Mae’r blog olaf hwn o’r pump ar gasgliad Stephenson ac Alexander yn ymwneud â Maenordy Silstwn. Saif Maenordy Silstwn ym mhentref bychan Silstwn (Gileston), ger Sain Tathan, ar lannau de Cymru. Wedi’i hadeiladu’n wreiddiol yn y cyfnod canoloesol, mae’r rhan fwyaf o’r bensaernïaeth sydd i’w gweld heddiw yn deillio o’r ddeunawfed ganrif. Erbyn hyn, mae’r maenordy yn lleoliad priodasau a digwyddiadau poblogaidd, er bod y tŷ wedi bod yn gartref teuluol ers cannoedd o flynyddoedd. Mae casgliad Stephenson ac Alexander yn cynnwys ychydig o straeon diddorol am y plasty, yn enwedig yn ystod diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif.

Ffigwr 1 – Llun o Faenordy Dilstwn, yn dyddio o’r 19eg ganrif hwyr neu’r 20fed ganrif cynnar

Ffigwr 2 – Llun o Faenordy Dilstwn, yn dyddio o’r 19eg ganrif hwyr neu’r 20fed ganrif cynnar
Y cyntaf ohonynt yn manylu ar fuddiant teulu Quirke yn yr eiddo, ym mis Awst 1899, y gellir gweld pob un ohonynt trwy gasgliad o lythyrau yn y ffeil achos. Mae’n ymddangos bod Stephenson ac Alexander wrthi’n chwilio am denantiaid ar gyfer yr eiddo hwn yn 1899. Yn wir cofnodir nad oedd un cleient, John Randall, ‘yn meddwl y byddai maenordy Silstwn yn gweddu iddo’. Ymddengys i lythyr at y Cyrnol Quirke gael mwy o lwyddiant. Buont yn erfyn ar y Cyrnol i ddod i weld yr eiddo yn dilyn mynegiant o ddiddordeb gan dynnu sylw at lwybr Rheilffordd Bro Morgannwg ger llaw fel un hardd i feicio ar ei hyd. Eto i gyd, pan fydd rhywun yn darllen y llythyrau sy’n weddill, gwelwn mai Mrs Quirke, gwraig y Cyrnol mewn gwirionedd, a anfonodd y mynegiant cychwynnol o ddiddordeb. Heb fod ei gŵr yn ymwybodol, gofynnodd Mrs Quirke am fanylion yr eiddo a dymunai ei weld, gan nad oedd ei gŵr hyd yn oed yn bresennol yng Nghaerdydd ar y pryd. Roedd yr arwerthwyr yn hapus i gydymffurfio, gan ddisgrifio naw ystafell wely’r plasty, gardd furiog, bythynnod a saith erw o dir, a’r cyfan am £180 y flwyddyn. Er bod Mrs Quirke yn ymddangos wedi ei swyno gan y maenordy, nid yw’n glir a lwyddodd i berswadio ei gŵr i breswylio yno.

Ffigwr 3 – Hysbyseb ar gyfer gwerthu Maenordy Silstwn, c.1912

Ffigwr 4 – Cynllun llawr gwaelod o Faenordy Silstwn, yn debyg wedi ei ddefnyddio i osod pibellau dwr newydd ar gyfer Thomas Lewis
Awn ymlaen ddeuddeg mlynedd, ac mae Ffigwr 3 yn dangos llun o Faenordy Silstwn yn 1912, ynghyd â hysbyseb am yr eiddo a oedd yn disgrifio sut yr oedd yn edrych dros ‘y môr, gyda golygfeydd hardd o arfordir Exmoor a Swydd Dyfnaint’, a’i fod yn agos at atyniadau golff cyfagos. Roedd y gerddi hefyd ‘ymysg y mwyaf swynol yn y wlad’; mae’r llun yn Ffigwr 5 yn dangos ‘Gerddi Anne’, sy’n dal i fodoli heddiw. Bryd hynny, ymddengys fod dyn o’r enw Thomas Lewis yn byw yn y plasty, er erbyn 1922, roedd yn dymuno gadael. Mae’r arwerthwyr yn nodi yn yr hysbyseb sut y bu i Mr Lewis fuddsoddi’n helaeth yn yr eiddo; mae’n debyg ei fod wedi trwsio holl doeau’r adeilad. Cwblhawyd stocrestr o’r adeilad ym 1925, ac erbyn hyn ‘Mr Minchin’ oedd tenant Maenordy Silstwn. Ymhlith eiddo personol Mr Minchin yn y tŷ, roedd rhai gwrthrychau o ddiddordeb yn cynnwys: mat carw, set badminton, nofelau Charles Dickens, a hyd yn oed rhewgell hufen iâ. Nid yw’n glir, fodd bynnag, pa mor hir yr arhosodd Mr Minchin yn Silstwn.

Ffigwr 5- ‘Gerddi Anne’, Maenordy Silstwn, 20fed ganrif cynnar
Er nad yw Maenordy syfrdanol Silstwn bellach yn gartref teuluol nac yn gartref preswyl, mae bellach yn cynnig lleoliad perffaith ar gyfer priodas neu leoliad digwyddiad. Mae’r ffeiliau achos yn disgrifio sut, ar draws deng mlynedd ar hugain, i’r maenordy fod yn gartref i amrywiaeth o denantiaid, i gyd gyda’u straeon eu hunain a’u hychwanegiadau personol i’r eiddo. Trwy lwc, mae’r maenordy wedi’i gadw’n dda i ni ei fwynhau yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae ffeiliau achos maenordy Silstwn i’w gweld yng nghasgliad Stephenson ac Alexander yn Archifau Morgannwg trwy ddefnyddio’r cyfeirnodau: DSA/12/776, DSA/12/4300 a DSA/12/4429.
Hannah Bartlett, Myfyriwr Lleoliad SHARE Prifysgol Caerdydd
Da iawn. Tybed a oes ystyr i’r enw, Silstwn?
Helo Hefin. Yn ôl Richard Morgan yn ei lyfr ‘Place Names of Glamorgan’ daw’r enw o ‘dreflan neu fferm Joel’, a defnyddiwyd yr enw Saesneg a’r Gymraeg dros y canrifoedd. Gwelwyd y cyfenw Joel yn ddogfennau sy’n ymwneud a’r ardal.