Mae’r diwrnod y mae llawer o ymchwilwyr wedi bod yn aros amdano yn prysur agosáu, gyda ffurflenni cyfrifiad 1921 ar gyfer Cymru a Lloegr ar gael i’w gweld yn ddigidol yn Find My Past Ddydd Iau 6 Ionawr 2022.

Disgyblion Ysgol Sant Padrig, Grangetown, Caerdydd (EC26/22)
Bydd cyfrifiad 1921 yn rhoi cipolwg anhygoel ar wledydd Prydain ar ôl y rhyfel byd cyntaf. Er bod y boblogaeth wedi parhau i dyfu, roedd y twf yn arafach o lawer, gyda chynnydd o 4.7% ers 1911. Erbyn 1921, roedd gan Brydain Fawr boblogaeth o 42,767,530, gydag 20,430,623 o ddynion a 22,336,907 o fenywod.
Cynhaliwyd Cyfrifiad Cymru a Lloegr 1921 ar nos Sul 19 Mehefin 1921. Cynlluniwyd yn wreiddiol y byddai’r cyfrifiad yn cael ei gynnal ar noson y 24 Ebrill 1921, ond gohiriwyd hyn oherwydd gweithredu diwydiannol. Roedd glowyr ar streic ac roedd posibilrwydd – y llwyddwyd i’w osgoi yn ddiweddarach – o streic genedlaethol (yn cynnwys gweithwyr trafnidiaeth) a yrrodd Lloyd George i alw sefyllfa o argyfwng ar 5 Ebrill 1921, a arweiniodd at alw’r Fyddin Wrth Gefn i fod wrth law a chreu Llu Amddiffyn newydd o 8 Ebrill.
Fodd bynnag, roedd gohirio’r cyfrifiad hyd at fis Mehefin hefyd yn peri’r risg y byddai’n rhedeg i dymor gwyliau, a allai yn ei dro arwain at ffigurau camarweiniol a darlun anghywir o’r boblogaeth. Roedd gwyliau glan môr ym Mhrydain wedi dod yn boblogaidd iawn, a byddai myfyrwyr prifysgol a myfyrwyr ysgolion preifat yn dechrau torri ar gyfer eu gwyliau haf ar yr adeg honno.

Llun tynnwyd yn stiwdio Fred Petersen, Stryd Bute (DXGC29/22)
Cynnal cyfrifiad 1921
Nid oedd cynnal cyfrifiad 1921 yn waith hawdd i’r 38,563 o rifwyr a gyflogwyd i ymgymryd â’r dasg. Dim ond am ychydig wythnosau y’u cyflogwyd, ac roedd y rhifwyr fel arfer yn glercod swyddfa neu’n athrawon a oedd i gyd yn gyfrifol am eu hardaloedd rhifo. Mewn ardaloedd gwledig, gallai hyn fod wedi bod yn ardal eang gyda llond llaw o aelwydydd, ond mewn ardaloedd trefol gallai ond pum stryd gynnwys dros 500 o aelwydydd!
Yn yr wythnosau cyn noson y cyfrifiad, bu’n rhaid i’r rhifwyr nodi’r holl aelwydydd o fewn eu hardal gyfrifo a chyfeirio ffurflen gyfrifiad ar gyfer pob un. Byddent wedyn, rhwng 11 a 18 o fis Mehefin, yn dosbarthu ffurflenni’r cyfrifiad yn ôl yr angen a’r argaeledd. Roedd hon ynddi ei hun yn dasg sylweddol. Gyda llawer o deuluoedd yn byw o dan yr un to, roedd pob teulu o fewn eiddo yn cael ei ystyried yn aelwyd ar wahân. Roedd disgyblion preswyl a oedd yn byw gyda theulu yn cael eu hystyried fel rhan o’r un aelwyd. Ac eto, roedd disgybl preswyl a gymerai wely ond a fwytai ar wahân i’r teulu yn cael ei ystyried fel aelwyd ar wahân!
Wedi’i gludo â llaw, byddai’r rhifwr yn rhoi cyfarwyddiadau ar sut i lenwi’r ffurflen a pha ddyddiad y byddent yn dychwelyd i’r eiddo i’w gasglu. Er bod cyfarwyddiadau manwl iawn, wedi’u hargraffu ac ar lafar, ar sut i lenwi ffurflen, roedd llawer yn dal i’w chwblhau’n wahanol ac yn anghywir, gan adael rhifwyr crac iawn i’w cywiro!

