Y postiad blog yma fydd y gyntaf o gyfres o bump sy’n ymwneud â chasgliad Stephenson ac Alexander yn Archifau Morgannwg. Mae’r casgliad yn helaeth, ac yn gartref i amrywiaeth eang o ddeunydd sy’n gysylltiedig â gweithgareddau’r cwmni ocsiwn a syrfëwr siartredig, yn benodol yn ymwneud â’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif. Nid yw mentro i’r casgliad yn datgelu cofnodion eiddo yn unig. Fel y bydd y pum postiad blog yma’n dangos, mae’r casgliad hefyd yn manylu ar bobl, a oedd yn byw, gweithio a phrofi bywyd tua chan mlynedd yn ôl.
I’w gwerthu yn yr ocsiwn ar Ddydd Iau 4 Gorffennaf 1889 a Dydd Iau 2 Gorffennaf 1891 yr oedd plasty gothig hardd, 20 Plas y Parc, Caerdydd (Ffigwr 1). Os ydych chi’n gyfarwydd â Chaerdydd, mae 20 Plas y Parc yn dal i sefyll heddiw, wedi’i leoli’n agos at Neuadd y Ddinas a’r Amgueddfa Genedlaethol, ac mae bellach yn far a bwyty bwyd cain. Wedi’i ddisgrifio yn ffeiliau’r cwmni fel ‘tŷ lesddaliad sylweddol a helaeth, wedi’i adeiladu’n dda’, lleolwyd yr eiddo mewn ‘rhan hynod ddymunol o Gaerdydd’ ac fe’i nodir am ei ‘geinder’ a’i ‘wydnwch’.

Ffigwr 1 – 20 Parc y Plas, nawr

Ffigwr 2 – Manylion ocsiwn, 1891
Mae’r manylion ar gyfer yr ocsiwn (Ffigwr 2) yn esbonio sut roedd ysgutor yr ewyllys i berchennog blaenorol y tŷ wedi penderfynu ei werthu. Yn wir, mae’n dweud bod yr eiddo wedi bod ‘yn ddiweddar ym meddiant yr Hynafgwr McConnochie, ymadawedig’. Roedd Hynafgwr, neu Alderman yn Saesneg, yn aelod o lywodraeth leol, a phreswylydd ymadawedig 20 Plas y Parc mewn gwirionedd oedd yn John McConnochie. Yn ffigwr hynod ddiddorol yn hanes Caerdydd, bu McConnochie yn Prif Beiriannydd Dociau Bute a gwasanaethodd ar un adeg fel Maer Caerdydd o 1879 i 1880. Eto i gyd, mae’r dogfennau sydd yn y ffeil yn datgelu i ni rai canfyddiadau diddorol a phersonol am gartref John. Adeiladwyd yr eiddo ‘fel ei breswylfa ei hun’ ym 1872, ac roedd yn cynnwys islawr, llawr gwaelod, llawr cyntaf ac ail lawr, gyda’r tu allan yn cynnwys stabl a choetws. Roedd y tŷ hefyd yn cynnwys llyfrgell, cwr y gweision ac ystafell filiards (hamdden). Mae’r stocrestr yn y ffeil yn rhoi cip pellach ar gartref moethus John: roedd ganddo lestri arian, cadair llyfrgell ‘yn troi’, dodrefn mahogani, paentiad o ‘olygfeydd Albanaidd’ a hyd yn oed ‘arfwisg ddur’.

Ffigwr 3 – Dyluniadau pensaer

Ffigwr 4 – Dyluniadau pensaer
Y berl yn y ffeil achos yma, fodd bynnag, heb amheuaeth yw’r dyluniadau pensaernïol gwreiddiol ar gyfer yr eiddo. Gall rhywun ddychmygu John mewn ymgynghoriad a’i bensaer ‘nodedig’, neb llai mewn gwirionedd na William Burges, a oedd yn enwog am ddylunio llawer o adeiladau yng Nghaerdydd, megis Castell Caerdydd a Chastell Coch. Fel y gwelwn yn Ffigurau Tri a Phedwar, prin fod y tŷ wedi newid, ac mae’n dal i fod â phresenoldeb trawiadol ar Blas y Parc. Mae tuedd poblogaidd pensaernïaeth gothig yn amlwg, gyda bwâu a chynllun lliw tywyll yr eiddo.
Y tro nesaf y byddwch yn crwydro drwy ganol dinas Caerdydd, cymerwch amser i edmygu 20 Plas y Parc, a oedd unwaith yn gartref a ddyluniwyd yn ofalus, ac a godwyd yn unswydd i fod yn gartref i John McConnachie. Gellir gweld y ffeiliau achos hyn yng nghasgliad Stephenson ac Alexander yn Archifau Morgannwg, trwy ofyn am: DSA/12/358 a DSA/2/166.
Hannah Bartlett, Myfyriwr Lleoliad SHARE Prifysgol Caerdydd