Pan fyddwn yn meddwl am luniau o’n cyndeidiau a dynnwyd yn y cyfnod Fictoraidd rydym yn dueddol o feddwl am luniau ohonynt yn sefyll yn anghyffyrddus heb ystum ar eu hwynebau. Bydd gan nifer ohonom esiamplau o’r rhain yn ein halbymau teulu ein hunain, a dynnwyd gan amlaf mewn stiwdio ffotograffydd.
Felly diddorol oedd gweld lluniau yn dangos ein cyndeidiau Fictoraidd yn edrych yn fwy hamddenol a chwareus. Mae dau o’r lluniau, o Gasgliad Insole Court, yn dangos grŵp tu allan i Neuadd Llanrhymni tua 1895. Mae’r llun cyntaf yn un traddodiadol ohonynt yn sefyll tu allan i’r Neuadd ac mae’r ail lun yn un mwy chwareus gyda’r grŵp, sy’n cynnwys gwŷr barfog hŷn, ar y lawnt yn edrych fel eu bod yn mwynhau!
Mae’r ddau lun arall yn dangos aelodau o’r teulu Edmondes o’r Bont-faen, yn sefyll yn ôl taldra mewn un llun ac yn pwyso ar ei gilydd yn chwareus yn y llall, sy’n hollol wahanol i’r lluniau traddodiadol yr ydym wedi arfer â hwy.
Wrth gwrs, roedd rhesymau da pam bod nifer o bobl o’r cyfnod Fictoraidd yn edrych mor ddiflas yn y lluniau. Roedd hi’n cymryd llawer o amser i dynnu llun ac roedd yn rhaid iddynt sefyll yn llonydd i osgoi lluniau aneglur. Roedd nifer ohonynt heb ag arfer â thynnu eu llun, gyda rhai ond wedi cael tynnu eu llun unwaith yn eu bywydau. Roedd rhai heb gael tynnu eu llun o gwbl yn ystod dyddiau cynnar ffotograffiaeth. Dywed rhai bod llawer o bobl o’r cyfnod â dannedd gwael ac felly ddim eisiau gwenu ar gyfer y camera!
Wrth i ni ddefnyddio ein camerâu, yn gallu gweld y lluniau’n syth a dileu ac ail-dynnu fel y mynnwn, mae’n werth cofio sut mae ffotograffiaeth wedi datblygu mewn 150 mlynedd!