Casglu glo (DNCB14/1/8)
Am ba wybodaeth y gofynnodd cyfrifiad 1921?
- Enw pob person
- Eu perthynas â phennaeth yr aelwyd
- Eu hoedran – roedd hyn bellach yn ofynnol fel blwydd a misoedd, yn hytrach na blynyddoedd yn unig fel mewn cyfrifiadau blaenorol. Byddai hyn yn rhoi blwyddyn geni fwy cywir.
- Eu rhyw
- Os yn 15 oed neu’n hŷn, os yn sengl, yn briod neu wedi ysgaru
- Os o dan 15 oed, a yw rhieni’n fyw, “yn fyw”, “tad wedi marw”, “mam wedi marw” neu “y ddau wedi marw”
- Eu man geni, eu sir a’u tref neu’u plwyf (neu wlad ynghyd â gwladwriaeth, talaith neu ddosbarth ar gyfer personau a anwyd dramor)
- Os ganwyd dramor, cenedligrwydd
- P’un a ydynt yn mynychu’r ysgol neu sefydliad addysgol arall
- Crefft
- Cyflogwr
- Lleoliad gwaith
- Nifer ac oedrannau plant byw neu lysblant dan 16 oed
Roedd y rhifwr a gasglai’r ffurflen hefyd yn gyfrifol am gofnodi nifer yr “ystafelloedd byw” yn y safle.

Staff a Myfyrwyr Coleg Hyfforddi Morgannwg (ECOLLB73/7)
Roedd cwestiynau newydd a ychwanegwyd ers cyfrifiad 1911 yn cynnwys os yw priodas wedi’i diddymu drwy ysgariad – teimlwyd, gan fod ysgariadau wedi cynyddu’n sylweddol yn y blynyddoedd hyd at 1921, ei bod yn bwysig gwybod faint a gafwyd.
Cwestiwn newydd arall oedd lle’r oedd pob person yn gweithio, gyda’r bwriad o gael gwybodaeth am deithio cysylltiedig â mynd i’r gwaith.
Ar gyfer Cymru a Sir Fynwy, roedd cwestiwn ychwanegol i bob person (dros dair oed) ynghylch a oeddent yn siarad Cymraeg a Saesneg, Saesneg yn unig neu Gymraeg yn unig.
Cafodd y cwestiwn “ffrwythlondeb” fel y’i gelwir ei gyflwyno yn 1911 ynghylch sawl blwyddyn y buwyd yn briod a nifer plant ei ollwng; y rheswm a roddwyd oedd nad oedd canlyniadau’r cyfrifiad blaenorol wedi’u tablu eto. Hefyd, dilëwyd y cwestiwn am ddallineb, byddardod neu fudandod ar y sail bod rhieni wedi gwrthwynebu rhoi’r wybodaeth hon am eu plant, gyda’r canlyniad bod yr atebion a roddwyd yn y cyfrifiad blaenorol yn annibynadwy.

Glöwr o Benalltau yn golchi yn ei gartref (DNCB14/3/41/3)
Canlyniadau’r Cyfrifiad
O 20f Mehefin 1921, dychwelodd y rhifwyr i’w hardal gyfrifo a dechrau casglu’r ffurflenni cyfrifiad a gwblhawyd. Mae’n debyg mai hon oedd y dasg anoddaf oll!
Nid oedd llawer o deuluoedd gartref pan alwodd y rhifwr; roedd eraill wedi anghofio’n llwyr amdano, wedi llenwi’r ffurflen yn anghywir neu’n anghydweithredol iawn! Fodd bynnag, roedd Deddf Cyfrifiad 1920, a gomisiynwyd flwyddyn yn gynt, yn ei gwneud yn orfodol i bawb yng Nghymru a Lloegr gymryd rhan yn y cyfrifiad. Byddai methu â gwneud hynny yn arwain at ddirwyon trwm.
Mae ymchwilwyr hanes teulu wedi aros yn hir i weld rhyddhau ffurflenni cyfrifiad 1921, gan orfod aros yn eiddgar i gael gwybod beth oedd hanes eu teulu ym Mhrydain ar ôl y rhyfel ac ar ddechrau’r dauddegau gwyllt! Gyda chyfrifiad 1931 ar gyfer Cymru a Lloegr wedi’i ddinistrio gan dân, a chyfrifiad 1941 wedi’i ganslo oherwydd y rhyfel, mae’r cyfrifiad hwn yn rhoi’r wybodaeth helaethaf y mae ymchwilwyr wedi ei chael erioed gan unrhyw gyfrifiad, ac yn llenwi’r cyfnod amser sylweddol blaenorol rhwng cyfrifiad 1911 a Chofrestr 1939.
Bydd ffurflenni cyfrifiad 1921 ar gael i bawb eu cyrchu drwy Find My Past yn unig ar 6 Ionawr 2022. Bydd y cofnodion ar gael ar sail talu i weld – £2.50 ar gyfer pob trawsysgrif o gofnod a £3.50 ar gyfer pob delwedd o gofnod gwreiddiol. Bydd mynediad am ddim ar gael yn yr Archifau Cenedlaethol yn Llundain ac mewn amryw hwb rhanbarthol, gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.
Lowis Lovell, Archifydd