Goleudai Trwyn yr As: Yr Olaf o’u Math yng Nghymru – Ffotograffau gan Edwin Miles o Ben-y-bont ar Ogwr

Bydd y golygfeydd yn y lluniau a ddewiswyd yr wythnos hon yn gyfarwydd i lawer sy’n cerdded llwybrau arfordirol de Cymru ac yn mwynhau’r traeth a’r olygfa yn Nhrwyn yr As. Lluniau ydynt o’r goleudai sydd wedi rhoi rhybudd i longau am beryglon Banc Tywod yr As ers 190 o flynyddoedd.

M143

Codwyd y ddau oleudy mewn ymateb i un o’r trychinebau gwaethaf ym Môr Hafren pan, ar noson 17 Mawrth 1831, y suddodd y llong stemar olwyn Frolic, gyda 78 o griw a theithwyr, mewn storm oddi ar Drwyn yr As. Dechreuwyd ar y gwaith adeiladu yn ddiweddarach yr un flwyddyn, gyda’r goleudai wedi’u cwblhau mewn ychydig llai na 12 mis.  Cafodd y llusernau eu goleuo am y tro cyntaf ar 1 Medi 1832 a gellid eu gweld ugain milltir i ffwrdd.

M144

Os edrychwch yn fanwl ar y ffotograffau gallwch weld sawl newid a wnaed dros y blynyddoedd.  Y mwyaf amlwg efallai yw colli’r bandio du a gwyn ar y tŵr mwy ei faint sy’n eithaf amlwg yn y ffotograffau. Yn ogystal, mae ei haen uchaf a’i lusern yn dal i fod gan y goleudy byrrach. Nod y cynllun gwreiddiol oedd i’r ddau oleudy weithio ar y cyd i roi rhybudd i longau am y peryglon oddi ar Drwyn yr As. Yn y 1920au, pan nad oedd hyn yn angenrheidiol bellach, datgomisiynwyd y llusern yn y goleudy llai, a’i dynnu oddi yno ryw ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach ym 1955.

Mae’r trydydd ffotograff yn olygfa adnabyddus arall, sef y Seiren Niwl a oedd wedi’i lleoli rhwng y ddau oleudy.

M145

Roedd hwn yn ychwanegiad cymharol hwyr. Rhoddwyd rhybudd i forwyr am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 1903 bod y seiren yn weithredol ac y byddai’n rhoi pedwar caniad bob 90 eiliad yn ystod gwelededd gwael. Er iddo brofi’n amhrisiadwy i longau, mae’n ddigon posibl ei fod wedi cael derbyniad mwy llugoer gan drigolion lleol a oedd o fewn clyw’r seiren. Mae’r seiren yn dal i gael ei brofi bob mis ond nid yw’n cael ei ddefnyddio’n gyffredinol bellach.

Mae gan oleudai Trwyn yr As ddigwyddiadau “cyntaf” ac “olaf” nodedig yn eu hanes. Ym 1924 Trwyn yr As oedd y goleudy cyntaf ym Mhrydain i brofi tywysydd diwifr (wireless beacon) yn llwyddiannus, sef cyfarpar a osodwyd gan gwmni Marconi i gynorthwyo môr-lywio. Saith deg pedwar o flynyddoedd yn ddiweddarach Trwyn yr As oedd y goleudy olaf yng Nghymru i fod â cheidwad goleudy. Hwn, felly, oedd yr olaf o’i fath. Ers 5 Awst 1998, mae’r goleudy wedi cael ei awtomeiddio’n llawn gyda’r golau’n cael ei fonitro a’i reoli gan dîm Trinity House yn Harwich, Essex.

Mae gosod dyddiad i’r lluniau a dynnwyd gan Edwin Miles yn anodd. Ein dyfaliad gorau yw eu bod yn y degawd rhwng 1904 a 1914, ond o bosib gallent fod wedi eu tynnu yn y 1920au. Mae’n debyg bod yr ateb i’w ganfod os oes modd gweld yr erial a godwyd gan Marconi ym 1924 yn y ffotograffau. Os oes unrhyw dditectifs goleudai allan yna sy’n gallu helpu gyda hyn, rhowch wybod i ni.

Mae goleudai Trwyn yr As yn parhau i chwarae eu rôl yn helpu morwyr i fôr-lywio ar hyd glannau de Cymru, ond maent hefyd wedi cael swyddogaethau newydd. Gallwch logi un o hen fythynnod ceidwaid y goleudy i gael gwyliau yno. Mae yno ganolfan ymwelwyr hefyd, a gallwch hyd yn oed gynnal priodasau yn y goleudy.  Pwy a ŵyr, o bosib y gallech chi drefnu i’r pâr priod newydd gael eu cyfarch gan bedwar caniad o’r seiren yn hytrach na’r clychau traddodiadol!

Mae’r ffotograffau o oleudai Trwyn yr As a’r Seiren Niwl a dynnwyd gan Edwin Miles i’w gweld dan gyfeirnodau D261/M143-M145. Mae Archifau Morgannwg hefyd yn dal deunydd ychwanegol ar y goleudai, gan gynnwys Cofnodion Trinity House ar gyfer Trwyn yr As ac Ynys Echniar o 1958 i 1998 (cyf. D576).

Rydym yn bwriadu cynnwys mwy o ffotograffau o gasgliad Edwin Miles dros y misoedd nesaf.  Gellir gweld y prif gasgliad yn Archifau Morgannwg neu ar-lein yn y catalog yn http://calmview.cardiff.gov.uk/ o dan gyfeirnod D261.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s