Capel Anwes Pen-llin – Ffotograffau gan Edwin Miles o Ben-y-bont ar Ogwr

Mae’r ffotograffau sy’n cael sylw’r wythnos hon yn dangos Eglwys Sant Ioan yr Efengylwr ym Mhen-llin. Fodd bynnag, pan dynnwyd y ffotograffau, fe’i gelwid yn syml yn Gapel Anwes Pen-llin – yn ei hanfod, capel a adeiladwyd o fewn ffiniau plwyf er hwylustod y rheiny nad oeddent yn gallu teithio’n hawdd i’r brif eglwys.

M410

Credir bod y capel yn dyddio’n ôl i’r ail ganrif ar bymtheg. Erbyn y 1840au, fodd bynnag, roedd wedi dadfeilio a nodwyd ei fod mewn … cyflwr diamddiffyn … gyda’r tu allan yn edrych fel ysgubor wedi’i gwyngalchu. Dechreuwyd ar y gwaith cychwynnol o atgyweirio muriau’r ffin ar 25 Ionawr 1842 i nodi bedydd Tywysog Cymru. Fodd bynnag, awgrymodd adroddiadau papurau newydd fod y dathliadau’n dwyn y sylw oddi ar y gwaith … hir oes a hapusrwydd i’r Baban Brenhinol … meddwi ynghanol dathlu brwdfrydig a thanio gynnau gan y pentrefwyr a’r cymdogion oedd yn y man.

Yn y pen draw, achubwyd ac adnewyddwyd y capel gan John Homfray, a brynodd Gastell Pen-llin ym 1846. Wrth ailagor ar 13 Ionawr 1850, canmolwyd y capel a nodwyd ei fod wedi’i drawsnewid yn strwythur gothig golygus gyda … ffenestri gwydr lliw hardd… ac … allor garreg gaboledig. Yn ogystal, plannodd Homfray lwyni a choed bytholwyrdd yn y tiroedd o amgylch y capel i ategu’r gerddi addurnol yng Nghastell Pen-llin.

M402

Roedd adnewyddu’r capel yn un elfen o raglen sylweddol a ariannwyd gan Homfray a oedd yn cynnwys adeiladu’r porthdy a welir yn yr ail ffotograff, ac a ddisgrifiwyd yn “Duduraidd” o ran ei arddull. Mae’n siŵr ei fod yn addas i Homfray a’r bobl leol o ran osgoi’r hyn a ddisgrifiwyd fel … taith fwyaf anghyfleus… i’r eglwys yn Llanfrynach, yn arbennig ym misoedd y gaeaf. Ond byddai gwasanaethau mawr ac angladdau dal wedi cael eu cynnal yn Sant Brynach. O ganlyniad, roedd gan y llwybrau ar draws y caeau, rhwng y capel a Llanfrynach, dri glanfa garreg wrth ffin pob cae i osod eirch arnynt tra bod y parti’n croesi’r gamfa.

Wrth ddyddio’r ffotograffau, rydym yn ffodus am fod gan Gasgliad y Werin Gymru fersiwn cerdyn post o lun o’r Eglwys a’r Porthdy. Credir iddo gael ei anfon gan aelod o deulu Homfray at berthynas yn Awstralia tua 1910.  Mae’r ddau ffotograff, felly, bron yn sicr yn enghreifftiau cynnar o waith Edwin Miles ac maent yn dyddio o 1901 i 1910.

Mae’r ffotograffau o Gapel Pen-llin a Capel Pen-llin a’r Porthdy i’w gweld yn Archifau Morganneg dan gyfeirnodau D261/M402 and M410. Rydym yn bwriadu cynnwys mwy o ffotograffau o gasgliad Edwin Miles dros y misoedd nesaf.  Gellir gweld y prif gasgliad yn Archifau Morgannwg neu ar-lein yn y catalog yn http://calmview.cardiff.gov.uk/ o dan gyfeirnod D261. Gellir gweld y cerdyn post sydd yng Nghasgliad y Werin Cymru drwy chwilio am “Edwin Miles” yn www.casgliadywerin.cymru.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s