyfarpar ar eu cyfer i’w defnyddio yn Ffrainc a Gwlad Belg.

Ymatebodd Arglwydd Faer Merthyr Tudful, y Cynghorydd John Davies, i’r her, a gofynnodd am help gan ysgolion i godi digon o arian er mwyn galluogi Merthyr Tudful i brynu ambiwlans a’r cyfarpar angenrheidiol. Cafwyd cyfraniadau gan lawer o unigolion a sefydliadau, gan gynnwys cytundeb gyda Neuadd Oddfellows y byddai 30% o’r elw o’r perfformiadau a gynhaliwyd ar y tridiau ar ôl y Cyngherddau Ysgolion hefyd yn cael ei gyfrannu i Gronfa Ambiwlans yr Arglwydd Faer. Fel gyda llawer o weithgareddau codi arian yn ystod y rhyfel, gan gynnwys darparu nwyddau i’r milwr a helpu ffoaduriaid o Wlad Belg, chwaraeodd ysgolion rôl flaenllaw yn y gwaith codi arian.

Roedd Apêl yr Arglwydd Faer yn llwyddiant ysgubol. Anfonwyd yr arian a godwyd i’r Groes Goch. Ysgrifennodd Charles Russell, ar ran Cymdeithas y Groes Goch ac Urdd Sant Ioan o Gaersalem at yr Arglwydd Faer ym mis Medi i ddiolch i athrawon a phlant yr ysgol am eu ‘hymdrechion bendigedig’. Cytunwyd y cai’r Ambiwlans ei hanfon i Ferthyr Tudful ym mis Hydref 1915 ar ôl ei pharatoi a gosod y cyfarpar yn barod i’w defnyddio yn Ffrainc. I gydnabod eu cyfraniadau brwdfrydig, rhoddodd yr Arglwydd Faer ddiwrnod o wyliau arbennig i holl ysgolion y fwrdeistref ar 18 Mehefin.

Gellir gweld copi o’r hysbyseb wreiddiol ar gyfer Cyngerdd yr Ysgolion Unedig a gynhaliwyd yn Neuadd Oddfellows’ ym mis Mai 1915 yn Archifau Morgannwg.

Os hoffech ragor o wybodaeth am sut y bu ysgolion yn cefnogi’r ymdrech ryfel yn eich ardal chi a ledled Morgannwg, gallwch weld crynodebau ar gyfer pob ardal awdurdod lleol (e.e. Merthyr Tudful) a thrawsysgrifau o ddyfyniadau o’r llyfrau cofnodion a gwblhawyd gan Benaethiaid ysgolion unigol ym 1914-18 ar wefan Archifau Morgannwg http://www.archifaumorgannwg.gov.uk

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg