“Cyfarchion o Bencoed” – Ffotograffau gan Edwin Miles o Ben-y-bont ar Ogwr

Mae’r llun a ddewiswyd o gasgliad Edwin Miles yr wythnos hon ychydig bach yn rhyfedd. Dyma’r unig enghraifft sydd gennym o Miles yn defnyddio sawl ffotograff wrth gynhyrchu cerdyn post â llun. Credwn hefyd iddo gael ei gynhyrchu yn 1906 ar y cyd â’r artist lleol adnabyddus ac uchel ei barch, George Howell-Baker.

M1045

“Arlunydd, bardd, darlunydd ac athro celf” oedd George Howell-Baker, er mae’n debyg ei fod yn fwyaf adnabyddus fel artist.  Mae yna enghreifftiau o’i waith yng nghasgliadau Amgueddfa Genedlaethol Cymru, y Casgliad Brenhinol, Academi Frenhinol Gorllewin Lloegr ac Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe.  Cyhoeddwyd hefyd nifer o’i luniau dan y teitl “Penholm”.

Yn 1906 roedd Howell-Baker yn byw ar Heol Llangrallo, Pen-y-bont ar Ogwr. Yn ogystal â’i waith ei hun, byddai hefyd yn traddodi darlithoedd cyhoeddus a chynnal dosbarthiadau celf mewn nifer o leoliadau ar draws de Cymru. Roedd hefyd yn chwaraewr banjo talentog ac yn aml yn perfformio mewn digwyddiadau lleol.  Dwy flynedd ynghynt, yn 1904, bu’n amlwg mewn papurau newydd lleol a chenedlaethol pan alwyd ef i roi tystiolaeth fel tyst i lofruddiaeth yn agos i’w gartref.  Yr oedd felly, yn ffigwr adnabyddus yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr ac fe fyddai wedi bod yn hysbys i Edwin Miles, a oedd yn cymryd ei gamau cyntaf wrth adeiladu busnes ffotograffiaeth ar Heol Ewenni, Pen-y-bont ar Ogwr.

A yw’n rhesymol awgrymu i’r ddau ddyn gydweithio wrth gynhyrchu “Cyfarchion o Bencoed”? Ym 1904 roedd Howell-Baker wedi dablo gyda’r broses o gynhyrchu set o gardiau post. Fodd bynnag, yn hytrach na defnyddio ffotograffau, roedd y cardiau yn cynnwys ddarluniau pin ac inc ei hun o olygfeydd lleol, gan gynnwys Eglwys Tregolwyn a Ty Llanmihangel. Does dim tystiolaeth amlwg, felly, iddo gynhyrchu cardiau gan ddefnyddio ffotograffau.  Serch hynny, fe wnaeth ychwanegu brasluniau addurnedig i’w gardiau post sy’n debyg i’r dull a ddefnyddiwyd wrth fframio’r chwe llun sydd yn “Cyfarchion o Bencoed”.

O ran Edwin Miles, arbenigai ar luniau o drefi a phentrefi yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr. Mae nifer o’i ffotograffau’n canolbwyntio ar dirnodau lleol fel tai mawrion ac eglwysi, gydag ychydig iawn o bobl yn edrych ar y gwrthrych. Mae’r chwe llun sydd yn “Cyfarchion o Ben-coed” yn driw iawn i’r arddull a ddefnyddid gan Miles ar hyd a lled Morgannwg. At ei gilydd, ar gyfer cerdyn cyfarch, maent yn ddetholiad sobreiddiol iawn sy’n cynnwys gorsaf reilffordd Pencoed, dwy olygfa stryd a thri man o addoliad – Capeli Salem a’r Drindod ac Eglwys Dewi Sant. Nid oes lle yn y casgliad hwn ar gyfer tirnodau poblogaidd eraill Pencoed fel Gwesty’r Britannia na’r Railway Inn.

O ystyried fod gan Miles a Howell-Baker ddiddordeb mewn cynhyrchu cardiau post, mae’n ymddangos yn rhesymol tybio mai “Cyfarchion o Bencoed” ddaeth â’u doniau ynghyd, gyda Howell-Baker yn rhoi’r darluniadau i fframio’r chwe ffotograff. Os mai hyn yn wir yw’r achos, yna mae’n ymddangos na wnaeth y bartneriaeth honno ffynnu. Nid oes enghreifftiau pellach yng nghasgliad Edwin Miles o waith gyda Howell-Baker.  Fodd bynnag, os oes gan unrhyw un ragor o wybodaeth am darddiad “Cyfarchion o Bencoed” yna cysylltwch â ni. Byddem wrth ein boddau’n ychwanegu at y stori os oes mwy i’w ddweud.

Rydym yn bwriadu cynnwys mwy o ffotograffau o gasgliad Edwin Miles dros y misoedd nesaf.  Gellir gweld y prif gasgliad yn Archifau Morgannwg neu ar-lein yn y catalog yn http://calmview.cardiff.gov.uk/ o dan gyfeirnod D261. Gellir gweld “Cyfarchion o Bencoed” dan gyfeirnod D261/M1045.  Ychydig iawn sydd wedi’i ysgrifennu am George Howell-Baker ond mae yna dudalen Wicipedia ddefnyddiol sy’n tynnu cyfeiriadau ynghyd at y rhan fwyaf o’r ffynonellau gwybodaeth hysbys am yr artist hyd at ei farwolaeth ym 1919.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s