Mae’r ffotograffau a ddewiswyd yr wythnos hon o gasgliad Edwin Miles yn rhoi cipolwg ar un o “blastai coll” Bro Morgannwg, yr Ham yn Llanilltud Fawr.
Adeiladwyd cartref y teulu Nicholl, y plasty, yn y 1860au ac roedd yn waith y pensaer a’r hanesydd celf, Matthew Digby Wyatt, a gyfrannodd hefyd at gynllun Gorsaf Paddington, Swyddfa India a’r Crystal Palace.
Er ei fod ar raddfa llawer llai, roedd yr Ham, a adeiladwyd yn yr hyn y cyfeirir ato weithiau fel yr arddull Gothig, yn adeilad trawiadol, gyda’i dŵr cornel addurnedig a thu mewn a oedd yn cynnwys saith ystafell dderbyn a 17 ystafell wely. Roedd wedi’i leoli mewn 23 erw o dir a oedd yn cynnwys pedair erw o erddi.
Tynnodd Edwin Miles luniau o nifer o’r tai mawr yn y Fro, gyda nifer o’r ffotograffau’n cael eu defnyddio fel cardiau post. Mae’n debyg fod ei luniau o’r Ham, fodd bynnag, wedi eu tynnu at bwrpas gwahanol. Tynnodd gyfanswm o 54 llun, hanner ohonynt o du allan y tŷ a’r gerddi a’r hanner arall o brif ystafelloedd y plasty.
Mae’r cliw i’w pwrpas i’w weld yn y dyddiad, Ebrill 1912. Yng ngwanwyn 1912, roedd teulu Nicholl wedi dewis gwerthu neu osod y tŷ. Fel cam cyntaf, cafodd Stephenson and Alexander, Arwerthwyr a Syrfewyr ar Stryd Fawr, Caerdydd, eu comisiynu i werthu llawer o’r dodrefn a’r ffitiadau dros ddeuddydd ym mis Mehefin 1912.
Mae copi o’r llyfryn a gafodd ei lunio ar gyfer yr arwerthiant wedi’i gadw yn Archifau Morgannwg hefyd. Mae’n cadarnhau pa mor fawreddog oedd y tu mewn, er enghraifft, bwrdd crwn yn y llyfrgell a gwely yn ystafell wely 15 wedi’i fewnosod gydag ifori a phren ac yn wreiddiol o “The Summer Place in Peking”. Mae’n bosibl bod y ffotograffau wedi cael eu tynnu ar gyfer gwerthu’r tŷ neu, yn fwy tebygol, i roi cofnod i’r teulu o’r Ham ar ei anterth. Beth bynnag oedd eu pwrpas, roedden nhw’n nodi diwedd oes.
Cafodd yr Ham ei osod am y saith mlynedd nesaf ac yna ei werthu gan deulu Nicholl i Lewis Turnbull o’r teulu llongau, Turnbull Brothers, Steamship Brokers and Owners. Yn anffodus, fe’i dinistriwyd gan dân yn 1947.
Tynnodd Edwin Miles luniau o lawer o drefi a phentrefi ar draws Bro Morgannwg rhwng 1905 a 1929. Mae’r ffotograffau o’r Ham a ddefnyddir yn yr erthygl hon i’w gweld dan y cyfeirnod DXGC55/1-54. Mae’r llyfryn arwerthiant a gyhoeddwyd gan Stephenson & Alexander dan gyfeirnod DRA/21/464. Rydym yn bwriadu tynnu sylw at fwy o luniau o gasgliad Edwin Miles dros y misoedd nesaf. Gellir gweld y prif gasgliad yn Archifau Morgannwg neu ar-lein ar y catalog http://calmview.cardiff.gov.uk/ o dan gyfeirnod D261.
Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg