Os dychmygwch fod cyfarfodydd cynnar Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd i gyd y tu ôl i ddrysau caeedig yn Heol Eglwys Fair, ac aelodau’r gymdeithas yn syllu drwy eu microsgopau a gwrando ar siaradwyr dysgedig, dyma chwalu’r syniad hwnnw gan lyfrau cofnodion y Gymdeithas sydd yn Archifau Morgannwg. O’r cychwyn cyntaf, trefnodd y Gymdeithas gyfres o Deithiau Maes bob blwyddyn ar draws de Cymru. Mae’r llyfrau cofnodion yn cynnwys crynodebau a chynlluniau nifer o dripiau o’r fath. Y ddelwedd a gawn yw y cafodd pawb a oedd yno ddiwrnod llawn mwynhad ond hynod brysur. Mae’r cofnodion o 6 Mehefin 1873 yn nodi’r trefniadau ar gyfer Taith Maes Gyntaf 1873, ar 17 Mehefin, i Abaty Tyndyrn, a ddisgrifiwyd fel “One of the most romantic ruins in Britain.”
The Members and Visitors will leave the Cardiff Station of the South Wales Railway by the 9.27am Train, to arrive at Chepstow at 11.17. Here carriages will be in waiting to convey the party to the top of Wyndcliffe.
The view from the summit of Wyndcliffe cannot be surpassed; it is nearly 900 feet above the level of the river, and from it may be viewed some of the most beautiful and extensive prospects in Great Britain, and a wonderful range over portions of nine counties.
The party will then pass down through the wood to the Moss Cottage, which will be thrown open to visitors presenting their tickets, and thence on to the new road, where the carriages will be waiting to convey the party on to the Abbey.
After dinner (at the Beaufort Arms) John Prichard, Esq., of Llandaff, Diocesan Architect, will deliver a Lecture on the Abbey, illustrated by Diagrams and an examination of the building will take place; after which Mr W Adams, the President, will read his paper on the Ancient Iron Works of the District.
The Party will leave Tintern Abbey at about 6.30pm per carriages for Chepstow Station, and arrive at Cardiff at 9.35 [Cofnodion cyfarfod, 6 Mehefin 1873, DCNS/3/1].
Am bris o chwe swllt a chwe cheiniog a chost y daith drên, roedd yn ddiwrnod llawn o ystyried bod yn rhaid ymdrin â busnes misol arferol y Gymdeithas dros bryd o fwyd, gan gynnwys ystyried pum cais aelodaeth. Fodd bynnag, nid fu teithiau o’r fath bob amser yn llwyddiant ysgubol, a nodwyd ei bod yn …absolutely necessary that members and their friends should intimate to the Hon Secretary … their intention to be present. Cafodd y daith a gynlluniwyd i Aberddawan ym mis Gorffennaf y flwyddyn gynt ei chanslo gan nad oedd digon wedi cofrestru, a hynny am ei bod yn cyd-daro â chyfarfod y Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol yng Nghaerdydd.
Ond bryd hyn fodd bynnag, cafwyd taith lwyddiannus dros ben. Nodwyd yng nghofnodion y diwrnod bod darlith John Prichard wedi’i chyflwyno yng nghorff yr Abaty i: …a large and appreciative audience. Fe’i dilynwyd gan daith o amgylch yr Abaty a: …having spent a most agreeable and enjoyable day the party then commenced their return journey to Cardiff.
Gellir dod o hyd i fanylion nifer o deithiau maes y Gymdeithas yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys Abaty Tyndyrn ar 17 Mehefin 1873 a Llantrisant ar 5 Gorffennaf 1870, yng nghofnodion Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd sydd yn Archifau Morgannwg [DCNS/3/1].
Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg